Past Event

Sunday in the Park with George

Tocynnau

Sunday in the Park with George

- Performance times: 07:15 yp 02:00 yp
Musical Theatre Richard Burton Company

Un o gampweithiau mwyaf adnabyddus Stephen Sondheim, mae Sunday in the Park with George yn dychmygu sut y daeth George Seurat i beintio ei waith enwocaf, A Sunday Afternoon on the Island of La Grande Jatte. Gan ddechrau gyda chynfas gwag mae George yn arsylwi ac yn ceisio dal y cymeriadau sy’n mynychu’r parc, gan gynnwys Dot, model a chariad George. Ond faint allwn ni ei ddal mewn gwirionedd? Ydyn ni eisiau gweld y gwir neu argraff, a beth mae’r arlunydd yn ei aberthu? Gyda cherddoriaeth a geiriau hynod gyfoethog, y gallai ond Sondheim eu hysgrifennu, mae’r sioe gerdd hon yn archwilio cariad at y rheini sydd o’n cwmpas a’r awydd anniwall i greu.

 

AM WYBODAETH LAWN AM Y CAST A'R TÎM CREADIGOL, GWELER Y RHAGLEN YMA.

Cerddoriaeth a Geiriau gan Stephen Sondheim
Llyfr gan James Lapine
Cyfarwyddwr Sarah Tipple

Cyfarwyddwyd yn wreiddiol ar Broadway gan James Lapine
Cynhyrchwyd yn wreiddiol ar Broadway gan The Shubert Organisation ac Emanuel Azenberg
Drwy drefniant gyda Playwrights Horizon, Inc. Efrog Newydd a gynhyrchodd y cynhyrchiad gwreiddiol o "Sunday in The Park With George" ym 1983. Cyflwynir y cynhyrchiad amatur hwn trwy drefniant gyda Music Theatre International. Mae’r holl ddeunyddiau perfformiad awdurdodedig hefyd yn cael eu cyflenwi gan MTI www.mtishows.co.uk