Trosolwg o’r cwrs
Mae’r cwrs hwn yn canolbwyntio ar ddatblygu’r sgiliau ymarferol, creadigol ac artistig hollbwysig sy’n sail i berfformiad cerddoriaeth siambr o safon uchel. Ar y cwrs, byddwch yn ffurfio ensembles sy’n caniatáu i chi astudio’r repertoire sy’n cefnogi eich datblygiad cerddorol a thechnegol orau, ar draws ystod o arddulliau, genres a chyfuniadau ac yn unol â’ch diddordebau. Bydd dosbarthiadau perfformio siambr arbenigol, dan arweiniad cerddorion siambr profiadol, yn ymdrin â meysydd allweddol gan gynnwys technegau rihyrsio, sain ensemble, sgiliau gwrando a chyfathrebu grŵp (llafar a di-eiriau). Trwy hyfforddiant prif astudiaeth unigol, byddwch yn parhau i ddatblygu sgiliau offerynnol, yn ogystal â gweithio ar repertoire cerddoriaeth siambr ar gyfer asesiadau a phrosiectau perfformio eraill.
Pam astudio Perfformio Cerddoriaeth Siambr yn CBCDC?
- Profi hyfforddiant uwch mewn prif astudiaeth gan gerddorion proffesiynol
- Cyfres dosbarthiadau meistr rhyngwladol
- Rhaglen berfformio cwbl integredig gan artistiaid rhyngwladol
- Ystod eang o gyfleoedd perfformio mewn cyfleusterau o’r radd flaenaf
- Rhaglen hyblyg ac agored sy’n caniatáu i chi deilwra eich llwybr
- Opsiwn i ganolbwyntio’n llwyr ar Brif Astudiaeth
- Opsiynau i ddatblygu arbenigedd mewn meysydd allweddol o arfer proffesiynol drwy Brosiectau Proffesiynol, wedi’u cysylltu i brofiadau’r byd go iawn
- Cyfleoedd trawsddisgyblaethol i weithio gyda Drama wedi’i ymgorffori yn y rhaglen
- Mynediad at fentoriaid arbenigol i gefnogi gwaith Prosiect Proffesiynol ac ehangu rhwydwaith o gysylltiadau
- Arfer cynhwysol wedi’i adeiladu i’r rhaglen
- Ymchwil a myfyrio yn sail i ddatblygiad dawn artistig greadigol
- Defnyddio’r diwydiant ac arloesedd fel conglfeini datblygiad gyrfa unigol
- Cyfle i greu a churadu prosiectau perfformiad eich hun
- Canolbwyntio ar gyflogadwyedd a sgiliau trosglwyddadwy
Strwythur y Cwrs
A fyddech cystal â nodi, er bod y wybodaeth isod yn adlewyrchu’r rhaglen a gynhigir hyd yma, gall hon gael ei haddasu a’i newid yn y dyfodol. Ymgynghorir â myfyrwyr bob amser ynglŷn â newidiadau o’r fath a bydd manylion ar gael i ymgeiswyr sydd â chynigion.
Er mwyn i fyfyrwyr allu symud ymlaen o flwyddyn un i flwyddyn dau ar gwrs ôl-raddedig dwy-flynedd, bydd angen iddynt fel arfer llwyddo ym mhob un o fodiwlau’r flwyddyn gyntaf
Gwybodaeth Modiwlau
Llwybr |
Blwyddyn 1 |
Blwyddyn 2 |
||||
1 |
Prif Antideath 1 (40) |
Yr Artist mewn Cymdeithas (20) |
Eich Pecyn Cymorth Proffesiynol (20) |
Prosiect Proffesiynol Bach (20) |
Prosiect Proffesiynol Canlolig (40) |
Prif Astudiaeth 2 (40) |
2 |
Prosiect Proffesiynol Mawr (60) |
|||||
3 |
Prosiect Proffesiynol Bach (20) |
Prosiect Proffesiynol Bach (20) |
Prif Astudiaeth 3 (60) |
|||
4 |
Prosiect Proffesiynol Canlolig (40) |
Gofynion Mynediad
Mynediad trwy wrandawiad a dylai ymgeiswyr allu arddangos lefel o allu perfformio sy’n briodol ar gyfer hyfforddiant proffesiynol. Mae’r gofynion mynediad lleiafswm fel arfer yn cynnwys gradd 2:1 mewn cerddoriaeth neu gymhwyster cyfwerth. Gellir ystyried ymgeiswyr a fu’n astudio neu weithio mewn maes arall.
Ymgeiswyr Rhyngwlado
Bydd angen i ymgeiswyr rhyngwladol nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddangos bod eu gallu Saesneg yn cwrdd â gofynion sylfaenol y Coleg. Cyfeiriwch at ein tudalen Gofynion Iaith Saesneg i gael manylion profion iaith Saesneg derbyniol a’r sgorau gofynnol.
Ffioedd Dysgu ar gyfer 2023-2024
Hyd y Cwrs |
Myfyrwyr o’r DU, Gweriniaeth Iwerddon, Ynysoedd y Sianel, ac Ynys Manaw
|
Myfyrwyr Tramor |
2 flynedd llawn amser |
I’w gadarnhau * |
I’w gadarnhau * |
* Mae’r swm hwn ar gyfer y flwyddyn gyntaf yn unig. Mae’r ffi dysgu sy’n daladwy yn yr ail flwyddyn yn amodol ar gynnydd blynyddol.
Rhagor o wybodaeth am y cyllid sydd ar gael tuag at gost ffioedd dysgu.