Trosolwg o’r Cwrs
Cynigir y cwrs Perfformio Cerddorfaol ar yr offerynnau canlynol: Basŵn, Soddgrwth, Clarinét, Bas Dwbl, Ffliwt, Corn Ffrengig, Telyn, Obo, Offerynnau Taro, Trombôn Tenor / Bas, Trymped, Tiwba, Fiola a’r Feiolin.
- Hyfforddiant prif astudiaeth arbenigol gan gerddorion cerddorfaol proffesiynol
- Cyfranogi yng nghynlluniau lleoliad gwaith Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ac/neu Opera Cenedlaethol Cymru
- Cynllun mentora gyda chwaraewyr proffesiynol yn y diwydiant
- Cyfleoedd ymarfer a pherfformio cerddorfaol ac adrannol yn CBCDC
- Hyfforddiant perfformio repertoire cerddorfaol arbenigol, uwch
- Hyfforddiant uwch ar gael mewn meysydd atodol fel Techneg Alexander, offeryn dyblu, offeryn cysylltiedig ac offerynnau cyfnod
- Gwasanaeth cyfeilydd proffesiynol
- Cyfres dosbarthiadau meistr rhyngwladol
- Rhaglen berfformio gwbl integredig gan artistiaid rhyngwladol
- Ystod eang o gyfleoedd perfformio mewn cyfleusterau o’r radd flaenaf
- Rhaglen hyblyg, agored, sy’n caniatáu i fyfyrwyr i deilwra eu llwybr
- Y dewis i ganolbwyntio’n benodol ar Brif Astudiaeth
- Cyfleoedd i ddatblygu arbenigedd mewn meysydd allweddol o arfer proffesiynol drwy Brosiectau Proffesiynol wedi’u cysylltu i brofiadau yn y byd go iawn
- Cyfleoedd trawsddisgyblaeth i weithio gyda Drama wedi’u hymgorffori yn y rhaglen
- Mynediad at fentoriaid arbenigol i gefnogi gwaith Prosiect Proffesiynol ac ehangu rhwydwaith o gysylltiadau
- Arfer cynhwysol wedi’i adeiladu i’r rhaglen
- Ymchwil a myfyrio yn sail i ddatblygiad gwaith artistig creadigol
- Defnyddio’r diwydiant ac arloesedd fel conglfeini datblygiad gyrfa unigol
- Cyfle i greu a churadu prosiectau perfformiad eich hun
- Canolbwyntio ar gyflogadwyedd a sgiliau trosglwyddadwy
Strwythur y Cwrs
A fyddech cystal â nodi, er bod y wybodaeth isod yn adlewyrchu’r rhaglen a gynhigir hyd yma, gall hon gael ei haddasu a’i newid yn y dyfodol. Ymgynghorir â myfyrwyr bob amser ynglŷn â newidiadau o’r fath a bydd manylion ar gael i ymgeiswyr sydd â chynigion.
Er mwyn i fyfyrwyr allu symud ymlaen o flwyddyn un i flwyddyn dau ar gwrs ôl-raddedig dwy-flynedd, bydd angen iddynt fel arfer llwyddo ym mhob un o fodiwlau’r flwyddyn gyntaf.
Gwybodaeth Modiwlau
Dwy flynedd llawn amser |
|||||||
Llwybr |
Blwyddyn 1 |
Blwyddyn 2 |
|||||
1 |
Prif Astudiaeth 1 (40) |
Yr Artist mewn Cymdeithas (20) |
Eich Pecyn Cymorth Proffesiynol (20) |
Prosiect Proffesiynol Bach (20) |
Prosiect Proffesiynol Canlolig (40) |
Prif Astudiaeth 2 (40) |
|
2 |
Prosiect Proffesiynol Mawr (60) |
||||||
3 |
Prosiect Proffesiynol Bach (20) |
Professional Project Small (20) |
Prif Astudiaeth 3 (60) |
||||
4 |
Prosiect Proffesiynol Canlolig (40) |
||||||
Un dwys flynedd |
|||||||
5 |
Prif Astudiaeth (40) |
Yr Artist mewn Cymdeithas (20) |
Eich Pecyn Cymorth Proffesiynol (20) |
Prosiect Proffesiynol Bach (20) |
Prosiect Proffesiynol Bach (20) |
Prif Astudiaeth 2 (60) |
|
6 |
Prosiect Proffesiynol Canlolig (40) |
||||||
7 |
Prosiect Proffesiynol Mawr (60) |
Gofynion Mynediad
Mynediad trwy wrandawiad a dylai ymgeiswyr allu arddangos lefel o allu perfformio sy’n briodol ar gyfer hyfforddiant proffesiynol. Mae’r gofynion mynediad lleiafswm fel arfer yn cynnwys gradd 2:1 mewn cerddoriaeth neu gymhwyster cyfwerth. Gellir ystyried ymgeiswyr a fu’n astudio neu weithio mewn maes arall.
Ymgeiswyr Rhyngwladol
Bydd angen i ymgeiswyr rhyngwladol nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddangos bod eu gallu Saesneg yn cwrdd â gofynion sylfaenol y Coleg. Cyfeiriwch at ein tudalen Gofynion Iaith Saesneg i gael manylion profion iaith Saesneg derbyniol a’r sgorau gofynnol.
Ffioedd Dysgu ar gyfer 2023-2024
Hyd y Cwrs |
Myfyrwyr o’r DU, Gweriniaeth Iwerddon, Ynysoedd y Sianel, ac Ynys Manaw
|
Myfyrwyr Tramor |
13 mis dwys |
£15,180 * |
£26,460 * |
2 flynedd llawn amser |
£11,970 ** |
£23,650 ** |
* Dyma'r swm llawn
** Mae’r swm hwn ar gyfer y flwyddyn gyntaf yn unig. Mae’r ffi dysgu sy’n daladwy yn yr ail flwyddyn yn amodol ar gynnydd blynyddol.
Rhagor o wybodaeth am y cyllid sydd ar gael tuag at gost ffioedd dysgu.