Bywyd yn CBCDC

Bywyd yn CBCDC

Byddwch wedi’ch lleoli yn adeilad trawiadol y Coleg yng nghanol Caerdydd sy’n edrych dros y parciau trefol hardd, a dim ond 5 munud ar droed i ganol y ddinas.

Mae llai na 1,000 o fyfyrwyr yn y Coleg, felly mae amgylchedd o feithrin a chynhwysiant yno. Gallwn sicrhau y byddwch yn cael lefel uchel o sylw personol ac y byddwch yn rhan o gymuned groesawgar a charedig.

Caiff ein hyfforddiant ei ddarparu gan berfformwyr ac ymarferwyr ysbrydoledig o bob cwr o’r byd, gan gynnwys athrawon un-i-un a hyfforddwyr ensemble, cyfarwyddwyr ac arweinwyr gwadd, a dosbarthiadau meistr gydag artistiaid sy’n ymweld â ni.

Mae’r Coleg yn un o leoliadau celfyddydol mwyaf poblogaidd y ddinas ac fe gynhelir dros 300 o berfformiadau yno bob blwyddyn, sy’n golygu bod digon o gyfleoedd amrywiol i’ch gwaith chi gael ei weld a’i glywed.

Gydag arbenigedd cerdd a drama o dan un to, mae cyfleoedd i gydweithio ar draws disgyblaethau – gan amrywio o gynyrchiadau theatr gerdd, operâu a dramâu ffurfiol ar raddfa fawr, i fentrau sy’n cael eu harwain gan fyfyrwyr, fel REPCo.

Mae amrywiaeth a rhannu diwylliannau yn rhan annatod o brofiad myfyrwyr yn CBCDC – mae cymuned y Coleg yn cynnwys staff a myfyrwyr o dros 40 o wledydd, yn ogystal ag artistiaid ac athrawon gwadd o bob cwr o’r byd.