MA Cyfarwyddo Opera

MA Cyfarwyddo Opera

Trosolwg o’r Cwrs

  • Rhaglen wedi’i mentora yn llawn, wedi’i theilwra i sgiliau a phrofiad penodol pob unigolyn
  • Hyfforddiant mewn methodoleg actio, technegau rihyrsal, prif ieithoedd canu a symud
  • Archwiliad o wahanol ffurfiau, arddulliau a chonfensiynau operatig
  • Cydweithio ar draws y gwahanol ddisgyblaethau creadigol sy’n rhan o gynyrchiadau operatig
  • Ymchwiliad i berthynas artistig, yn cynnwys y broses gynllunio a rôl yr arweinydd
  • Cyfranogi mewn ystod o gynyrchiadau a phrosiectau operatig
  • Cyfarwyddo prosiectau golygfeydd opera mewnol
  • Arsylwi ar ymarfer proffesiynol, yn CBCDC ac yn Opera Cenedlaethol Cymru
  • Cyfnod o leoliad yn y diwydiant wedi’i drafod yn llawn mewn cwmni opera proffesiynol yn y DU, gan ganolbwyntio ar rôl y cyfarwyddwr staff a meysydd o arbenigedd cysylltiedig

 

Strwythur y Cwrs

A fyddech cystal â nodi, er bod y wybodaeth isod yn adlewyrchu’r rhaglen a gynhigir hyd yma, gall hon gael ei haddasu a’i newid yn y dyfodol. Ymgynghorir â myfyrwyr bob amser ynglŷn â newidiadau o’r fath a bydd manylion ar gael i ymgeiswyr sydd â chynigion.

Er mwyn i fyfyrwyr allu symud ymlaen drwy’r cwrs, bydd angen iddynt fel arfer llwyddo yn yr holl fodiwlau ac ennill 180 o gredydau.

  • Gwybodaeth Modiwlau
    Modiwl Credydau
    Y Gweithiwr Opera Proffesiynol 20
    Prosiect Ymchwil 40
    Sgiliau Cyfarwyddo 1 40
    Sgiliau Cyfarwyddo 2 40
    Arfer Diwydiannol 40

     

 

Gofynion Mynediad

Mae mynediad trwy gyfweliad a dylai ymgeiswyr fod yn gallu dangos profiad sylweddol o, ac ymgysylltiad â, byd yr opera/theatr. Anogir gweithwyr proffesiynol sydd eisoes yn gweithio yn y meysydd hyn, ond sy’n dymuno gwella eu sgiliau, i ymgeisio. Mae’r gofynion mynediad lleiafswm fel arfer yn cynnwys gradd 2:1 mewn cerddoriaeth neu gymhwyster cyfwerth, er y gall y Coleg ystyried ceisiadau gan bobl heb gymwysterau ffurfiol os oes ganddynt lefel eithriadol o allu, profiad ymarferol, a dealltwriaeth dda o’r proffesiwn opera.

 

Ymgeiswyr Rhyngwladol

Mae’n ofynnol i holl ymgeiswyr dangos y lefelau uchaf o sgiliau cyfathrebu mewn Saesneg llafar. Asesir hyn yn ystod y cyfweliad.

 

Ffioedd Dysgu ar gyfer 2023-2024

Hyd y Cwrs Myfyrwyr o’r DU, Gweriniaeth Iwerddon, Ynysoedd y Sianel, ac Ynys Manaw Myfyrwyr Tramor
14 mis llawn amser £12,140 *  £23,860 * 

* Dyma’r swm llawn.

Gwybodaeth bellach am y cyllid sydd ar gael tuag at gost ffioedd dysgu.

 

Darllenwch fwy