Gosod doniau creadigol eithriadol wrth galon ein cenedl a’r byd
“Mae potensial cenedlaethau’r dyfodol yn ganolog i strategaeth y llywodraeth yng Nghymru ac mae gan y celfyddydau ran amlwg i’w chwarae, gan gyfrannu at dwf economaidd ac adferiad dinasoedd wedi’r pandemig, yn ogystal â bod yn rym cadarnhaol hollbwysig ar gyfer lles a chreadigrwydd, gan gael effaith gref ar fywydau unigolion a chymunedau. Gan weithio gyda llif cyson o artistiaid ifanc o bob rhan o’r byd, mae Coleg Brenhinol Cymru mewn sefyllfa unigryw i gyfrannu’n sylweddol i enw da Cymru yn fyd-eang fel gwlad greadigol, tra’n gwneud yn siŵr bod y manteision y mae’n eu cynnig hefyd yn cyrraedd yn eang ac yn ddwfn drwy’r wlad i gyd.
Dros y pum mlynedd nesaf, er y bydd rhagoriaeth a pherfformio yn parhau wrth galon popeth a wnawn, byddwn yn dod yn fath gwahanol o gonservatoire, un sy’n fwy perthnasol, amrywiol, hygyrch, cysylltiedig ac ymgysylltiol. Trwy gyfleoedd ehangach a dyfnach i ymgysylltu yn y celfyddydau, rydym yn addo bod yn rhan o adferiad y wlad wedi Covid-19 a chanolbwyntio ar ddulliau hirdymor i wella lles a chynhwysiant cymdeithasol, a sicrhau effaith economaidd i Gymru.”
Yr Athro Helena Gaunt, Prifathro
Ddeng mlynedd yn ôl, bu buddsoddiad cyfalaf yn gymorth i weddnewid y Coleg. Gyda chefnogaeth hael llwyddom i greu ein canolfan gelfyddydau hardd gyda chyfleusterau o’r radd flaenaf ac i ddatblygu ein hyfforddiant ac ymgysylltu â’r cyhoedd yn ehangach.
Nawr, wrth i ni edrych yn ôl i ddathlu’r digwyddiad hwnnw rydym yn canolbwyntio’n fawr ar yr hyn sydd o’n blaen. Gan gredu’n angerddol bod ein cymuned artistig ryngwladol yn ysgogwr newid llawn ysbrydoliaeth ac yn sicr o’r farn y bydd creadigrwydd yn ei holl elfennau yn un o’r dylanwadau cryfaf ar iechyd y byd wedi’r pandemig, rydym yn adeiladu dyfodol y conservatoire cenedlaethol gydag elfennau newydd i ganolbwyntio arnynt, gweithgarwch newydd ac ymgyrch codi arian newydd – Addewid.