Yn CBCDC, ein huchelgais yw creu amgylchedd ymchwil a menter integredig sy’n deori gwaith newydd ac yn arloesi ar gyfer y celfyddydau.
Ein nod yw hyrwyddo gwaith artistig ac ymarfer proffesiynol newydd ar draws y disgyblaethau, wrth gwneud y defnydd gorau o dechnolegau integredig. Mae amgylchedd strwythuredig ymchwil a chyfnewid gwybodaeth yn sail i’n hymagwedd tuag at arloesi, gyda meysydd ymchwil â ffocws, ffordd gydweithredol o weithio a chyfnewid gwybodaeth wedi’i ymgorffori yn ein gwaith.
Trwy waith mentrus dan arweiniad myfyrwyr a graddedigion sy’n cael eu deori a’u hymgorffori trwy ein rhaglenni gradd, rydym hefyd yn defnyddio arloesedd fel ffordd o gysylltu â chynulleidfaoedd newydd.
Amgylchedd Ymchwil
Fel arweinydd yn ein maes, rydym yn magu amgylchedd arbenigol o ragoriaeth, cynwysoldeb ac arloesedd – man lle mae meddyliau mawr yn cydweithredu ac yn cyfnewid gwybodaeth a syniadau newydd.
Y DIWEDDARAF
Ni fu erioed amser pwysicach i gydnabod gwerth creu cerddoriaeth ar gyfer lles ac iechyd diwylliannol, ac arwyddocâd diwydiant cerddoriaeth y DU fel ased cenedlaethol. Mae Prifathro CBCDC, yr Athro Helena Gaunt, wedi bod yn llais blaenllaw yn y drafodaeth hon gan arwain at y prosiect ymchwil cydweithredol pedair blynedd Strengthening Music in Society.