BA Rheoli Llwyfan a Theatr Dechnegol: Sut i Ymgeisio

BA Rheoli Llwyfan a Theatr Dechnegol: Sut i Ymgeisio

I gael mynediad i gwrs BA (Anrh) Rheoli Llwyfan a Theatr Dechnegol o, mae’n rhaid i chi wneud cais drwy UCAS Israddedig. Mae yna ffi untro o £22.50 i ddefnyddio UCAS Israddedig (neu £27 os ydych yn gwneud cais am fwy nag un cwrs, coleg neu brifysgol). 

Os ydych mewn ysgol neu goleg yn y DU, gallwch gael gair cod gan eich athro neu eich cynghorydd gyrfaoedd er mwyn cofrestru gydag UCAS. Os ydych yn ymgeisydd annibynnol, neu os ydych yn byw y tu allan i’r DU, dylech ddefnyddio system gais ar-lein UCAS.

Cod Sefydliad UCAS Israddedig ar gyfer Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yw R86 a Chod y Cwrs ar gyfer BA (Anrh) Rheoli Llwyfan a Theatr Dechnegol yw W450.

Rydym yn argymell eich bod yn rhoi sylw penodol i’r wybodaeth yr ydych yn ei darparu yn eich datganiad personol ar eich ffurflen gais, er mwyn rhoi darlun mor glir â phosibl i ni o’ch profiad perthnasol a’ch rhesymau dros wneud cais.

 

Dyddiadau ar gyfer Gwneud Cais

Ceisiadau’n agor 3 Mai 2022 
Ceisiadau’n cau 25 Ionawr 2023 am 18:00 (amser y DU) 

 

Cymorth a Chyngor gan UCAS Israddedig

Os oes angen help arnoch gyda’ch cais, gallwch gysylltu â Thîm UCAS Israddedig drwy ffonio 0371 468 0 468 (os ydych yn y DU) neu +44 330 3330 230 (os ydych y tu allan i’r DU).