Trosolwg o’r Cwrs
Mae’r cwrs Diploma Ôl-raddedig mewn Ymarfer Proffesiynol Uwch yn rhaglen arbenigol wedi’i theilwria’n unigol ar gyfer myfyrwyr sy’n chwilio am gyfnod ychwanegol o hyfforddiant arbenigol terfynol cyn dechrau yn y maes a ddewiswyd ganddynt o’r proffesiwn.
- Hyfforddiant uwch yn y brif astudiaeth gan gerddorion proffesiynol
- Rhaglen astudio a deilwriwyd yn unigol wedi’i mentora
- Canolbwyntio ar strategaeth ar gyfer datblygu gyrfa broffesiynol gynaliadwy
- Cyfres dosbarthiadau meistr rhyngwladol
- Rhaglen gwbl integredig o berfformiadau gan artistiaid rhyngwladol
- Ystod eang o gyfleoedd perfformio mewn cyfleusterau o’r radd flaenaf
- Mynediad at ystod sylweddol o gyfleoedd hyfforddiant seiliedig ar waith
- Canolbwyntio ar gyflogadwyedd a sgiliau trosglwyddadwy
Strwythur y Cwrs
A fyddech cystal â nodi, er bod y wybodaeth isod yn adlewyrchu’r rhaglen a gynhigir hyd yma, gall hon gael ei haddasu a’i newid yn y dyfodol. Ymgynghorir â myfyrwyr bob amser ynglŷn â newidiadau o’r fath a bydd manylion ar gael i ymgeiswyr sydd â chynigion.
Er mwyn i fyfyrwyr allu symud ymlaen drwy’r cwrs, bydd angen iddynt fel arfer llwyddo yn yr holl fodiwlau ac ennill 120 o gredydau.
-
Gwybodaeth Modiwlau
Modiwl Credydau Ymarfer Uwch 1 40 Ymarfer Uwch 2 60 Portffolio Proffesiynol 20
Gofynion Mynediad
Mynediad trwy glyweliad ar gyfer offerynwyr, cantorion ac arweinyddion, a thrwy gyfweliad ar gyfer cyfansoddwyr. Bydd isafswm y gofynion mynediad fel arfer yn cynnwys gradd meistr mewn perfformio cerddoriaeth, opera, cyfansoddi neu arwain o gonservatoire.
Ymgeiswyr Rhyngwladol
Bydd angen i ymgeiswyr rhyngwladol nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddangos bod eu gallu Saesneg yn cwrdd â gofynion sylfaenol y Coleg. Cyfeiriwch at ein tudalen Gofynion Iaith Saesneg i gael manylion profion iaith Saesneg derbyniol a’r sgorau gofynnol.
Ffioedd Dysgu ar gyfer 2023-2024
Hyd y Cwrs | Myfyrwyr o’r DU, Gweriniaeth Iwerddon, Ynysoedd y Sianel, ac Ynys Manaw | Myfyrwyr Tramor |
---|---|---|
10 mis dwys | £12,140* | £23,860 * |
* Dyma’r swm llawn.