Sefydlodd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 fframwaith cyfreithiol i osod dyletswydd statudol ar gyrff cyhoeddus yng Nghymru i gydymffurfio â’r Safonau Iaith Gymraeg newydd.
Mae Safonau’r Gymraeg yn gyfres o ofynion cyfreithiol sy’n ceisio gwella’r gwasanaethau dwyieithog y gall unigolion ddisgwyl eu derbyn gan gyrff cyhoeddus a sefydliadau gan gynnwys Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Mae’r Safonau’n rhestri cyfrifoldebau’r Coleg wrth ddarparu’r gwasanaethau hyn, gan sicrhau na chaiff yr iaith Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na’r Saesneg. Daeth y Safonau ar gyfer y Coleg i rym ar 1 Ebrill 2018.
Gweler isod dolen i’n Strategaeth y Gymraeg a Diwylliant Cymru.
Strategaeth y Gymraeg a Diwylliant Cymru
Mae Comisiynydd yr Iaith Gymraeg wedi cynnwys pedair thema safonol yn ein Hysbysiad Cydymffurfiaeth derfynol ac fe’u rhestrir isod.
Thema’r Safon | I Bwy Mae’n Berthnasol |
---|---|
Safonau Cyflenwi Gwasanaethau | Myfyrwyr, darpar-fyfyrwyr ac aelodau’r cyhoedd er mwyn hybu neu hwyluso’r iaith Gymraeg ac i sicrhau nad yw’r iaith Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol. |
Safonau Gweithredu | Staff CBCDC – mynd i’r afael â sut rydym yn gweithio o ddydd i ddydd. |
Safonau Llunio Polisi | Staff CBCDC – ystyried pa effaith mae penderfyniadau polisi yn ei gael ar allu person i ddefnyddio’r iaith Gymraeg. |
Safonau Cadw Cofnodion | Staff CBCDC – mae hwn yn golygu cadw cofnodion ar rai o’r safonau e.e. nifer y staff sy’n siarad Cymraeg a nifer y cwynion a dderbyniwyd am beidio â chydymffurfio â’r safonau. |
Gweld copi o Hysbysiad Cydymffurfio’r Coleg.
Mae Safonau’r Iaith Gymraeg yn mynnu bod y Coleg yn cyhoeddi adroddiad blynyddol ar gyfer pob blwyddyn ariannol, sy’n delio â’r ffordd y mae wedi cydymffurfio yn ystod pob cyfnod adrodd. Mae’r rhain i’w gweld isod: