Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Sut i ymgeisio – BA Cynllunio ar gyfer Perfformio

Popeth sydd angen i chi wybod am wneud cais i astudio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Sut i ymgeisio

I gael mynediad i gwrs, mae’n rhaid i chi wneud cais drwy UCAS Israddedig. Mae yna ffi untro o £27.50 i ddefnyddio UCAS Israddedig.

Os ydych mewn ysgol neu goleg yn y DU, gallwch gael gair cod gan eich athro neu eich cynghorydd gyrfaoedd er mwyn cofrestru gydag UCAS. Os ydych yn ymgeisydd annibynnol, neu os ydych yn byw y tu allan i’r DU, dylech ddefnyddio system gais ar-lein UCAS.

Cod Sefydliad UCAS Israddedig ar gyfer Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yw R86 a Chod y Cwrs ar gyfer Gradd Sylfaen mewn Adeiladu Golygfeydd yw RW01.

Rydym yn argymell eich bod yn rhoi sylw penodol i’r wybodaeth yr ydych yn ei darparu yn eich datganiad personol ar eich ffurflen gais, er mwyn rhoi darlun mor glir â phosibl i ni o’ch profiad perthnasol a’ch rhesymau dros wneud cais.

Portffolio

Ar ôl i chi gyflwyno’ch cais drwy UCAS Undergraduate, byddwn yn eich gwahodd i gyflwyno portffolio o’ch gwaith drwy Acceptd (byddwch yn derbyn rhagor o wybodaeth am Acceptd ar ôl i ni dderbyn eich cais).

Mae’n rhaid i’ch portffolio gynnwys eich gwaith eich hun a gwaith rydych chi am i’r panel ei weld tra’n ystyried eich cais. Gall hyn fod yn unrhyw beth o baentiadau, lluniau, brasluniau, cerfluniau, gwisgoedd, modelau, bocsys model, ffotograffau ac ati. Mae’r panel yn disgwyl gweld tystiolaeth o gynlluniau a lluniau sy’n gysylltiedig â’r theatr yn y portffolio. Rydym yn argymell nad ydych chi’n golygu’r gwaith rydych chi’n ei gynnwys yn eich portffolio. Mae gennym ni ddiddordeb mewn gweld eich holl waith gan gynnwys darnau rydych chi’n eu hystyried yn dda a’r rhai nad ydynt cystal.

Bydd ein tiwtoriaid Dylunio ar gyfer Perfformio yn ystyried eich cais UCAS a’r portffolio gyda’i gilydd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu gwahodd i gyfweliad ar-lein ar Zoom. Bydd gwahoddiadau i gyfweliadau yn cael eu gwneud drwy Acceptd.

Bydd tiwtoriaid yn ystyried y cyfweliad, y cais UCAS a’r portffolio cyn penderfynu a fydd cynnig i astudio yn cael ei wneud.

Dyddiadau ar gyfer gwneud cais

Ceisiadau’n agor

16 Mai 2023

Ceisiadau’n cau

31 Ionawr 2024 am 18:00 (amser y DU)

Os oes angen help arnoch gyda’ch cais, gallwch gysylltu â Thîm UCAS Israddedig drwy ffonio 0371 468 0 468 (os ydych yn y DU) neu +44 330 3330 230 (os ydych y tu allan i’r DU).