Trosolwg o’r Cwrs
- Darlithiau, seminarau a dosbarthiadau tiwtorial gyda thîm craidd o weithwyr proffesiynol profiadol yn y celfyddydau
- Darlithoedd gwadd gan weithwyr proffesiynol profiadol yn y celfyddydau blaenllaw ledled y DU
- Sesiynau sy’n archwilio’r cyd-destunau gwleidyddol, economaidd a chyfryngau cyfredol y mae sefydliadau celfyddydol yn gweithredu ynddynt
- Hyfforddiant ymarferol a chymhwysol
- Arweiniad o ran datblygu sgiliau ar draws ystod o ddisgyblaethau
- Lleoliadau gwaith ar brojectau allanol o fewn sefydliad celfyddydau proffesiynol fel: Opera Cenedlaethol Cymru, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Canolfan Mileniwm Cymru, Theatr Clwyd, Neuadd Dewi Sant
- Cyflwynir trwy gyfuniad o ddysgu wyneb yn wyneb gyda chefnogaeth profiad ymarferol a gwaith digidol
Llwybrau Arbenigol
- Rheolaeth yn y Celfyddydau Cyffredinol
- Cynhyrchu Creadigol
- Rheolaeth Cerddorfaol
Strwythur y Cwrs
A fyddech cystal â nodi er bod y wybodaeth isod yn adlewyrchu’r rhaglen ar adeg ysgrifennu hwn, gall gael ei haddasu neu newid yn y dyfodol. Ymgynghorir â myfyrwyr bob amser ynglŷn â newidiadau o’r fath a bydd manylion ar gael i ymgeiswyr sydd â chynigion.
Er mwyn symud ymlaen drwy’r cwrs MA llawn, bydd angen i’r myfyrwyr fel arfer lwyddo yn yr holl fodiwlau ac ennill 180 o gredydau. Mae’r dewis i astudio’n rhan amser a hefyd astudio APEL nawr ar gael i’r rheini sy’n bodloni’r gofynion.
Mae’r cwrs wedi’i rannu’n dri maes astudio penodol:
Rheolaeth ac Arweinyddiaeth y Sector Creadigol
Modiwlau a Phynciau | Gweinyddu yn y Celfyddydau • Rheoli Pobl a Pherfformiad • Arweinyddiaeth yn y Sector Creadigol • Moeseg Llywodraethu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol • Rheolaeth yn y Celfyddydau Rhyngwladol |
Datblygu Sgiliau
Bydd myfyrwyr yn dewis un arbenigedd:
Arbenigedd | Rheolaeth yn y Celfyddydau Cyffredinol | Cynhyrchu Creadigol | Rheolaeth Cerddorfaol |
Modiwlau a Phynciau | Codi Arian • Datblygu Cynulleidfaoedd • Cyfathrebu Ar-lein ac All-lein • Prosiectau Mynediad a Chyfranogi • Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn y Celfyddydau | Cynhyrchu mewn Lleoliad • Cynhyrchu Creadigol Annibynnol • Rhaglennu • Marchnata • Codi Arian | Rhaglennu a Chynllunio Artistig • Gweithio gyda Cherddorfeydd ac Ensembles • Marchnata • Codi Arian • Rheoli Opera |
Mae pob myfyriwr yn astudio’r canlynol: Contractau’r Diwydiant • Teithio a Logisteg • Rheoli Lleoliad a Chwmni • Gweithrediadau |
Lleoliadau Gwaith Proffesiynol
Bydd myfyrwyr yn treulio dau gyfnod ar leoliad gwaith proffesiynol – un rhan amser yn ystod tymor y Gwanwyn (90 awr) ac un llawn amser yn ystod tymor yr Haf (180 awr). Mae lleoliadau yn rhoi cyfleoedd i ddatblygu a chymhwyso sgiliau mewn amgylchedd proffesiynol gyda mentoriaid. Gall lleoliadau fod yn lleoliadau canolfan gelfyddydau CBCDC a/neu gyda’n sefydliadau partner allanol.
-
Gwybodaeth Modiwlau
Llwybr Cynhyrchu Creadigol
Modiwl Credydau Cynhyrchu Creadigol 40 Llwybr Rheolaeth Cerddorfaol
Modiwl Credydau Rheolaeth Cerddorfaol 40 Llwybr Rheolaeth yn y Celfyddydau Cyffredinol
Modiwl Credydau Codi Arian 10 Datblygu Cynulleidfa a Chyfathrebu 20 Mynediad a Chyfranogi 10 Modiwlau Craidd
Modiwl Credydau Y Sector Diwylliannol – Sgiliau Craidd 20 Lleoliad Gwaith 20 Lleoliad Proffesiynol 40 Rheoli Sefydliadau Diwylliannol 1 20 Rheoli Sefydliadau Diwylliannol 2 20 Rheoli Sefydliadau Diwylliannol 3 20
Gofynion Mynediad
Mae’r gofynion mynediad arferol yn cynnwys gradd mewn unrhyw bwnc. Bydd y Coleg hefyd yn ystyried ceisiadau gan bobl sydd wedi bod yn gweithio yn y diwydiant celfyddydau, ag o leiaf ddwy flynedd o brofiad perthnasol fel arfer. Disgwylir i bob ymgeisydd allu arddangos dealltwriaeth dda o’r proffesiwn rheolaeth yn y celfyddydau.
Detholir yn derfynol ar sail cyfweliad.
Ymgeiswyr Rhyngwladol
Bydd angen i ymgeiswyr rhyngwladol nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddangos bod eu gallu Saesneg yn cwrdd â gofynion sylfaenol y Coleg. Cyfeiriwch at ein tudalen Gofynion Iaith Saesneg i gael manylion profion iaith Saesneg derbyniol a’r sgorau gofynnol.
Ffioedd Dysgu ar gyfer 2023-2024
Hyd y Cwrs | Myfyrwyr o’r DU, Gweriniaeth Iwerddon, Ynysoedd y Sianel, ac Ynys Manaw | Myfyrwyr Tramor |
---|---|---|
13 mis llawn amser | £10,600 * | £20,790 * |
2 flynedd rhan amser | £5,580 ** | Nid yw’r cwrs ar gael |
* Dyma’r swm llawn.
** Mae’r swm hwn ar gyfer y flwyddyn gyntaf yn unig. Mae’r ffi dysgu sy’n daladwy yn yr ail flwyddyn yn amodol ar gynnydd blynyddol.
Gwybodaeth bellach am y cyllid sydd ar gael tuag at gost ffioedd dysgu.