Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod gan ei fyfyrwyr yr adnoddau priodol i’w galluogi nhw i lwyddo yn y diwydiannau o’u dewis. O ganlyniad i hynny, mae ein graddedigion yn gweithio ym mhob cwr o’r byd – ar y llwyfan a’r sgrin, a mewn cerddorfeydd cenedlaethol, prifysgolion, cwmnïau cynhyrchu a sefydliadau celfyddydol eraill.
Mae’r Gymdeithas Cyn-fyfyrwyr yn galluogi graddedigion i gael gwybod beth mae eu cyd-aelodau yn ei wneud, i elwa ar y manteision sydd ar gael i gyn-fyfyrwyr ac i gadw mewn cysylltiad. Beth bynnag ydych chi’n ei wneud a ble bynnag yn y byd y bo hynny, byddem wrth ein boddau’n clywed gennych chi.