Trosolwg o’r Cwrs
- Yn canolbwyntio ar astudio’r ddau arbenigedd ar y lefel uchaf
- Rhoi cyfle i ddatblygu llais creadigol unigol trwy ddarpariaeth wedi’i theilwra
- Cydweithio ag artistiaid o’r un anian ar draws adrannau i guradu prosiectau perfformiad cyffrous ac arloesol
- Datblygu’r sgiliau i danategu gyrfa gynaliadwy sy’n cyfuno’r ddau arbenigedd
- Hyfforddiant uwch mewn prif astudiaeth gan gerddorion proffesiynol
- Cyfres dosbarthiadau meistr rhyngwladol
- Rhaglen berfformio gwbl integredig gan artistiaid rhyngwladol
- Ystod eang o gyfleoedd perfformio mewn cyfleusterau o’r radd flaenaf
- Rhaglen hyblyg, agored, sy’n caniatáu i fyfyrwyr i deilwra eu llwybr
- Y dewis i ganolbwyntio’n benodol ar Brif Astudiaeth
- Cyfleoedd i ddatblygu arbenigedd mewn meysydd allweddol o arfer proffesiynol drwy Brosiectau Proffesiynol wedi’u cysylltu i brofiadau yn y byd go iawn
- Cyfleoedd trawsddisgyblaeth i weithio gyda Drama wedi’u hymgorffori yn y rhaglen
- Mynediad at fentoriaid arbenigol i gefnogi gwaith Prosiect Proffesiynol ac ehangu rhwydwaith o gysylltiadau
- Arfer cynhwysol wedi’i adeiladu i’r rhaglen
- Ymchwil a myfyrio yn sail i ddatblygiad gwaith artistig creadigol
- Defnyddio’r diwydiant ac arloesedd fel conglfeini datblygiad gyrfa unigol
- Cyfle i greu a churadu prosiectau perfformiad eich hun
- Canolbwyntio ar gyflogadwyedd a sgiliau trosglwyddadwy
Strwythur y Cwrs
A fyddech cystal â nodi, er bod y wybodaeth isod yn adlewyrchu’r rhaglen a gynhigir hyd yma, gall hon gael ei haddasu a’i newid yn y dyfodol. Ymgynghorir â myfyrwyr bob amser ynglŷn â newidiadau o’r fath a bydd manylion ar gael i ymgeiswyr sydd â chynigion.
Er mwyn i fyfyrwyr allu symud ymlaen o flwyddyn un i flwyddyn dau ar gwrs ôl-raddedig dwy-flynedd, bydd angen iddynt fel arfer llwyddo ym mhob un o fodiwlau’r flwyddyn gyntaf.
Gwybodaeth Modiwlau
Llwybr |
Blwyddyn 1 |
Blwyddyn 2 |
||||
1 |
Prif Astudiaeth 1 (40) |
Yr Artist mewn Cymdeithas (20) |
Eich Pecyn Cymorth Proffesiynol (20) |
Prosiect Proffesiynol Bach (20) |
Prosiect Proffesiynol Canlolig (40) |
Prif Astudiaeth 2 (40) |
2 |
Prosiect Proffesiynol Mawr (60) |
|||||
3 |
Prosiect Proffesiynol Bach (20) |
Prosiect Proffesiynol Bach (20) |
Prif Astudiaeth 3 (60) |
|||
4 |
Prosiect Proffesiynol Canlolig (40) |
Gofynion Mynediad
Mynediad trwy wrandawiad a dylai ymgeiswyr allu arddangos lefel o allu perfformio sy’n briodol ar gyfer hyfforddiant proffesiynol. Mae’r gofynion mynediad lleiafswm fel arfer yn cynnwys gradd 2:1 mewn cerddoriaeth neu gymhwyster cyfwerth. Gellir ystyried ymgeiswyr a fu’n astudio neu weithio mewn maes arall.
Ymgeiswyr Rhyngwladol
Bydd angen i ymgeiswyr rhyngwladol nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddangos bod eu gallu Saesneg yn cwrdd â gofynion sylfaenol y Coleg. Cyfeiriwch at ein tudalen Gofynion Iaith Saesneg i gael manylion profion iaith Saesneg derbyniol a’r sgorau gofynnol.
Ffioedd Dysgu ar gyfer 2023-2024
Hyd y Cwrs |
Myfyrwyr o’r DU, Gweriniaeth Iwerddon, Ynysoedd y Sianel, ac Ynys Manaw
|
Myfyrwyr Tramor |
2 flynedd llawn amser (offerynnol) |
£11,970 * |
£23,650 *
|
2 flynedd llawn amser (llais) |
£12,570 * |
£24,990 * |
* Mae’r swm hwn ar gyfer y flwyddyn gyntaf yn unig. Mae’r ffi dysgu sy’n daladwy yn yr ail flwyddyn yn amodol ar gynnydd blynyddol.
Rhagor o wybodaeth am y cyllid sydd ar gael tuag at gost ffioedd dysgu.