Trosolwg o’r cwrs
Mae’r cwrs arloesol hwn yn dod ag artistiaid creadigol Cerddoriaeth a Drama, yn fyfyrwyr a staff, ynghyd i ddyfeisio gwaith newydd, gan ymateb i ystod o ysgogiadau a chyfleoedd. Trwy ddosbarthiadau a phrosiectau, bydd cerddorion yn cymryd rhan weithredol mewn cydweithrediadau trawsddisgyblaethol, gan ddysgu sut i gydweithio, gwerthfawrogi ffurfiau celfyddydol eich gilydd a manteisio i’r eithaf ar y croestoriadedd a geir mewn gweithgareddau creadigol. Ochr yn ochr â chynnal lefelau uchel o waith prif astudiaeth, byddwch yn cael eich arwain yn eich cydweithrediadau creadigol gan weithwyr proffesiynol profiadol, gan ddysgu’n uniongyrchol am ddeinameg timau creadigol ac arweinyddiaeth artistig. Mae’r ffocws ar greu gwaith newydd, ymateb i sefyllfaoedd a chyfleoedd penodol wrth iddynt godi, gyda phwyslais ar ymgysylltu’r cyhoedd gyda a thrwy eich gwaith. Y cwrs hwn yw rhaglen addysgu ar y cyd ffurfiol gyntaf y Coleg rhwng Cerddoriaeth a Drama.
Pam astudio Arfer Creadigol Cydweithredol yn CBCDC?
- Profi hyfforddiant uwch mewn prif astudiaeth gan gerddorion proffesiynol
- Cyfres dosbarthiadau meistr rhyngwladol
- Rhaglen berfformio cwbl integredig gan artistiaid rhyngwladol
- Ystod eang o gyfleoedd perfformio mewn cyfleusterau o’r radd flaenaf
- Rhaglen hyblyg ac agored sy’n caniatáu i chi deilwra eich llwybr
- Opsiwn i ganolbwyntio’n llwyr ar Brif Astudiaeth
- Opsiynau i ddatblygu arbenigedd mewn meysydd allweddol o arfer proffesiynol drwy Brosiectau Proffesiynol, wedi’u cysylltu i brofiadau’r byd go iawn
- Cyfleoedd trawsddisgyblaethol i weithio gyda Drama wedi’i ymgorffori yn y rhaglen
- Mynediad at fentoriaid arbenigol i gefnogi gwaith Prosiect Proffesiynol ac ehangu rhwydwaith o gysylltiadau
- Arfer cynhwysol wedi’i adeiladu i’r rhaglen
- Ymchwil a myfyrio yn sail i ddatblygiad dawn artistig greadigol
- Defnyddio’r diwydiant ac arloesedd fel conglfeini datblygiad gyrfa unigol
- Cyfle i greu a churadu prosiectau perfformiad eich hun
- Canolbwyntio ar gyflogadwyedd a sgiliau trosglwyddadwy
Strwythur y Cwrs
A fyddech cystal â nodi, er bod y wybodaeth isod yn adlewyrchu’r rhaglen a gynhigir hyd yma, gall hon gael ei haddasu a’i newid yn y dyfodol. Ymgynghorir â myfyrwyr bob amser ynglŷn â newidiadau o’r fath a bydd manylion ar gael i ymgeiswyr sydd â chynigion.
Er mwyn i fyfyrwyr allu symud ymlaen o flwyddyn un i flwyddyn dau ar gwrs ôl-raddedig dwy-flynedd, bydd angen iddynt fel arfer llwyddo ym mhob un o fodiwlau’r flwyddyn gyntaf.
Gwybodaeth Modiwlau
Llwybr |
Blwyddyn 1 |
Blwyddyn 2 |
||||
1 |
Prif Astudiaeth 1 (40) |
Yr Artist mewn Cymdeithas (20) |
Eich Pecyn Cymorth Proffesiynol (20) |
Prosiect Proffesiynol Bach (20) |
Prosiect Proffesiynol Canlolig (40) |
Prif Astudiaeth 2 (40) |
2 |
Prosiect Proffesiynol Mawr (60) |
|||||
3 |
Prosiect Proffesiynol Bach (20) |
Prosiect Proffesiynol Bach (20) |
Prif Astudiaeth 3 (60) |
|||
4 |
Prosiect Proffesiynol Canlolig (40) |
Gofynion Mynediad
Mynediad trwy wrandawiad a dylai ymgeiswyr allu arddangos lefel o allu perfformio sy’n briodol ar gyfer hyfforddiant proffesiynol. Mae’r gofynion mynediad lleiafswm fel arfer yn cynnwys gradd 2:1 mewn cerddoriaeth neu gymhwyster cyfwerth. Gellir ystyried ymgeiswyr a fu’n astudio neu weithio mewn maes arall.
Ymgeiswyr Rhyngwladol
Bydd angen i ymgeiswyr rhyngwladol nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddangos bod eu gallu Saesneg yn cwrdd â gofynion sylfaenol y Coleg. Cyfeiriwch at ein tudalen Gofynion Iaith Saesneg i gael manylion profion iaith Saesneg derbyniol a’r sgorau gofynnol.
Ffioedd Dysgu ar gyfer 2023-2024
Hyd y Cwrs |
Myfyrwyr o’r DU, Gweriniaeth Iwerddon, Ynysoedd y Sianel, ac Ynys Manaw
|
Myfyrwyr Tramor |
2 flynedd llawn amser |
I’w gadarnhau * |
I’w gadarnhau * |
* Mae’r swm hwn ar gyfer y flwyddyn gyntaf yn unig. Mae’r ffi dysgu sy’n daladwy yn yr ail flwyddyn yn amodol ar gynnydd blynyddol.
Rhagor o wybodaeth am y cyllid sydd ar gael tuag at gost ffioedd dysgu.