MA Rheolaeth yn y Celfyddydau: Sut i Ymgeisio

MA Rheolaeth yn y Celfyddydau: Sut i Ymgeisio

I gael mynediad i gwrs MA Rheolaeth yn y Celfyddydau, mae’n rhaid i chi wneud cais drwy UCAS Conservatoires. Mae’r gwasanaeth hwn yn eich galluogi i wneud cais i fwy nag un conservatoire, cadw golwg ar hynt a helynt eich cais ar-lein a gweld manylion clyweliadau a phenderfyniadau. Mae yna ffi untro o £27.00 i’w dalu i ddefnyddio UCAS Conservatoires.

I gychwyn cais newydd, ewch i UCAS Conservatoires: Ymgeisio a Thracio.

Cod Sefydliad UCAS Conservatoires ar gyfer Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yw R59 a Chod y Cwrs ar gyfer MA Rheolaeth yn y Celfyddydau yw 705F (llawn amser) neu 700P (rhan amser).

  • Wrth wneud cais, gofynnir i chi ddewis prif arbenigedd/disgyblaeth, dewiswch cynhyrchu drama ar gyfer MA Rheolaeth yn y Celfyddydau.
  • Yn eich cais, gofynnir i chi am fanylion eich ‘canolwr ymarferol/cerddoriaeth’. Llythyr geirda yw hwn, wedi’i ysgrifennu gan eich darlithydd, pennaeth adran, neu unrhyw unigolyn priodol arall a all wneud sylwadau ar eich gallu a’ch sgiliau mewn cyd-destun perthnasol.
  • Rydym yn argymell eich bod yn rhoi sylw penodol i’r wybodaeth yr ydych yn ei darparu yn eich datganiad personol ar eich ffurflen gais, er mwyn rhoi darlun mor glir â phosibl i ni o’ch profiad perthnasol a’ch rhesymau dros wneud cais.

 

Dyddiadau ar gyfer Gwneud Cais

Ceisiadau’n agor 15 Gorffennaf 2022
Ceisiadau’n cau Rydym yn cynghori’n gryf eich bod yn gwneud cais cyn diwedd mis Mawrth 2023. Byddwn yn parhau i dderbyn ceisiadau am y cwrs hwn cyhyd ag y bydd llefydd gwag ar gael.

 

Cymorth a Chyngor gan UCAS Conservatoires

Os oes angen help arnoch gyda’ch cais, gallwch gysylltu â Thîm UCAS Conservatoires drwy ffonio 0371 468 0 470 (os ydych yn y DU) neu +44 330 3330 232 (os ydych y tu allan i’r DU).