Mae partneriaethau busnes yn ein helpu i ehangu mynediad at hyfforddiant a chreu cyfleoedd i’n myfyrwyr yn ogystal â chefnogi ein rhaglen o berfformiadau cyhoeddus o’r radd flaenaf a gweithgareddau dysgu a chyfranogi gwerth chweil ar gyfer y gymuned ehangach ledled Cymru.
Yn gyfnewid am fuddsoddiad gallwn ddarparu buddion masnachol gan gynnwys datblygiad brand, marchnata a chyfleoedd proffilio, profiadau cofiadwy i gleientiaid, gweithgareddau ar gyfer ymgysylltu a lles staff, yn ogystal â mentrau sy’n cynorthwyo i fodloni amcanion cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol pwysig.
“Mae ein partneriaeth â Choleg Brenhinol Cymru wedi dod yn esiampl o sut y gall busnes weithio gyda sefydliadau celfyddydol er budd pawb. Mae nawdd Valero o’r Stiwdio Actorion Ifanc yng Ngorllewin Cymru wedi bod yn ffordd hynod effeithiol o ddangos ei ymrwymiad i'r gymuned leol.”
Stephen Thornton, Rheolwr PGPA yn Valero
Pyped a grëwyd ar gyfer Wales & West Utilities er mwyn egluro peryglon carbon monocsid i bobl ifanc.
Mae tîm y Coleg yn brofiadol mewn gweithio’n agos â busnesau i greu partneriaethau sydd wedi’u halinio’n dda, sy’n rhoi gwerth ac yn creu effaith, ac yn 2020 dyfarnwyd Gwobr Celfyddydau Sefydliad Hodge iddo, sy’n cydnabod y sefydliad celfyddydau sy’n gweithio fwyaf creadigol gyda busnesau, yng Ngwobrau Celfyddydau a Busnes Cymru.
Mae’r nawdd gorau bob amser yn deillio o feddwl a chreadigrwydd ar y cyd – i ddechrau sgwrs gyda ni, cysylltwch â: development@rwcmd.ac.uk.