Os hoffech chi helpu i sicrhau bod myfyrwyr Coleg Brenhinol Cymru yn parhau i gael y profiadau hyfforddi gorau posib ac i gael eu hysbrydoli drwy weithio gyda’r artistiaid proffesiynol gorau, gallwch wneud hynny drwy ddod yn aelod o Cyswllt.
Mae Cyswllt yn gynllun rhoi sydd wedi’i gynllunio i’ch galluogi i gefnogi ein myfyrwyr a dyfnhau eich ymwneud â phopeth sy’n digwydd yma.
Mae rhoddion Cyswllt yn rhoi cefnogaeth i ddwy gronfa:
Cronfa Cyswllt Cyfeillion
Gall myfyrwyr wneud cais yn uniongyrchol i’r gronfa hon am gymorth gydag ystod o brosiectau’n ymwneud â’u hyfforddiant, e.e. arian tuag at offeryn newydd, cefnogaeth er mwyn mynd â chynhyrchiad myfyrwyr ar daith neu gostau teithio i gystadlaethau rhyngwladol. Hefyd rhoddir gwobrau a bwrsariaethau blynyddol o’r gronfa hon.
Cyswllt Cyfeillion | Rhodd Flynyddol £30 | Ymunwch Nawr |
Cronfa Cyswllt
Hon yw prif gronfa’r Coleg sy’n cefnogi cyfleoedd perfformio cyhoeddus y myfyrwyr, a’r stondinau actio yng Nghaerdydd, Llundain ac Efrog Newydd, ynghyd a’u rhyngweithio gydag artistiaid blaenllaw sy’n ymweld ac yn perfformio yn y Coleg. Mae’r ymgysylltiad rheolaidd hwn gyda’r rheini sydd eisoes yn gweithio yn y celfyddydau yn amhrisiadwy wrth baratoi myfyrwyr i fynd i’r proffesiwn yn llwyddiannus unwaith y byddant wedi graddio.
Cyswllt Coleg | £5 y mis | £60 rhodd flynyddol | Ymunwch Nawr |
Cyswllt Coleg Aur | £20 y mis | £240 rhodd flynyddol | |
Cyswllt Noddwr | £50 y mis | £600 rhodd flynyddol | |
Cyswllt Noddwr Aur | £100 y mis | £1200 rhodd flynyddol |
Buddion
BYDDWCH YN DERBYN | Cyswllt Cyfeillion | Cyswllt Coleg | Cyswllt Coleg Aur | Cyswllt Noddwr | Cyswllt Noddwr Aur |
Copiau o’r Rhaglen (bob tymor) | ● | ● | ● | ● | ● |
Cydnabyddiaeth o gefnogaeth ar wefan y Coleg | ● | ● | ● | ● | ● |
Gwahoddiadau i ddigwyddiadau codi arian ar gyfer Cronfa Cyswllt Cyfeillion wedi’u trefnu gan yr aelodau | ● | ● | ● | ● | ● |
Gwahoddiad i ddigwyddiad Te gyda’r Prifathro, achlysur blynyddol a gynhelir | ● | ● | ● | ● | ● |
Copi o newyddlen flynyddol y Coleg i roddwyr | ● | ● | ● | ● | ● |
Gwahoddiadau i ymuno ag aelodau eraill ar gyfer digwyddiadau a lletygarwch a noddir gan y Gronfa Cyswllt | ● | ● | ● | ● | |
Cydnabyddiaeth o gefnogaeth yn rhaglenni perfformiadau a noddir gan Gronfa Cyswllt | ● | ● | ● | ● | |
Cyfnod Blaenoriaeth ar gyfer Archebu * | ● | ● | ● | ● | |
Gwahoddiadau i ddigwyddiadau ‘tu ôl i’r llenni’, dosbarthiadau meistr a rihyrsals | ● | ● | ● | ||
Gwahoddiad i’r Seremoni Raddio a chydnabyddiaeth yn y llyfryn Graddio | ● | ● | |||
Gwahoddiad i Rownd Derfynol Gwobr Ian Stoutzker a lletygarwch gan y Coleg ** | ● | ||||
Gwahoddiad i ddau i ymuno â Noddwyr eraill, Cymrodorion Anrhydeddus a gwahoddedigion ar gyfer Cinio Blynyddol y Llywydd ** | ● |
* Bydd cefnogwyr yn derbyn copi ymlaen llaw o’r Rhaglen drwy e-bost.
** Ar rai achlysuron, oherwydd y rheolau ar gyfer hawlio Rhodd Cymorth ar roddion, efallai y gofynnir i Noddwyr dalu am eu tocynnau.
Os hoffech gael mwy o wybodaeth am ein cynllun aelodaeth Cyswllt, a fyddwch cystal â chysylltu â ni drwy e-bostio connect@rwcmd.ac.uk neu drwy ffonio 029 2039 1420.