MA Perfformio Opera Uwch

MA Perfformio Opera Uwch

Trosolwg o’r Cwrs

Bydd y rhaglen hon yn darparu hyfforddiant eang sy’n berthnasol i’r gofynion a’r galw sydd ar gwmnïau opera proffesiynol, gan fynd i’r afael â materion cyflogadwyedd pwysig a ddaw’n fwy arwyddocaol yn y degawd nesaf.

  • Gwersi canu un i un a hyfforddiant yn y repertoire
  • Hyfforddiant unigol gyda chantorion proffesiynol o fri a hyfforddwyr blaenllaw
  • Hyfforddiant arbenigol yn yr Eidaleg, y Ffrangeg a’r Almaeneg
  • Dosbarthiadau cwbl integredig mewn crefft llwyfan yn cynnwys symud a dawns
  • Hyfforddiant mewn sgiliau dramatig a dehongli
  • Dosbarthiadau sy’n canolbwyntio ar ymddygiad proffesiynol a phrotocol opera, gan ddatblygu ymwybyddiaeth o arferion gweithio ar y cyd
  • Arferion gwaith operatig proffesiynol gyda chyfarwyddwyr a répétiteurs proffesiynol
  • Perfformiad cyhoeddus mewn opera wedi ei llwyfannu’n llawn
  • Cyflwyniadau o olygfeydd o operâu yn cynnwys gweithiau baròc a chyfoes yn ogystal â’r repertoire safonol
  • Cyfleoedd i ddilyn ac arsylwi ar ddigwyddiadau parti cyngherddau’r WNO, prosiectau WNO Max a rhai ymarferiadau stiwdio
  • Mentoriaid o gorws WNO drwy gais
  • Hyfforddiant dwys mewn techneg clyweliad
  • Astudio a pharatoi rhan operatig gyflawn yn fanwl ar gyfer ei chyflwyno mewn sesiwn clyweliadau a gwaith sy’n cyfateb i un proffesiynol a sesiwn gwaith. Asesir hwn fel arfer gan Bennaeth Cerddoriaeth un o brif gwmnïau opera y DU

 

Strwythur y Cwrs

A fyddech cystal â nodi, er bod y wybodaeth isod yn adlewyrchu’r rhaglen a gynhigir hyd yma, gall hon gael ei haddasu a’i newid yn y dyfodol. Ymgynghorir â myfyrwyr bob amser ynglŷn â newidiadau o’r fath a bydd manylion ar gael i ymgeiswyr sydd â chynigion.

Er mwyn i fyfyrwyr allu symud ymlaen o flwyddyn un i flwyddyn dau, bydd angen iddynt fel arfer llwyddo ym mhob un o fodiwlau’r flwyddyn gyntaf.

  • Gwybodaeth Modiwlau

    Rhan Un

    Modiwl Credydau
    Y Gweithiwr Opera Proffesiynol 1 20
    Y Perfformiwr Cydweithredol 20
    Siarad Testun a Chreu Cymeriad 20
    Perfformiad Opera 1 40

     

    Rhan Dau

    Modiwl Credydau
    Prosiect Ensemble Opera 20
    Perfformiad Opera 2 40
    Y Gweithiwr Opera Proffesiynol 2 20

     

 

Gofynion Mynediad

Mynediad trwy wrandawiad a dylai ymgeiswyr allu arddangos lefel o allu perfformio sy’n briodol ar gyfer hyfforddiant proffesiynol. Mae’r gofynion mynediad lleiafswm fel arfer yn cynnwys gradd 2:1 mewn cerddoriaeth neu gymhwyster cyfwerth, er y gall y Coleg ystyried ceisiadau gan bobl heb gymwysterau ffurfiol os oes ganddynt lefel eithriadol o allu, profiad ymarferol, a dealltwriaeth dda o’r proffesiwn opera.

 

Ymgeiswyr Rhyngwladol

Bydd angen i ymgeiswyr rhyngwladol nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddangos bod eu gallu Saesneg yn cwrdd â gofynion sylfaenol y Coleg. Cyfeiriwch at ein tudalen Gofynion Iaith Saesneg i gael manylion profion iaith Saesneg derbyniol a’r sgorau gofynnol.

 

Ffioedd Dysgu ar gyfer 2023-2024

Hyd y Cwrs Myfyrwyr o’r DU, Gweriniaeth Iwerddon, Ynysoedd y Sianel, ac Ynys Manaw Myfyrwyr Tramor
2 flynedd llawn amser 14,620 *  £24,640 * 

* Mae’r swm hwn ar gyfer y flwyddyn gyntaf yn unig. Mae’r ffi dysgu sy’n daladwy yn yr ail flwyddyn yn amodol ar gynnydd blynyddol.

Gwybodaeth bellach am y cyllid sydd ar gael tuag at gost ffioedd dysgu.

 

Darllenwch fwy