MMus Arwain Cerddorfaol: Sut i Ymgeisio

MMus Arwain Cerddorfaol: Sut i Ymgeisio

I gael mynediad i gwrs MMus Arwain Cerddorfaol, mae’n rhaid i chi wneud cais drwy UCAS Conservatoires. Mae’r gwasanaeth hwn yn eich galluogi i wneud cais i fwy nag un conservatoire a chadw golwg ar hynt a helynt eich cais ar-lein. Mae yna ffi untro o £27 i’w dalu i ddefnyddio UCAS Conservatoires.

I gychwyn cais newydd, ewch i UCAS Conservatoires: Ymgeisio a Thracio.

Cod Sefydliad UCAS Conservatoires ar gyfer Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yw R59 a Chod y Cwrs ar gyfer MMus Arwain Cerddorfaol yw 816F.

 

Dyddiadau ar gyfer Gwneud Cais

Ceisiadau’n agor 15 Gorffennaf 2022
Ceisiadau’n cau 3 Hydref 2022

Byddwn yn parhau i dderbyn ceisiadau ar ôl y dyddiad cau, ond byddant yn cael eu trin fel ceisiadau hwyr. Cysylltwch â’n Tîm Mynediadau cyn cyflwyno cais hwyr er mwyn gwirio a fydd gennym lefydd gwag ar ôl o hyd.

 

Clyweliadau

Ar gyfer mynediad ym mis Medi 2023, bydd gofyn i’r holl ymgeiswyr gyflwyno clyweliad i gefnogi eu cais. Dylid cyflwyno clyweliadau erbyn dydd Gwener 21 Hydref 2022.  

Canllawiau ar gyfer Clyweliadau

Ewch i’n tudalen canllawiau clyweliad i gael manylion y broses glyweliad ar gyfer y cwrs hwn. 

Ffioedd Clyweliadau

Mae ffi clyweliad o £63 ar gyfer un offeryn neu £84 ar gyfer dau offeryn.

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu mynediad i hyfforddiant ar gyfer y myfyrwyr mwyaf talentog, waeth beth fo’u cefndir neu eu sefyllfa ariannol. Nod ein polisi hepgor ffioedd yw cynorthwyo ymgeiswyr y gall eu hamgylchiadau ariannol eu rhwystro rhag cael clyweliad.

 

Cymorth a Chyngor gan UCAS Conservatoires

Os oes angen help arnoch gyda’ch cais, gallwch gysylltu â Thîm UCAS Conservatoires drwy ffonio 0371 468 0 470 (os ydych yn y DU) neu +44 330 3330 232 (os ydych y tu allan i’r DU).