Opera

Astudio Opera yn Ysgol Opera David Seligman CBCDC

Mae Ysgol Opera David Seligman yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn cynnig profiad hyfforddi operatig cwbl integredig.

Mae adrodd straeon trwy gerddoriaeth a drama wrth wraidd yr hyfforddiant wedi’i bersonoleiddio a dwys hwn, wedi’i lunio gan brofiad ymarferol o’r diwydiant a’i arwain gan athrawon, perfformwyr ac ymarferwyr blaenllaw o’r byd opera yn rhyngwladol.

Pam astudio opera yn CBCDC?

  • Fel aelod o Ysgol Opera David Seligman, byddwch yn datblygu eich dawn drwy astudio pob agwedd ar hyfforddiant opera.
  • Bydd profiad operatig helaeth ein hathrawon arbenigol yn eich paratoi ar gyfer gofynion y diwydiant cystadleuol hwn.
  • Fel rhan o’ch hyfforddiant operatig cwbl integredig, cewch gyfleoedd i weithio gydag, a dysgu gan, artistiaid gwadd, cantorion, hyfforddwyr a gweithwyr proffesiynol cwmni opera blaenllaw. Mae artistiaid gwadd diweddar yn cynnwys y Maestro Carlo Rizzi, Susan Bullock, Gerald Finley a Syr Antonio Pappano.
  • Mae ein partneriaeth glos a chreadigol gydag Opera Cenedlaethol Cymru (WNO) yn golygu y byddwch yn elwa gan lawer o gyfleoedd i fynychu ymarferion gwisg y cwmni, astudio gyda staff cerddoriaeth preswyl a chymryd rhan yng nghynyrchiadau Opera Ieuenctid WNO.
  • Mae gan yr Ysgol Opera hefyd gysylltiadau cryf â chwmnïau opera nodedig sy’n cynnwys Scottish Opera, Opera North a’r Tŷ Opera Brenhinol, gan roi amrywiaeth o brofiadau cysylltiedig â’r diwydiant i fyfyrwyr megis mentora, hyfforddi a phrofiad arsylwi.
  • Yn ogystal â rhaglenni astudio arbenigol ar gyfer cantorion, cyfarwyddwyr a répétiteurs, mae’r Ysgol Opera yn creu cydweithrediad trawsadrannol prysur i berfformwyr offerynnol, arweinwyr, rheolwyr llwyfan, cynllunwyr a chyfansoddwyr gydweithio mewn amgylchedd hyfforddi unigryw o safon fyd-eang.
  • Cynhelir Gwobr y Gân BBC Canwr y Byd Caerdydd yn CBCDC bob dwy flynedd, gan roi’r cyfle i chi gymryd rhan mewn dosbarthiadau meistr a gwylio doniau ifanc o’r radd flaenaf.  
     

Ysgol Opera David Seligman

Mewn cydweithrediad â’r WNO, mae’r Ysgol Opera yn darparu cyfleoedd uwch i fyfyrwyr weithio gydag artistiaid ac ymarferwyr rhyngwladol blaenllaw, a dysgu ganddynt.

Fel un o raglenni hyfforddiant opera uwch blaenllaw y DU caiff ein myfyrwyr eu trochi mewn amgylchedd dysgu heb ei ail, lle mae’r cysyniad o ‘gwmni’ wrth galon ein hethos.
 

Ble nesa...?

Gellir gweld graddedigion opera CBCDC ar hyn o bryd gydag English National Opera (ENO), Opera Cenedlaethol Cymru (WNO), Opera North, Glyndebourne, yn ogystal â thai opera ledled Ewrop a Gogledd America. Ar hyn o bryd mae gan CBCDC raddedigion opera mewn rhaglenni Artistiaid Ifanc gan gynnwys y Stiwdio Opera Genedlaethol, Jette Parker yn Tŷ Opera Brenhinol ac Ensemble Opera Hannover.

Mae rhai wedi parhau â’u hastudiaethau yn y Stiwdio Opera Genedlaethol a Rhaglen Artistiaid Jette Parker yn y Tŷ Opera Brenhinol.

Arweinir gan yr arweinydd, pianydd a hyfforddwr James Southall

Mae James wedi arwain gyda chwmnïau opera a cherddorfeydd blaenllaw gan gynnwys Opera Cenedlaethol Cymru, English Touring Opera, Sinfonia Cymru, L’orchestra Haydn di Bolzano e Trento, Camerata Nordica ac Opéra de Baugé.

Ochr yn ochr â’i waith gyda’r WNO, mae James wedi bod yn hyfforddwr yn CBCDC ers 2013, gan arwain y Gala Opera gyda Cherddorfa’r WNO yn 2018.

Yn y WNO mae wedi bod yn arweinydd cynorthwyol i Carlo Rizzi, Arweinydd Llawryfog WNO, Lothar Koenigs a Tomáš Hanus.

Roedd James hefyd yn gynorthwyydd i Koenig ar gyfer Moses und Aron yn y Teatro Real, Madrid ac yn La Monnaie bu’n gyfarwyddwr cerdd gweithdy Mozart/da Ponte.

Roedd James yn Ysgolor yr Organ yng Ngholeg y Frenhines Caergrawnt ac mae’n gyn-fyfyriwr y Coleg Cerdd Brenhinol.

  • Dysgu mwy am CBCDC
    • Mae ein sefydliad amlddiwylliannol ffyniannus yn croesawu 800 o fyfyrwyr o dros 40 o wledydd. Byddwch yn hyfforddi ochr yn ochr ag offerynwyr, actorion, cantorion, cyfansoddwyr a chynllunwyr ar gyfer perfformio eraill ac yn gweithio gyda hwy ar brosiectau drwy gydol y flwyddyn.
    • Mae cydweithio yn rhan enfawr o’r hyn a wnawn, gan eich galluogi i drochi mewn profiadau newydd gydag ystod eang o ddisgyblaethau a sgiliau o bob adran o’r Coleg. Mae ein cwmni REPCo unigryw a arweinir gan fyfyrwyr yn annog myfyrwyr i gydweithio i fod yn feiddgar, yn llawn dychymyg ac yn entrepreneuraidd.
    • Mae ein partneriaethau â diwydiant yn rhoi profiadau dysgu gwell yn y byd go iawn gyda sefydliadau celfyddydol a cherddorion proffesiynol blaenllaw, a hefyd yn cynnig cyfleoedd i chi ddatblygu eich rhwydweithiau proffesiynol ar gyfer y dyfodol.
    • Mae CBCDC yn ganolfan gelfyddydau brysur sy’n llwyfannu 500 o berfformiadau’r flwyddyn (llawer ohonynt am ddim) sy’n gyfuniad o artistiaid o’r radd flaenaf a gwaith myfyrwyr, yn aml ochr yn ochr. Mae digwyddiadau mawr rheolaidd yn CBCDC yn cynnwys Cerddor Ifanc y Flwyddyn y BBC, BBC Canwr y Byd Caerdydd a digwyddiadau annibynnol fel Cyngres Telynau’r Byd ym mis Gorffennaf 2022.
    • Y Coleg yw’r conservatoire cyntaf yn y DU i gyflawni lefel safon aur o sicrwydd ansawdd ar draws meysydd Cerddoriaeth, Drama a Dan 18 yn adolygiad Gwella Ansawdd Cerddoriaeth rhyngwladol diweddar MusiQuE. Gwnaeth agwedd y Coleg o ran profiad myfyrwyr unigol, cydweithio amlddisgyblaethol ac uchelgais cyffredinol argraff arbennig ar yr adolygwyr, a nododd fod CBCDC yn enghraifft ddisglair o arfer gorau ar draws conservatoires Ewrop, ac yn adlewyrchu pobl eithriadol a chymuned unigryw’r Coleg. 
    • Fel yr unig gonservatoire Steinway cyfan yn y byd mae gan y Coleg bellach fflyd o bianos o’r radd flaenaf, ac mae pob piano acwstig yn y Coleg yn un Steinway.
    • Credwn yn sylfaenol yng ngrym cerddoriaeth i drawsnewid a chyfoethogi cymdeithas, gan ddatblygu sgiliau addysgu, hyfforddi a chyd-greu prosiectau i greu cerddorion y dyfodol a fydd yn gwneud argraff fel perfformwyr, athrawon a galluogwyr o fewn y gymuned ehangach. Mae cwestiynau sylfaenol - ‘Sut gallwn siapio diwydiant y dyfodol’, ‘Sut gallwn ddefnyddio celfyddyd i wneud gwahaniaeth’ – yn ein helpu i gynhyrchu cerddorion sy’n wirioneddol berthnasol i’r byd yr unfed ganrif ar hugain.
    • Byddwch yn ymarfer, yn astudio ac yn perfformio mewn lleoliad hyfryd a llawn ysbrydoliaeth sy’n ffinio â Pharc Bute, sef un o fannau gwyrdd mwyaf y ddinas. Mae gennym neuadd gerddoriaeth siambr gydag acwsteg hynod, cyntedd a man perfformio gwydrog, Theatr Richard Burton, yn ogystal â stiwdios a mannau rihyrsal o’r radd flaenaf.
    • Mae ein campws yng nghanol Caerdydd, Dinas Gerddoriaeth gyntaf y DU, a phrifddinas gartrefol a llewyrchus Cymru, sydd ond dwy awr ar y trên i ganol Llundain.
    • Cafodd Caerdydd ei henwi’n ddinas fwyaf cost-effeithiol yn y DU ar gyfer myfyrwyr, yn ôl Mynegai Byw Myfyrwyr NatWest 2022.

Cofrestrwch i Dderbyn Diweddariadau

I dderbyn rhagor o wybodaeth am astudio gyda ni, cofrestrwch isod.

Anfonir e-bost atoch yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Gwiriwch eich ffolder sbam / sothach os nad yw’r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau.

Cyrsiau

Diweddaraf o’r Blog

Mwy