Trosolwg o’r Cwrs
- Hyfforddiant uwch yn y brif astudiaeth gan gerddorion proffesiynol
- Hyfforddiant uwch mewn paratoi cerddoriaeth, yn cynnwys cyfansoddi a threfnu
- Dosbarthiadau gwrando a dadansoddi arbenigol, yn cynnwys trawsgrifio ac ysgrifennu beirniadol
- Hyfforddiant ensemble proffesiynol
- Ystod eang o gyfleoedd perfformio yn CBCDC
- Cyfleoedd proffesiynol i deithio a pherfformio mewn gwyliau
- Chwaraewr anhepgor yn y sin jazz leol, rhanbarthol a chenedlaethol
- Cysylltiadau cryf gyda’r diwydiant cerddoriaeth yn rhanbarthol, yn cynnwys ym maes addysg
- Hyfforddi am ddatblygu gyrfa, hunan-hyrwyddo, rheoli digwyddiadau a thechneg gynaliadwy
- Cyfres dosbarthiadau meistr rhyngwladol
- Rhaglen gwbl integredig o berfformiadau gan artistiaid rhyngwladol
- Hyfforddiant mewn dadansoddi a chyflwyno perfformiad
- Modiwl dysgu seiliedig ar waith dewisol
- Cyfleoedd astudio tramor mewn conservatoire sy’n bartner i ni drwy’r Rhaglen Gyfnewid ERASMUS
Strwythur y Cwrs
A fyddech cystal â nodi, er bod y wybodaeth isod yn adlewyrchu’r rhaglen a gynhigir hyd yma, gall hon gael ei haddasu a’i newid yn y dyfodol. Ymgynghorir â myfyrwyr bob amser ynglŷn â newidiadau o’r fath a bydd manylion ar gael i ymgeiswyr sydd â chynigion.
Er mwyn i fyfyrwyr allu symud ymlaen o flwyddyn un i flwyddyn dau, bydd angen iddynt fel arfer llwyddo ym mhob un o fodiwlau’r flwyddyn gyntaf.
-
Gwybodaeth Modiwlau
Modiwlau Craidd
Modiwl Credydau Perfformio Jazz 1 40 Perfformio Jazz 2 40 Y Cerddor Jazz Proffesiynol 20 Technegau mewn Harmoni Jazz a Threfnu 20 Perfformio Jazz fel Ymchwil 20 Harmoni Jazz, Trefnu a Chyfansoddi Pellach 20 Modiwlau Dewisol (Dewiswch Un)
Modiwl Credydau Y Newyddiadurwr Jazz 20 Portffolio o Drawsgrifiadau 20 Prosiect Galwedigaethol (Jazz) 20
Gofynion Mynediad
Mynediad trwy wrandawiad a dylai ymgeiswyr allu arddangos lefel o allu perfformio sy’n briodol ar gyfer hyfforddiant proffesiynol. Mae’r gofynion mynediad lleiafswm fel arfer yn cynnwys gradd 2:1 mewn cerddoriaeth neu gymhwyster cyfwerth. Gellir ystyried ymgeiswyr a fu’n astudio neu weithio mewn maes arall.
Ymgeiswyr Rhyngwladol
Bydd angen i ymgeiswyr rhyngwladol nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddangos bod eu gallu Saesneg yn cwrdd â gofynion sylfaenol y Coleg. Cyfeiriwch at ein tudalen Gofynion Iaith Saesneg i gael manylion profion iaith Saesneg derbyniol a’r sgorau gofynnol.
Ffioedd Dysgu ar gyfer 2023-2024
Hyd y Cwrs | Myfyrwyr o’r DU, Gweriniaeth Iwerddon, Ynysoedd y Sianel, ac Ynys Manaw | Myfyrwyr Tramor |
---|---|---|
2 flynedd llawn amser | £11,830 * | £23,280 * |
* Mae’r swm hwn ar gyfer y flwyddyn gyntaf yn unig. Mae’r ffi dysgu sy’n daladwy yn yr ail flwyddyn yn amodol ar gynnydd blynyddol.
Gwybodaeth bellach am y cyllid sydd ar gael tuag at gost ffioedd dysgu.