MMus Arwain Band Pres

MMus Arwain Band Pres

Trosolwg o’r Cwrs

  • Dosbarth techneg arwain yn cynnwys astudio techneg a’i harfer heb y band
  • Arsylwi ar ymarferion Band Pres CBCDC a chyfranogi ynddynt
  • Gwersi tiwtorial ar ddadansoddi ymarfer
  • Arsylwi ar arweinwyr mewn cyd-destun proffesiynol
  • Cyfleoedd i arwain ensembles, ymarferion a chynyrchiadau CBCDC
  • Cyfleoedd i arwain perfformiadau wedi eu hyrwyddo gan fyfyrwyr
  • Dosbarthiadau perfformio, fel arfer yng nghwmni myfyrwyr o amryw o ddisgyblaethau
  • Rhaglen lawn o berfformiadau band pres
  • Hyfforddiant uwch mewn prif astudiaeth gan gerddorion proffesiynol 
  • Cyfres dosbarthiadau meistr rhyngwladol 
  • Rhaglen berfformio gwbl integredig gan artistiaid rhyngwladol 
  • Ystod eang o gyfleoedd perfformio mewn cyfleusterau o’r radd flaenaf 
  • Rhaglen hyblyg, agored, sy’n caniatáu i fyfyrwyr i deilwra eu llwybr 
  • Y dewis i ganolbwyntio’n benodol ar Brif Astudiaeth 
  • Cyfleoedd i ddatblygu arbenigedd mewn meysydd allweddol o arfer proffesiynol drwy Brosiectau Proffesiynol wedi’u cysylltu i brofiadau yn y byd go iawn 
  • Cyfleoedd trawsddisgyblaeth i weithio gyda Drama wedi’u hymgorffori yn y rhaglen 
  • Mynediad at fentoriaid arbenigol i gefnogi gwaith Prosiect Proffesiynol ac ehangu rhwydwaith o gysylltiadau 
  • Arfer cynhwysol wedi’i adeiladu i’r rhaglen 
  • Ymchwil a myfyrio yn sail i ddatblygiad gwaith artistig creadigol 
  • Defnyddio’r diwydiant ac arloesedd fel conglfeini datblygiad gyrfa unigol 
  • Cyfle i greu a churadu prosiectau perfformiad eich hun
  • Canolbwyntio ar gyflogadwyedd a sgiliau trosglwyddadwy

 

Strwythur y Cwrs

A fyddech cystal â nodi, er bod y wybodaeth isod yn adlewyrchu’r rhaglen a gynhigir hyd yma, gall hon gael ei haddasu a’i newid yn y dyfodol. Ymgynghorir â myfyrwyr bob amser ynglŷn â newidiadau o’r fath a bydd manylion ar gael i ymgeiswyr sydd â chynigion.

Er mwyn i fyfyrwyr allu symud ymlaen o flwyddyn un i flwyddyn dau ar gwrs ôl-raddedig dwy-flynedd, bydd angen iddynt fel arfer llwyddo ym mhob un o fodiwlau’r flwyddyn gyntaf.

Gwybodaeth Modiwlau

Llwybr

Blwyddyn 1

Blwyddyn 2

1

Prif Astudiaeth 1 (40)

Yr Artist mewn Cymdeithas (20)

Eich Pecyn Cymorth Proffesiynol (20)

Prosiect Proffesiynol Bach (20)

Prosiect Proffesiynol Canlolig (40)

Prif Astudiaeth 2 (40)

2

Prosiect Proffesiynol Mawr (60)

3

Prosiect Proffesiynol Bach (20)

Prosiect Proffesiynol Bach (20)

Prif Astudiaeth 3 (60)

4

Prosiect Proffesiynol Canlolig (40)

 

Gofynion Mynediad

Mynediad trwy wrandawiad a dylai ymgeiswyr allu arddangos lefel o allu perfformio sy’n briodol ar gyfer hyfforddiant proffesiynol. Mae’r gofynion mynediad lleiafswm fel arfer yn cynnwys gradd 2:1 mewn cerddoriaeth neu gymhwyster cyfwerth. Gellir ystyried ymgeiswyr a fu’n astudio neu weithio mewn maes arall. 

 

Ymgeiswyr Rhyngwladol

Bydd angen i ymgeiswyr rhyngwladol nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddangos bod eu gallu Saesneg yn cwrdd â gofynion sylfaenol y Coleg. Cyfeiriwch at ein tudalen Gofynion Iaith Saesneg i gael manylion profion iaith Saesneg derbyniol a’r sgorau gofynnol.

 

Ffioedd Dysgu ar gyfer 2023-2024

Hyd y Cwrs

Myfyrwyr o’r DU, Gweriniaeth Iwerddon, Ynysoedd y Sianel, ac Ynys Manaw

 

Myfyrwyr Tramor

2 flynedd llawn amser

 £11,970 *

 £23,650 *

* Mae’r swm hwn ar gyfer y flwyddyn gyntaf yn unig. Mae’r ffi dysgu sy’n daladwy yn yr ail flwyddyn yn amodol ar gynnydd blynyddol.

Rhagor o wybodaeth am y cyllid sydd ar gael tuag at gost ffioedd dysgu