Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn gymwys i wefan Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn www.rwcmd.ac.uk.
Rheolir y wefan hon gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Rydym am weld cymaint o bobl â phosib yn defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu gwneud y canlynol:
- Nesáu hyd at 300% heb i’r testun orlifo oddi ar y sgrin.
- Addasu uchder llinell a bylchau testun gan ddefnyddio ategion porwr.
- Llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig.
- Neidio i gynnwys pob tudalen.
- Gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin.
Rydym hefyd yn gweithio i sicrhau bod testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall.
Pa mor hygyrch yw’r wefan hon
Rydym yn gwybod nad yw pob rhan o’r wefan hon yn gwbl hygyrch, ac rydym yn gwneud ein gorau i ddatrys y problemau hyn:
- Nid oes gan rai delweddau destun amgen.
- Nid yw dogfennau y gellir eu lawrlwytho, gan gynnwys y rhai ar ffurf PDF, yn gwbl hygyrch.
- Nid oes gan y mwyafrif o fideos gapsiynau.
- Mae strwythur y penawdau ar rai tudalennau yn anghywir.
- Mae rhai o’n tudalennau’n cynnwys deunydd o system docynnau ar-lein a ddarperir gan gyflenwr allanol. Rydym yn ymwybodol o broblemau hygyrchedd gyda’r system hon.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon
Rydym yn awyddus bob amser i wella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn ymwybodol o unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru yma neu os na fyddwch o’r farn ein bod yn bodloni gofynion o ran hygyrchedd, cysylltwch â webmaster@rwcmd.ac.uk.
Wrth gysylltu â ni, darparwch:
- Cyfeiriad gwe’r dudalen lle daethoch o hyd i’r broblem.
- Disgrifiad o’r broblem (ac a oedd hyn ar ddyfais symudol neu gyfrifiadur).
- Enw ac, os yn bosibl, fersiwn y porwr gwe sy’n cael ei ddefnyddio.
- Manylion unrhyw dechnoleg gynorthwyol sy’n cael ei defnyddio (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin).
Gweithdrefn gorfodi
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os ydych yn anhapus â’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfio
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1, yn sgil yr hyn nad yw’n cydymffurfio â nhw sydd wedi’u rhestru isod.
Cynnwys anhygyrch
Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.
Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd
Nid yw rhai agweddau’r wefan hon yn cydymffurfio â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1, fel y dangosir isod.
Problemau gyda thestun
- Mae gan rai tudalennau strwythurau pennawd anghywir (WCAG 1.3.1).
- Efallai na fydd testun disgrifiadol mewn rhai dolenni yn addysgiadol nac yn disgrifio cyrchfan y ddolen yn ddigonol (WCAG 2.4.4).
Problemau gyda delweddau
- Nid oes gan rai delweddau sydd angen disgrifiad unrhyw destun amgen neu mae ganddynt destun amgen sydd ddim yn ddigon disgrifiadol (WCAG 1.1.1).
Problemau gyda thablau
- Nid oes gan rai tablau unrhyw benawdau (WCAG 1.3.1).
- Ni ellir gweld rhai tablau llydan ar sgriniau bach (WCAG 1.4.10).
Problemau gyda sain a fideo
- Nid oes gan rai fideos gapsiynau (WCAG 1.2.2).
- Ni ellir oedi fideos cefndir (WCAG 2.2.2).
Problemau gyda PDFs a dogfennau eraill
- Nid yw rhai dogfennau PDF a Word yn cwrdd â safonau hygyrchedd – efallai na fyddant wedi eu marcio fel eu bod yn hygyrch i raglen ddarllen sgrin, ac efallai na fydd modd eu llywio trwy ddefnyddio penawdau (WCAG 4.1.2).
Problemau gyda llywio gan ddefnyddio bysellfwrdd
- Gall orielau lluniau fod yn anodd eu llywio gan ddefnyddio bysellfwrdd (WCAG 2.1.1).
Problemau gyda chynnwys wedi’i fewnosod
- Mae tudalennau’n cynnwys elfennau iframe sydd ddim yn cynnwys priodoledd teitl sy’n nodi’r ffrâm (WCAG 2.4.1).
Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 20 Medi 2020. Cafodd ei ddiweddaru diwethaf ar 20 Medi 2020.
Cafodd y wefan hon ei phrofi diwethaf ym mis Medi 2020. Cynhaliwyd y prawf gan staff yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Fe wnaethon ni brofi sampl gynrychioliadol o dudalennau’r wefan.