Trosolwg o’r Cwrs
Datblygwyd y Radd Sylfaen mewn Adeiladu Golygfeydd mewn ymateb i’r prinder dwys o dechnegwyr lefel mynediad sydd â chymwysterau addas i weithio yn y diwydiannau llwyfan a sgrin sy’n datblygu’n gyflym.
Bydd y cwrs yn cychwyn ym mis Awst gyda modiwl rhagarweiniol chwe wythnos sy’n darparu hyfforddiant mewn sgiliau crefft craidd yn ymwneud â gwaith coed, gwaith metel a weldio y mae eu hangen ar gyfer adeiladu setiau theatr. Bydd y myfyrwyr wedi’u lleoli yng ngweithdai mawr llawn cyfarpar rhagorol y Coleg yn Stiwdios Llanisien. Ceir cyfleoedd hefyd i ymweld â gofodau theatr y Coleg yn ogystal â gweithdai proffesiynol a lleoliadau eraill yng Nghaerdydd.
O fis Medi byddwch yn dod yn fwy cyfarwydd â’r amgylchedd theatr, gan ddysgu sgiliau sylfaenol mewn defnyddio offer mynediad, rigio a systemau hedfan. Byddwch yn cael mwy o fewnwelediad i rolau a dyletswyddau gwahanol aelodau tîm a chwarae mwy o ran mewn llwytho i mewn a gosod ar gyfer cynyrchiadau yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Mae mwyafrif y cwrs yn cynnwys cyfres o leoliadau gwaith chwe wythnos o hyd – gyda phedwar ohonynt yn CBCDC a phump arall yn allanol gyda phartneriaid proffesiynol y Coleg yn y diwydiannau theatr, teledu a ffilm. Byddwch yn ymgymryd â lefelau cynyddol o gyfrifoldeb am greu a gosod setiau llwyfan ar gyfer cynyrchiadau mewnol, yn cynnwys opera a theatr gerddorol. Ar gyfer o leiaf un o’ch lleoliadau, byddwch yn ymgymryd â rôl arweinyddiaeth, gan weithio gyda’r cynllunydd i greu’r lluniadau adeiladu gofynnol cyn arwain y gwaith o adeiladu a gosod y set. Ar gyfer eich lleoliad terfynol yn y diwydiant, byddwch yn gweithio mewn rôl broffesiynol, gan o bosibl arwain ar gyfleoedd cyflogaeth tymor hwy.
Cynhelir dosbarthiadau gyda’r hwyr ochr yn ochr â lleoliadau gwaith yn canolbwyntio ar ymwybyddiaeth o’r diwydiant, datblygiad proffesiynol, sgiliau cyflwyno, ymwybyddiaeth fasnachol ac ariannol, rheoli prosiect, cyfathrebu a sgiliau arweinyddiaeth.
Ar ddiwedd y rhaglen dwy flynedd cewch y dewis i ychwanegu at eich cymhwyster drwy gwblhau blwyddyn ychwanegol o astudiaeth yn arbenigo mewn adeiladu golygfeydd fel rhan o radd BA (Anrh) Cynllunio ar gyfer Perfformio.
Gofynion Mynediad
Dylai myfyrwyr fel arfer fod yn gweithio tuag at eu Lefel 3 neu gymwysterau cyfwerth, er y bydd y Coleg yn ystyried ceisiadau gan bobl dros 18 oed sydd â sgiliau a/neu brofiad perthnasol mewn crefft, dylunio a thechnoleg. Rydym yn argymell eich bod yn defnyddio’r datganiad personol ar eich ffurflen gais i ddangos eich diddordeb ym maes theatr/ffilm/teledu ac unrhyw brofiad perthnasol. Gwneir y dewisiadau terfynol ar sail cyfweliad.
Ffioedd Dysgu ar gyfer 2023-2024
Hyd y Cwrs | Myfyrwyr o’r DU, Gweriniaeth Iwerddon, Ynysoedd y Sianel, ac Ynys Manaw | Myfyrwyr Tramor |
---|---|---|
2 blynedd llawn amser | £9,000 * | £23,860 ** |
* Gosodir ffioedd dysgu israddedig ar gyfer myfyrwyr o’r Deyrnas Unedig gan Lywodraeth Cymru. Cânt eu hadolygu’n flynyddol a gallent godi yn y dyfodol.
** Mae ffioedd dysgu israddedig ar gyfer myfyrwyr tramor yn amodol ar gynnydd blynyddol.
Gwybodaeth bellach am y cyllid sydd ar gael tuag at gost ffioedd dysgu.
-
Costau Eraill
Mae’r rhan fwyaf o’r ddinas yn hygyrch ar droed. Mae’r neuaddau preswyl, y rhan fwyaf o’r ardaloedd preswyl a chanol y ddinas 10-15 ar droed o’r prif gampws.
Byddwch wedi eich lleoli yng ngweithdai golygfeydd y Coleg yn Stiwdios Llanisien, sy’n daith fer ar fws o’r prif gampws. Gellir cael tocyn wythnos gan Fws Caerdydd am £15 a gall myfyrwyr 16-21 oed wneud cais am docyn sy’n gostwng hyn i £9.60 (prisiau’n gywir ym mis Hydref 2019).
Yn ystod eich hyfforddiant a thrwy gydol eich gyrfa, bydd disgwyl i chi adeiladu a chynnal eich pecyn offer eich hun. Gall y Coleg ddarparu pecyn dechreuol yn ystod camau cynnar y cwrs am tua £200.
Bydd angen i chi brynu eich esgidiau diogelwch blaen dur eich hun. Ni chaiff myfyrwyr fynd i mewn i’r gweithdai heb esgidiau diogelwch.
Mae ffôn symudol yn declyn hanfodol i unrhyw un sy’n gweithio yn y diwydiant adloniant. Mae’r gallu i anfon a derbyn negeseuon e-bost yn bwysig dros ben, ac mae ffôn clyfar hefyd yn rhoi mynediad hawdd i system amserlennu ar-lein y Coleg.
Bydd hi’n ddefnyddiol hefyd i chi gael eich gliniadur eich hun, sy’n gallu rhedeg Microsoft Office a rhaglenni CAD sylfaenol megis SketchUp.
Gallwch fel arfer wneud cais am fwrsariaethau er mwyn helpu gyda chostau cysylltiedig â lleoliadau allanol, er na fydd y rhain yn talu’r holl gostau a chi sy’n gyfrifol am y gweddill.
Anogir myfyrwyr i fynychu cymaint o berfformiadau’r Coleg â phosibl a gallant gael tocynnau am ddim ar gyfer sioeau Cwmni Richard Burton. Ar gyfer perfformiadau eraill, mae myfyrwyr yn gymwys am docynnau gyda disgownt.
Bydd disgwyl i fyfyrwyr y mae gofyn iddynt ail-sefyll arholiadau dalu ffi ail-sefyll.