Ein Llogi Ni

Ein Llogi Ni

Mae galw mawr am ein cyfleusterau o safon byd, sy’n sicr o roi hwb i’ch digwyddiad, ac maen nhw ar gael i’w llogi’n egsgliwsif. Rydym wedi ennill enw da am gynnal digwyddiadau rhyngwladol o’r radd flaenaf, dathliadau personol clos, darllediadau byd-eang a llwyddiannau perfformio cyffrous.

Yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, cewch gefnogaeth ein tîm llawn, a fydd yn cynnig gwasanaethau cynllunio digwyddiadau proffesiynol, cefnogaeth dechnegol brofiadol ac arbenigol, arlwyo heb ei ail, gofal cwsmeriaid croesawus a doniau perfformio disglair.

Gadewch i ni gynnal eich digwyddiad – byddwch mewn cwmni da:

NATO • Cerddor Ifanc y BBC • Arddangosfa World Stage Design • Elusen Aloud • Cynghrair Pencampwyr UEFA • Cerddorfa Ieuenctid Genedlaethol Prydain • Yswiriant Admiral • Ffilmiau Pinewood • Aston Martin • Dr Who • BBC Canwr y Byd Caerdydd

Ewch ar daith rithwir 360 gradd o’n cyfleusterau

 

Cychwyn y daith