Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Dewch i Cymrawd newydd Sarah Hemsley-Cole, un o raddedigion ein cwrs Rheoli Llwyfan

Dyfarnwyd Cymrodoriaeth er Anrhydedd i Sarah llynedd i gydnabod ei chefnogaeth barhaus a hael i’r Coleg, a’i gwaith yn hyrwyddo’r genhedlaeth nesaf o reolwyr llwyfan, cynllunwyr ac artistiaid creadigol, gyda ffocws penodol ar gefnogi menywod.

Technegydd y Flwyddyn 2020

Yn 2020, Sarah oedd yr ail fenyw erioed i ennill Gwobr Cymdeithas Technegwyr Theatr Prydain, sy’n golygu mai hi oedd Technegydd y Flwyddyn 2020.

Sarah yw sylfaenydd a chyfarwyddwr y cwmni rheoli digwyddiadau SC Productions Ltd a llwyddom i gael gair gyda hi cyn ei gwaith dros yr haf yn rheoli sioeau Wembley a Chaerdydd y seren fyd-enwog Taylor Swift.

Sarah yn dangos i’r myfyrwyr sut mae gwneud yn siŵr bod y llinell gynllunio’n gywir

Beth ydych chi fwyaf balch ohono fel menyw yn y diwydiant digwyddiadau?

Mae’n bwysig dangos y daith gadarnhaol y gallwn fynd arni. Ym myd digwyddiadau byw yn arbennig, gan ganolbwyntio ar reoli safle a gwaith cynhyrchu, mae llai o fenywod, ac roedd hyd yn oed llai pan ddechreuais yn y 90au hwyr: nid oedd byd roc a rôl yn amlwg yn fyd menywod.

Dros fy 30 mlynedd yn y diwydiant rydw i wedi hyrwyddo amlygrwydd menywod yn y sector – mae’n bwysig i fenywod ifanc gael modelau rôl i anelu atynt a chael eu dylanwadu ganddynt. Bu’n rhaid i ni fod yn arloeswyr ac estyn ein llaw i’r merched oedd yn dod y tu ôl i ni. Dyna pam y sefydlais NOWIE (Rhwydwaith Menywod mewn Digwyddiadau) gyda fy nghydweithiwr a’m ffrind Zoe Fox. Mae’n gynulliad, yn gysylltiad o fenywod ac yn rhoi cryfder a llais gwirioneddol i ni, gan herio’r status quo i wneud yn siŵr ein bod yn unioni’r fantol a, hyd yn oed os ydym yno yn gwneud y gwaith, ein bod yn cael ein cynrychioli.

Soniwch ychydig wrthym am weithio gyda’n myfyrwyr a’n graddedigion

Mae’r Coleg wedi bod yn rhan annatod o bopeth rydw i wedi’i wneud yn fy ngyrfa. Roedd y Coleg yn dda iawn i mi; rhoddodd y sgiliau a’r hyfforddiant hollbwysig i mi, ac rwy’n cydnabod hynny yn y cenedlaethau sydd wedi dod yno ar fy ôl i.

Mae wedi bod yn bwysig iawn i mi i gynnal y berthynas honno a’r rhwydwaith hwnnw o gymorth, dysgu a mentora.

Dros y blynyddoedd rydw i wedi cyflogi tua 200 o raddedigion, yn ogystal â’r rheini rydw i wedi’u hargymell i eraill yn y diwydiant. Byddaf yn rhoi darlithoedd ac yn gweithio gyda’r myfyrwyr bob blwyddyn, sy’n golygu fy mod yn adnabod pob carfan a’r sgiliau penodol sydd ganddynt. Yn ogystal â myfyrwyr Rheoli Llwyfan a Chynllunio ar gyfer Perfformio, rydw i hefyd yn gweithio gyda’r cwrs Rheolaeth yn y Celfyddydau ac yn cyflogi graddedigion o’r cwrs hwnnw hefyd.

Rwy’n ei gweld fel rhan o’m rôl i fentora ac argymell fy nghyd aelodau Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Un felly yw ein byd rheoli llwyfan, mae yna lawer o rwydweithio a chyd-gefnogaeth

‘Yn aml yn fy rôl mae’n rhaid i mi roi timau at ei gilydd a’r man cyntaf y byddaf yn edrych bob amser yw graddedigion Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru oherwydd fy mod yn gwybod y gallaf ymddiried ynddynt i wneud y gwaith gorau posibl.

Rwy’n gwybod sut fath o hyfforddiant maent wedi’i gael. Rwy’n gwybod beth fydd yn gweithio. Rwy’n gwybod am eu sgiliau a’u hangerdd. Rwy’n sicr o hynny.’
Sarah Hemsley-Cole

Dywedwch wrthym am rai o’ch hoff brosiectau diweddar

Rydym yn rheoli cynhyrchiad panto blynyddol CBBC, ac yn aml rwy’n gweithio gyda graddedigion eraill cwrs Cynllunio ar gyfer Perfformio CBCDC. Rydw i wedi gwneud llawer o waith gyda National Theatre Wales dros ei fodolaeth. 

Rydym wedi bod yn gysylltiedig â chynyrchiadau awyr agored safle-benodol anferth ac uchelgeisiol, yn arbennig prosiect ‘The Passion’ Michael Sheen, a oedd yn cynnwys tua 30 o fyfyrwyr a graddedigion yn gweithio i mi, a hefyd gwaith arloesol ‘City of the Unexpected’ Roald Dahl, sef cynhyrchiad rhyfeddol a gynhaliwyd ledled Caerdydd ac a oedd yn cynnwys cannoedd o actorion a gwirfoddolwyr lleol. Beth bynnag y byddwn yn ei wneud, mae yna berthynas waith gref gyda’r Coleg bob amser.

Fi oedd y cynhyrchydd arweiniol ar gyfer digwyddiad agoriadol Dinas Diwylliant Coventry 2021, gan ddod â’r Ddinas ynghyd ar gyfer dathliad a chreu digwyddiad i’w ddarlledu, tra bod cyfyngiadau Covid yn dal mewn grym. Fe ddes â thîm cymharol fach o 40 ynghyd ar gyfer y digwyddiad hwn gydag un o raddedigion y Coleg Anthony Field, (a fu’n Rheolwr Cwmni ar gyfer ‘Moulin Rouge’ yn y West End yn ddiweddar) yn Rheolwr Llwyfan y Cwmni, gan weithio gyda graddedigion Rheoli Llwyfan mwy diweddar yn y tîm sain.

Dyma enghraifft arall o arddangos talent ac ysbrydoli a dangos i’r bobl ifanc leol sy’n cymryd rhan beth sy’n bosibl o fewn y llwybr gyrfa hwn.

Yn 2022 gwnaethom weithio gydag Ed Sheeran ar ei sioeau enfawr a werthodd bob tocyn – a hefyd cyngerdd Stereophonics a Tom Jones yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd.

Byddaf wastad yn gwneud yn siŵr fy mod yn neilltuo amser i weithio ar Eisteddfod yr Urdd, waeth pa mor awyddus yw Ed Sheeran i sicrhau fy ngwasanaeth! Mae’n ŵyl mor bwysig i Gymru ac rydw i wedi bod yn gweithio fel rheolwr safle ers 2012

Golwg o’r awyr o Eisteddfod yr Urdd

Storïau eraill