

Sut i ymgeisio - MFA a MA Rheolaeth yn y Celfyddydau
Popeth sydd angen i chi wybod am wneud cais i astudio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Sut i ymgeisio - MFA
- I gael mynediad i’r cwrs, rhaid i chi wneud cais drwy Acceptd. Nid oes angen cais ar wahân drwy UCAS.
- I gyflwyno’ch cais, crewch gyfrif am ddim yn gyntaf ar www.getacceptd.com
- Yna, mewngofnodwch i’ch cyfrif Acceptd ac ewch i dudalen lanio RWCMD
- Ac yna dewiswch:
- Application type: Postgraduate
- Department: Drama
- Course: MFA
- Programme: dewiswch y llwybr o’ch dewis (MFA in Directing (Theatre, Opera & Musical Theatre)/ MFA in Movement Direction/ MFA in Voice, Speech and Text Coaching/ MFA in Writing Drama)
- Cliciwch y botwm gwyrdd i ddechrau’r cais.
Sut i ymgeisio - MA Rheolaeth yn y Celfyddydau
- I gael mynediad i’r cwrs, rhaid i chi wneud cais drwy Acceptd. Nid oes angen cais ar wahân drwy UCAS.
- I gyflwyno’ch cais, crewch gyfrif am ddim yn gyntaf ar www.getacceptd.com
- Yna, mewngofnodwch i’ch cyfrif Acceptd ac ewch i dudalen lanio RWCMD
- Ac yna dewiswch:
- Application type: Postgraduate
- Department: Drama
- Course: MA Arts Management
- Programme: select chosen pathway (General Arts Management/ Creative Producing/Orchestral Management)
- Cliciwch y botwm gwyrdd i ddechrau’r cais.
· Argymhellwn eich bod yn rhoi sylw arbennig i’r wybodaeth a ddarperir gennych yn eich datganiad personol ar y ffurflen gais er mwyn rhoi darlun gyflawn â phosibl i ni o’ch profiad perthnasol a rhesymau dros wneud cais.
· Bydd ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael cyfweliad. Dyma eich cyfle i roi rhagor o wybodaeth i gefnogi eich cais. Bydd y tiwtoriaid yn gofyn i chi drafod diddordebau penodol, profiad ymarferol a dyheadau gyrfa. Byddwch hefyd yn cael y cyfle i ofyn cwestiynau penodol sy’n ymwneud â’r rhaglen.
Dyddiadau ar gyfer gwneud cais
| Cwrs | MFA |
|---|---|
| Ceisiadau’n agor | 1 Rhagfyr 2025 |
| Ceisiadau’n cau | Rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn diwedd Mawrth 2026. Byddwn yn parhau i dderbyn ceisiadau ar gyfer y cwrs hwn cyhyd ag y bydd lleoedd ar ôl. |
| Cwrs | MA Rheoli Llwyfan a Digwyddiadau |
|---|---|
| Ceisiadau’n agor | 2 Hydref 2025 |
| Ceisiadau’n cau | Rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn diwedd Mawrth 2026. Byddwn yn parhau i dderbyn ceisiadau ar gyfer y cwrs hwn cyhyd ag y bydd lleoedd ar ôl. |
Cyrsiau

MFA mewn Cyfarwyddo (Theatr, Opera a Theatr Gerddorol)

MFA mewn Cyfarwyddo Symud

MFA mewn Hyfforddi Llais, Lleferydd a Thestun

MFA mewn Ysgrifennu Drama
