Trosolwg o’r Cwrs
- Ar gyfer myfyrwyr sydd am arbenigo mewn rheoli llwyfan ar gyfer theatr a digwyddiadau byw
- Elfen a ddysgir yn rhedeg o fis Medi tan Pasg y flwyddyn ganlynol, llawn amser, gyda chyfnod hyblyg o 12 mis i gwblhau’r elfen gyntaf
- Hyfforddiant a goruchwyliaeth gan dîm o ymarferwyr profiadol yn y diwydiant
- Dosbarthiadau meistr a seminarau gan arbenigwyr blaenllaw yn y diwydiant
- Hyfforddiant yn yr amrediad llawn o sgiliau sy’n angenrheidiol er mwyn mynd yn rheolydd llwyfan neu reolydd digwyddiadau proffesiynol
- Modiwlau sgiliau craidd yn cynnwys dyletswyddau swydd, cyllidebau, iechyd a diogelwch, goleuo a sain hanfodol, amserlennu, a CAD
- Modiwl Rheolaeth mewn Cyd-destun yn ymdrin â chynllunio, datrys problemau, theori rheolaeth, logisteg, sgiliau gweithio mewn tîm a chynllunio gyrfa
- Hyd at bedwar lleoliad gwaith chwe-wythnos ar gynyrchiadau/digwyddiadau, hyd at ddau o’r rhain gyda chwmnïau proffesiynol
- Elfen derfynol sy’n cynnwys cwblhau Portffolio Arfer Proffesiynol yn seiliedig ar eich cyflogaeth broffesiynol, gyda chymorth a mentora gan diwtoriaid y Coleg
Strwythur y Cwrs
A fyddech cystal â nodi, er bod y wybodaeth isod yn adlewyrchu’r rhaglen a gynhigir hyd yma, gall hon gael ei haddasu a’i newid yn y dyfodol. Ymgynghorir â myfyrwyr bob amser ynglŷn â newidiadau o’r fath a bydd manylion ar gael i ymgeiswyr sydd â chynigion.
Er mwyn i fyfyrwyr allu symud ymlaen drwy’r cwrs, bydd angen iddynt fel arfer llwyddo yn yr holl fodiwlau ac ennill 180 o gredydau.
-
Gwybodaeth Modiwlau
Modiwl Credydau Sgiliau Ymarferol 20 Rheolaeth mewn Cyd-destun 20 Lleoliad Gwaith 1 40 Lleoliad Gwaith 2 40 Portffolio Arfer Proffesiynol 60 Traethawd hir 60
Gofynion Mynediad
Mae’r rhaglen hon ar gyfer graddedigion o unrhyw ddisgyblaeth sydd am weithio ym meysydd rheoli llwyfan a rheolaeth digwyddiadau yn y diwydiant theatr dechnegol a/neu’r diwydiant digwyddiadau byw. Bydd y Coleg hefyd yn ystyried ceisiadau gan bobl sy’n ceisio hyfforddiant ffurfiol ar ôl gweithio yn y theatr neu ddiwydiannau adloniant/digwyddiadau cysylltiedig. Disgwylir i bob ymgeisydd arddangos profiad ymarferol sylweddol a dealltwriaeth dda o’r proffesiwn.
Detholir yn derfynol ar sail cyfweliad.
Ymgeiswyr Rhyngwladol
Bydd angen i ymgeiswyr rhyngwladol nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddangos bod eu gallu Saesneg yn cwrdd â gofynion sylfaenol y Coleg. Cyfeiriwch at ein tudalen Gofynion Iaith Saesneg i gael manylion profion iaith Saesneg derbyniol a’r sgorau gofynnol.
Ffioedd Dysgu ar gyfer 2023-2024
Hyd y Cwrs | Myfyrwyr o’r DU, Gweriniaeth Iwerddon, Ynysoedd y Sianel, ac Ynys Manaw | Myfyrwyr Tramor |
---|---|---|
24 mis llawn amser | £15000 * | £30,000 * |
* Dyma’r swm llawn.
Gwybodaeth bellach am y cyllid sydd ar gael tuag at gost ffioedd dysgu.