Rheolaeth yn y Celfyddydau

Rheolaeth yn y Celfyddydau

‘Mae creu cyfleoedd i fyfyrwyr rwydweithio a chael profiad ymarferol wrth wraidd popeth a wnawn. Rydym yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid yn y diwydiant i roi pecyn trosglwyddadwy o sgiliau a phrofiad ymarfer cyfredol i raddedigion er mwyn sicrhau eu bod yn gwbl barod am gyflogaeth.’

Karen Pimbley, Pennaeth Rheolaeth yn y Celfyddydau


Mae ein hyfforddiant rheolaeth yn y celfyddydau yn arfogi myfyrwyr â’r sgiliau a’r profiad sydd eu hangen arnynt ar gyfer gyrfa yn y sector creadigol. Mae’r rhaglen unigryw hon yn datblygu graddedigion gwydn, parod am waith y mae galw mawr amdanynt a all lwyddo mewn diwydiant cyflym sy’n newid yn barhaus. 

Pam astudio rheolaeth yn y celfyddydau yn CBCDC? 

  • Ar gyfer diwydiant: mae ein cwrs yn adlewyrchu arfer cyfredol gan ei fod yn cael ei gyflwyno gan dîm o weithwyr proffesiynol sy’n gweithio ar hyn o bryd yn y diwydiant, yn ogystal ag arbenigwyr gwadd sy’n ymweld drwy gydol y flwyddyn. 

  • Cyflogadwyedd: rydym yn falch iawn ein bod wedi cynnal record cyflogaeth 100% ers 2013, gyda myfyrwyr yn parhau i sicrhau swyddi cysylltiedig o fewn tri mis i raddio. 

  • Canolbwyntio ar brofiad yn y diwydiant: cewch gyfleoedd i gael y profiad gwaith hollbwysig hwnnw gan ei fod yn ffocws allweddol o’r cwrs. Mae gennym raglen lleoliadau gwaith gynhwysfawr ac rydym yn trefnu lleoliadau ar gyfer yr holl fyfyrwyr rheolaeth yn y celfyddydau, yn ein canolfan gelfyddydau aml-leoliad ac o fewn un o’n 30+ o sefydliadau partner allanol. 

  • Hyfforddiant seiliedig ar gonservatoire: byddwch yn dysgu mewn conservatoire cerddoriaeth a drama a chanolfan gelfyddydau o safon fyd-eang sy’n darparu cyfleoedd unigryw i fyfyrwyr rheolaeth yn y celfyddydau gydweithio ar brosiectau ar draws y Coleg a gweithio gydag artistiaid/cwmnïau gwadd. 

  • Dewis o dri llwybr arbenigol: dewiswch o blith cynhyrchu creadigol, rheolaeth gerddorfaol neu reolaeth yn y celfyddydau cyffredinol fel eich maes arbenigol, yn dibynnu ar eich diddordeb a’ch dyheadau o ran gyrfa. 

 

Ar gyfer pwy mae’r cwrs 

Yn ogystal â bod yn addas ar gyfer graddedigion diweddar, mae’r cwrs hefyd yn ddewis gwych i weithwyr proffesiynol ar ganol eu gyrfa sy’n dymuno uwchsgilio neu symud i rolau arwain. Efallai y bydd ymgeiswyr sydd eisoes â phrofiad proffesiynol yn gweithio yn y celfyddydau yn gallu defnyddio eu profiad fel credyd APEL (Achrediad ar gyfer Profiad Blaenorol) i fyrhau eu taith ddysgu ac arbed ar gostau cyffredinol y cwrs. 

Tra bod y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn cwblhau’r cwrs yn llawn amser dros flwyddyn, rydym hefyd yn cynnig opsiynau astudio hyblyg, felly os oes angen i chi gydbwyso gwaith/bywyd ochr yn ochr â’ch astudiaethau, ystyriwch ein cyfleoedd mynychu rhan-amser - fel arfer dros ddwy flynedd, ond gall fod hyd at bum mlynedd.

 

Arweinir gan y gweithiwr rheolaeth yn y celfyddydau proffesiynol Karen Pimbley 

Gan ddechrau ei gyrfa fel marchnatwr celfyddydau mewn theatr repertoire ranbarthol, daeth Karen yn Bennaeth Digwyddiadau cyntaf Arena Ryngwladol Caerdydd cyn symud i faes hyrwyddo cerddoriaeth, gan deithio gydag artistiaid o fri rhyngwladol megis Take That, Tom Jones a’r Classical Spectacular. Fel uwch arweinydd yn y celfyddydau, bu Karen yn allweddol mewn sefydlu Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a bu hefyd yn gweithio fel Cyfarwyddwr Theatr y DU rhwng 2017 a 2021. Ar hyn o bryd mae Karen yn ymddiriedolwr Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru; mae ei gwaith ymgynghorol diweddar yn cynnwys prosiectau gyda Chyngor Celfyddydau Cymru a Chynghrair Diwylliannol Cymru yn ogystal ag ymchwil gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru. 

  • Dysgu mwy am CBCDC
    • Mae ein sefydliad amlddiwylliannol ffyniannus yn croesawu 800 o fyfyrwyr o dros 40 o wledydd. Byddwch yn hyfforddi ochr yn ochr ag offerynwyr, actorion, cantorion, cyfansoddwyr a chynllunwyr ar gyfer perfformio eraill ac yn gweithio gyda hwy ar brosiectau drwy gydol y flwyddyn.
    • Mae cydweithio yn rhan enfawr o’r hyn a wnawn, gan eich galluogi i drochi mewn profiadau newydd gydag ystod eang o ddisgyblaethau a sgiliau o bob adran o’r Coleg. Mae ein cwmni REPCo unigryw a arweinir gan fyfyrwyr yn annog myfyrwyr i gydweithio i fod yn feiddgar, yn llawn dychymyg ac yn entrepreneuraidd.
    • Mae ein partneriaethau â diwydiant yn rhoi profiadau dysgu gwell yn y byd go iawn gyda sefydliadau celfyddydol a cherddorion proffesiynol blaenllaw, a hefyd yn cynnig cyfleoedd i chi ddatblygu eich rhwydweithiau proffesiynol ar gyfer y dyfodol.
    • Mae CBCDC yn ganolfan gelfyddydau brysur sy’n llwyfannu 500 o berfformiadau’r flwyddyn (llawer ohonynt am ddim) sy’n gyfuniad o artistiaid o’r radd flaenaf a gwaith myfyrwyr, yn aml ochr yn ochr. Mae digwyddiadau mawr rheolaidd yn CBCDC yn cynnwys Cerddor Ifanc y Flwyddyn y BBC, BBC Canwr y Byd Caerdydd a digwyddiadau annibynnol fel Cyngres Telynau’r Byd ym mis Gorffennaf 2022.
    • Y Coleg yw’r conservatoire cyntaf yn y DU i gyflawni lefel safon aur o sicrwydd ansawdd ar draws meysydd Cerddoriaeth, Drama a Dan 18 yn adolygiad Gwella Ansawdd Cerddoriaeth rhyngwladol diweddar MusiQuE. Gwnaeth agwedd y Coleg o ran profiad myfyrwyr unigol, cydweithio amlddisgyblaethol ac uchelgais cyffredinol argraff arbennig ar yr adolygwyr, a nododd fod CBCDC yn enghraifft ddisglair o arfer gorau ar draws conservatoires Ewrop, ac yn adlewyrchu pobl eithriadol a chymuned unigryw’r Coleg. 
    • Fel yr unig gonservatoire Steinway cyfan yn y byd mae gan y Coleg bellach fflyd o bianos o’r radd flaenaf, ac mae pob piano acwstig yn y Coleg yn un Steinway.
    • Credwn yn sylfaenol yng ngrym cerddoriaeth i drawsnewid a chyfoethogi cymdeithas, gan ddatblygu sgiliau addysgu, hyfforddi a chyd-greu prosiectau i greu cerddorion y dyfodol a fydd yn gwneud argraff fel perfformwyr, athrawon a galluogwyr o fewn y gymuned ehangach. Mae cwestiynau sylfaenol - ‘Sut gallwn siapio diwydiant y dyfodol’, ‘Sut gallwn ddefnyddio celfyddyd i wneud gwahaniaeth’ – yn ein helpu i gynhyrchu cerddorion sy’n wirioneddol berthnasol i’r byd yr unfed ganrif ar hugain.
    • Byddwch yn ymarfer, yn astudio ac yn perfformio mewn lleoliad hyfryd a llawn ysbrydoliaeth sy’n ffinio â Pharc Bute, sef un o fannau gwyrdd mwyaf y ddinas. Mae gennym neuadd gerddoriaeth siambr gydag acwsteg hynod, cyntedd a man perfformio gwydrog, Theatr Richard Burton, yn ogystal â stiwdios a mannau rihyrsal o’r radd flaenaf.
    • Mae ein campws yng nghanol Caerdydd, Dinas Gerddoriaeth gyntaf y DU, a phrifddinas gartrefol a llewyrchus Cymru, sydd ond dwy awr ar y trên i ganol Llundain.
    • Cafodd Caerdydd ei henwi’n ddinas fwyaf cost-effeithiol yn y DU ar gyfer myfyrwyr, yn ôl Mynegai Byw Myfyrwyr NatWest 2022.

Cofrestrwch i Dderbyn Diweddariadau

I dderbyn rhagor o wybodaeth am astudio gyda ni, cofrestrwch isod.

Anfonir e-bost atoch yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Gwiriwch eich ffolder sbam / sothach os nad yw’r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau.

Cyrsiau

Diweddaraf o’r Blog

Mwy