Opera 360: Sut i Ymgeisio

Opera 360: Sut i Ymgeisio

Cwrs Byr

Dylid gwneud ceisiadau drwy Acceptd.

I ddechrau eich proffil Acceptd, dewiswch y math o gais (Ôl-radd), Adran (Opera), cwrs (MA Opera 360) a rhaglen (Opera 360).

Llenwch y Wybodaeth Cais a chadarnhewch y modiwl yr ydych yn gwneud cais i’w astudio. Edrychwch drwy wybodaeth eich cais yn drylwyr cyn gwasgu ‘Cyflwyno’. Ni allwch wneud newidiadau i’r cais unwaith eich bod wedi ei gyflwyno.

Anfonwch e-bost admissions@rwcmd.ac.uk os oes angen help arnoch gyda’ch cais.


 

Cwrs Meistr

I gael mynediad i gwrs MA Opera 360: Y Diwydiant Opera, mae’n rhaid i chi wneud cais drwy UCAS Conservatoires. Mae’r gwasanaeth hwn yn eich galluogi i wneud cais i fwy nag un conservatoire a chadw golwg ar hynt a helynt eich cais ar-lein. Mae yna ffi untro o £27 i’w dalu i ddefnyddio UCAS Conservatoires.

I gychwyn cais newydd, ewch i UCAS Conservatoires: Ymgeisio a Thracio.

Cod Sefydliad UCAS Conservatoires ar gyfer Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yw R59 a Chod y Cwrs ar gyfer MA Opera 360: Y Diwydiant Opera yw 751F (llawn amser) neu 751P (rhan amser).

 

Cymorth a Chyngor gan UCAS Conservatoires

Os oes angen help arnoch gyda’ch cais, gallwch gysylltu â Thîm UCAS Conservatoires drwy ffonio 0371 468 0 470 (os ydych yn y DU) neu +44 330 3330 232 (os ydych y tu allan i’r DU).