Rydym yn dal i dderbyn ceisiadau ar gyfer y cyrsiau BMus (Anrh) Cerddoriaeth (ar gyfer y llwybrau lleisiol, offerynnol a chyfansoddi) a BMus (Anrh) Jazz ar gyfer mynediad. Mae lleoedd yn amodol ar argaeledd. Cofiwch gysylltu â’n Tîm Mynediadau cyn cyflwyno cais.
Trosolwg o’r Cwrs
Lansiodd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru gwrs BMus blaengar newydd yn 2022, gyda modiwlau cwbl integredig a dewisiadau arbenigol ar gyfer myfyrwyr Jazz.
Mae’r cwrs newydd yn adeiladu ar gryfderau a llwyddiannau’r cwrs BMus presennol. Fe’i datblygwyd gan Arweinydd y Cwrs BMus, Andrea Jones, ac uwch aelodau staff cerddoriaeth y Coleg sy’n cynnwys Tim Rhys-Evans, a benodwyd yn Gyfarwyddwr Cerddoriaeth ym mis Ionawr 2020, a gyda mewnbwn sylweddol gan y Pennaeth Jazz, myfyrwyr presennol, graddedigion diweddar, staff CBCDC a phartneriaid cerddoriaeth proffesiynol.
Yn ogystal â’r lefel uchel o hyfforddiant perfformiad unigol, mae’r cwrs newydd hefyd yn cynnwys:
- prosesau amserlennu ac asesu wedi’u symleiddio a’u mireinio
- dull cyngerdd/gŵyl ar gyfer asesiadau perfformio, gyda chynulleidfaoedd byw
- mwy o gyfleoedd i gysylltu gwaith myfyrwyr gyda chynulleidfaoedd a chymunedau amrywiol
- hyfforddiant ymarferol mewn addysgu a chreu cerddoriaeth gyfranogol
- hyfforddiant corawl wythnosol fel gweithgaredd craidd sy’n hyrwyddo dawn gerddorol integredig
- pwyslais ar berfformio corfforol, gan integreiddio sgiliau dawn gerddorol craidd mewn datblygiad harmoni a sain y glust gydag ymwybyddiaeth o’r corff cyfan a symud
- ystod estynedig o ddewisiadau modiwl i gefnogi diddordebau a llwybrau gyrfa amrywiol
- mwy o amrywiaeth mewn meysydd sy’n cynnwys rhaglennu perfformiadau, ymgysylltiad allanol a gwaith ymchwil
- dosbarthiadau mewn techneg Alexander a dulliau meddwl-corff eraill
- hyfforddiant mewn sgiliau digidol i gefnogi cerddorion sy’n perfformio
Mae’r rhaglen yn rhoi pwyslais ar gydweithredu a dulliau cydweithredol ym mhob agwedd o weithgarwch, tra ei bod hefyd wedi’i strwythuro i gynnig lefel uchel o gefnogaeth i bob myfyriwr fel dysgwr unigol ac ymarferwr ar gyfer y dyfodol.
Mae modiwlau craidd yn rhoi myfyrwyr mewn amrywiaeth o gyd-destunau cerddorol byd real o ddechrau eu hyfforddiant, tra bod ystod estynedig o ddewisiadau modiwl ym mlwyddyn tri a phedwar yn galluogi myfyrwyr i adeiladu gwybodaeth, sgiliau a phrofiad mewn meysydd sy’n ymwneud â’u nodau personol a phroffesiynol gan gynnwys perfformio, gwaith artistig cydweithredol, ymchwil, arloesedd ac entrepreneuriaeth diwylliannol.
Cyflwynir y cwrs mewn conservatoire amlddisgyblaethol, gan ddarparu amgylchedd dysgu trochol gyda nodweddion diffiniol allweddol a rennir gan yr holl raglenni astudio yn CBCDC. Caiff myfyrwyr eu hintegreiddio i amgylchedd celfyddydau proffesiynol gyda lleoliadau perfformio o’r radd flaenaf a rhaglen eang o berfformiadau cyhoeddus gan gynnwys datganiadau gwadd gan rai o brif artistiaid y byd. Mae hyn, ynghyd â hyfforddiant arbenigol gan ymarferwyr proffesiynol profiadol, yn sicrhau bod disgwyliadau, cyfleoedd ac amrywiaeth y diwydiannau celfyddydau a chreadigol proffesiynol yn cael eu gwreiddio drwy’r hyfforddiant i gyd.
Modiwlau Craidd
-
Prif Astudiaeth
Mae’r modiwl Prif Astudiaeth ym mlynyddoedd un i dri wrth wraidd y profiad dysgu, ac mae’n galluogi’r myfyrwyr i ddatblygu ystod o dechnegau arbenigol a sgiliau cerddorol, prosesau cyfansoddi ymarferol a syniadau creadigol unigol o fewn cyd-destun gwybodaeth a dealltwriaeth eang o idiomau ac estheteg jazz creadigol cyfoes. Mae’r modiwl hefyd yn caniatáu i fyfyrwyr ganolbwyntio ar agweddau ar ddatblygiad corfforol a seicolegol sy’n tanategu perfformiad a gwaith artistig creadigol. Mae’r modiwl hwn yn rhedeg drwy gydol y flwyddyn academaidd, gan gyfrif am 40 o’r 120 o gredydau sydd eu hangen. Cyflwynir prif astudiaethau drwy gyfuniad o hyfforddiant un i un wedi’i ategu gan ddosbarthiadau perfformio, gweithdai, dosbarthiadau meistr, sgyrsiau gan ymarferwyr ar ymweliad, seminarau a chyfres o ddarlithoedd i gefnogi datblygiad cerddorol ac artistig y myfyrwyr.
Mewn gwersi un i un bydd y myfyrwyr yn gweithio’n agos iawn gyda thiwtoriaid ac yn derbyn cyfarwyddyd mewn datblygu gallu technegol, gwybodaeth am arddulliau a repertoire, a sgiliau mewn cyfathrebu drwy berfformiad. Caiff pob myfyriwr ei herio i archwilio ystod o repertoire jazz a rennir, gan feithrin ymwybyddiaeth arddulliadol a dull idiomatig ar gyfer deunyddiau penodol i genre.
Mae dosbarthiadau adrannol yn ymdrin ag arddull, cyd-destun a chreu cerddoriaeth ymarferol cysylltiedig, yn ogystal â chefnogi datblygiad sgiliau penodol i berfformio genres penodol neu ddetholiad o repertoire. Mae amrywiaeth o ddosbarthiadau perfformio grŵp yn rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr gael profiad ymarferol gwerthfawr mewn cyfathrebu drwy berfformiad, gyda sesiynau’n canolbwyntio ar arddull, gwaith byrfyfyr idiomatig a rhyngweithio grŵp.
Yn y flwyddyn gyntaf bydd dosbarthiadau ensemble bach yn astudio tri maes gwrthgyferbyniol o repertoire yn eu ffurfiau dilys a chyfoes: American Songbook, Blues a Ffync i Ymgyfuniad. Yn yr ail flwyddyn canolbwyntir ar Bebop, Byd Jazz gydag electroneg/technoleg. Mae llinynnau repertoire y drydedd flwyddyn yn adlewyrchu ffurfiau cyfoes amrywiol megis Ffurfiau Caneuon Crossover, Gwaith Byrfyfyr Llinellog ac ysgrifennu Ewropeaidd/Prydeinig, gyda phwyslais ar greu deunydd gwreiddiol sy’n crynhoi datblygiadau newydd ar draws y sbectrwm.
Anogir myfyrwyr i ddatblygu eu hymatebion personol, dadansoddol a beirniadol i berfformiad drwy fynychu cyngherddau a datganiadau yn rheolaidd fel rhan o raglennu creadigol y Coleg. Bydd dosbarthiadau meistr gydag artistiaid ar ymweliad yn cynnig cyfleoedd pellach i ddysgu gan rai o brif gerddorion jazz y byd.
Mae modiwlau Prif Astudiaeth hefyd yn rhoi hyfforddiant sylfaenol mewn sgiliau sain a fideo er mwyn galluogi myfyrwyr i recordio a rhannu eu gwaith fel artist perfformio cyfoes.
Drwy gydol y flwyddyn bydd y myfyrwyr yn derbyn cefnogaeth diwtorial ychwanegol er mwyn tracio eu hymarfer unigol a datblygiad personol drwy hunanwerthuso a myfyrio, gan gasglu ynghyd e-bortffolio. Bydd y portffolio’n dogfennu ystod o elfennau allweddol gan gynnwys cyflawniadau, heriau penodol a phrofiadau cerddorol neu greadigol arbennig a gwaith arall i gefnogi gwaith datblygu gyrfa gynaliadwy, sydd wedi’i fwriadu i lywio a chefnogi eu hunaniaeth greadigol ac artistig sy’n dod i’r amlwg.
-
Cerddor Integredig
Mae modiwl Cerddor Integredig, modiwl craidd 20 credyd ym mlynyddoedd un a dau, cwmpasu ystod o weithgareddau cysyniadol ac ymarferol sydd â’r nod o gysylltu ac integreiddio sgiliau craidd mewn harmoni, theori cerddoriaeth, canfyddiad sain y glust a dawn gerddorol corfforol.
Mae gweithdai mewn grwpiau bach yn hybu dealltwriaeth o harmoni tonyddol a ffurf drwy ymarferion ysgrifenedig a dadansoddiadau.
Mae cyfranogiad wythnosol mewn rihyrsals côr yn hybu datblygiad ymarferol ystod lawn o sgiliau sain y glust, cerddorol a chorfforol gan gynnwys canu, rhythm, darllen ar yr olwg gyntaf a gwaith byrfyfyr. Bydd y repertoire a genir mewn côr yn cynnwys ystod eang o arddulliau cerddorol, gan gynnwys cân Affricanaidd, Raga Indiaidd, Emynau Hwyliog a Roc/Pop yn ogystal â Cherddoriaeth Glasurol y Gorllewin.
Hyrwyddir dawn gerddorol integredig a chorfforol ymhellach drwy ddosbarthiadau mewn hanfodion techneg Alexander a dulliau meddwl/corff ategol.
-
Cerddoriaeth a Chymdeithas
Mae Cerddoriaeth a Chymdeithas, modiwl craidd 20 credyd ym mlynyddoedd un a dau, hefyd ar gael fel modiwl dewisol ym mlwyddyn tri ar gyfer myfyrwyr sy’n dymuno datblygu ymhellach eu sgiliau ymholi beirniadol fel paratoad ar gyfer ymgymryd â phrosiectau seiliedig ar ymchwil unigol arbenigol yn y flwyddyn olaf.
Nod y modiwlau Cerddoriaeth a Chymdeithas yw meithrin dealltwriaeth a gwerthfawrogiad cyd-destunol o rôl y cerddor mewn cymdeithas; er mwyn galluogi’r myfyrwyr i wneud synnwyr o’u profiadau eu hunain o fewn cyd-destun cymdeithasol a hanesyddol ehangach ac i symbylu archwiliad pellach drwy ddarllen, gwrando a mynychu digwyddiadau, ac felly’n cyfrannu at ehangu gorwelion creadigol.
Mae cyfres o ddarlithoedd a seminarau yn archwilio ffurf jazz o’i ddechreuad hyd heddiw, gan edrych ar yr amgylchiadau/amodau cymdeithasol wleidyddol a arweiniodd at i artistiaid penodol ddod i’r amlwg drwy gyfres o astudiaethau achos. Bydd y modiwl yn datblygu dealltwriaeth o sut y mae jazz wedi dylanwadu ar/cael ei ddylanwadu gan ffurfiau cerddorol/diwylliannol eraill a sut y mae ymgyfuniadau cerddoriaeth, cydweithrediad rhyngwladol a datblygiadau technolegol wedi hwyluso cynulleidfaoedd newydd, ond yn aml arwahanol, ar gyfer y gerddoriaeth.
Ategir darlithoedd gan seminarau trafodaeth, a fydd yn gwerthuso ystod eang o syniadau a safbwyntiau ar gyfer ystyried cerddoriaeth ‘boblogaidd’ o gymharu â ‘celf’ o gymharu â ‘gwerin’ a safle jazz yn yr hinsawdd gerddorol bresennol.
Anogir myfyrwyr i wneud synnwyr o’u profiadau eu hunain o fewn byd eahngach jazz, a datblygu sgiliau gwrando beirniadol fel modd o lunio barn artistig. Darperir cefnogaeth a chanllawiau i ddatblygu sgiliau ymchwil, astudio a chyfathrebu ysgrifenedig effeithiol.
Mae Cerddoriaeth a Chymdeithas 3 yn ceisio cyflwyno’r myfyrwyr i lu o ffyrdd y defnyddiwyd cerddoriaeth i ddylanwadu ar newid cymdeithasol. Addysgir y modiwl mewn ffurf seminar lle archwilir testunau allweddol drwy drafodaeth fanwl. Bydd y ffocws ar sut y mae cerddorion yn ymateb i’r cyd-destunau y maent yn byw ynddynt ac yn trawsnewid cymdeithas drwy eu hymyriadau. Bydd y modiwl hefyd yn ceisio datblygu sgiliau ymchwil uwch, gan adeiladu ar waith y ddwy flynedd gyntaf o astudio. Archwilir dulliau cyfoes mewn ysgolheictod cerddorol, gan gynnwys materion hil, rhyw a dosbarth, yn fanwl. Bydd y myfyrwyr yn gwneud prosiect mawr a fydd yn golygu dull mwy soffistigedig o ymresymu.
-
Ymgysylltu
Mae Ymgysylltu yn fodiwl craidd 10 credyd a gynhelir ym mhob un o dair blynedd gyntaf y cwrs, sy’n cyflwyno ac yn atgyfnerthu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer creu cerddoriaeth gyfranogol mewn lleoliadau addysgol a chymunedol. Bydd myfyrwyr yn datblygu ymwybyddiaeth o faterion theori, ymarferol a moesegol sy’n ymwneud ag arfer cyfranogol, gan gynnwys ystyriaethau pwysig ynglŷn ag amrywiaeth a chynwysoldeb.
Yn ystod y flwyddyn gyntaf bydd y myfyrwyr yn gweithio mewn grwpiau i ddyfeisio a chofnodi perfformiad neu weithdy cerddorol sy’n addas ar gyfer ei ledaenu i leoliad cymunedol penodol. Ym mlwyddyn dau byddant yn dyfeisio ac yn cyflwyno eu gweithdy cerddoriaeth eu hunain i blant oedran cynradd. Mae blwyddyn tri yn canolbwyntio ar sgiliau a gwybodaeth benodol sydd eu hangen ar gyfer addysgu offerynwyr, cantorion neu gyfansoddwyr sy’n ddechreuwyr, gyda chyfleoedd i’r myfyrwyr gael profiad ymarferol o addysgu.
-
Cydweithredu
Mae Cydweithredu yn fodiwl craidd 30 credyd ym mhob un o dair blwyddyn gyntaf y Cwrs BMus, gan gyfrif am chwarter y credydau sydd eu hangen. Nod y modiwl hwn yw cynnig cyfleoedd i’r myfyrwyr ddatblygu sgiliau sylfaenol mewn cyfathrebu a rhyngweithio creadigol o fewn cyd-destunau cydweithredol amrywiol gan gynnwys ystod o ensembles llai, heb eu cyfarwyddo yn ogystal ag ensembles mwy, wedi’u cyfarwyddo fel sy’n briodol.
Mae’r profiadau hyn yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu ymhellach eu gwybodaeth o repertoires priodol, sgiliau arbenigol ac arddulliau, gydag ymwybyddiaeth gynyddol o’r disgwyliadau a’r moesegau sydd eu hangen ar gyfer rihyrsal a pherfformiad mewn sefyllfa ensemble proffesiynol.
Cefnogir ensembles i ddatblygu technegau rihyrsal a hunangyfarwyddir yn hyderus a sgiliau arweinyddiaeth cerddorol/creadigol annibynnol.
Erbyn y drydedd flwyddyn bydd myfyrwyr yn barod i ystyried gweledigaeth gerddorol gyflawn a gwireddu hyn drwy gyfansoddi, trefnu a rihyrsal fel Arweinydd Band/Trefnydd. Mae cyfleoedd hefyd i fyfyrwyr weithio fel perfformiwr neu drefnydd /cyfarwyddwr cerddorol mewn ystod o ensembles jazz mawr megis Band Mawr, Côr Jazz a Cherddorfa Jazz.
Mae asesiadau o sgiliau perfformio ac ensemble yn rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr ddangos ystod o sgiliau cydweithredol arbenigol. Bydd tiwtoriaid hefyd yn cyflwyno adroddiadau yn gwerthuso ymgysylltiad creadigol a chyfraniadau unigol yng nghamau paratoi a rihyrsal prosiect.
Mae’r modiwl Cydweithredu Creadigol ar gael ar lefel 4 a 5 gan redeg ochr yn ochr â’r modiwlau Cydweithredu ar draws blynyddoedd un i dri. Rhaid i ymgysylltiad myfyrwyr â’r modiwl hwn a chyfranogiad mewn prosiectau gael eu cytuno a’u gadarnhau fesul achos unigol gan Arweinydd y Modiwl a’r Pennaeth Astudiaeth perthnasol cyn cychwyn ar unrhyw waith prosiect. Mae’r modiwl yn rhoi rhyddid i’r myfyrwyr archwilio ymhellach a dyfnhau eu galluoedd a gwybodaeth o gerddoriaeth a pherfformio creadigol o fewn prosiect cydweithredol penodol. Bydd prosiectau fel arfer yn sylweddol o ran cwmpas ac yn gofyn am ymrwymiad dros gyfnod estynedig o amser gydag ensemble cerddorol bach neu fawr neu grŵp creadigol amlddisgyblaeth fel sy’n briodol i friff y prosiect. Mae ethos y modiwl hwn yn hyrwyddo archwiliad amrywiaeth o repertoire, genres, arddulliau a dulliau.
Modiwlau Trydedd Flwyddyn
Mae blwyddyn tri yn rhoi cyfleoedd i’r myfyrwyr ddewis o ystod o fodiwlau dewisol er mwyn archwilio meysydd sydd o ddiddordeb arbennig a llwybrau gyrfa posibl mewn rhagor o fanylder. Mae’r rhain yn cynnwys Cyfansoddi a Threfnu; Sgiliau Arwain; Addysgu a Gwaith Cymunedol; Cerddoriaeth Gymreig; Gweithio yn y Sector Creadigol, Cerddoriaeth ar gyfer y Theatr; Cynhyrchu ar gyfer Radio; Techneg Alexander; Bioleg ar gyfer Cerddorion; a Seicoleg Perfformio, yn ogystal â modiwlau’n seiliedig ar ymchwil, ysgrifennu, perfformiad gwybodus, harmoni uwch a gwaith byrfyfyr a chyfnodau o astudio dramor.
Modiwlau Blwyddyn Olaf
Yn y flwyddyn olaf, bydd y myfyrwyr yn dewis 120 o gredydau o blith ystod o fodiwlau Prif Lwybr a Llwybr Proffesiynol. Mae’n rhaid i’r modiwlau Prif Lwybr gynnwys naill y modiwl Repertoire Jazz 40 credyd neu 20 credyd yn ymwneud â pherfformio rhaglen gydag ensemble. Mae modiwlau Prif Lwybr eraill yn cynnwys Perfformiad Jazz Unawdol, Jazz ar gyfer yr Unfed Ganrif ar Bymtheg a Pherfformio Band Mawr. Mae’n rhaid i’r modiwlau Prif Lwybr gyfrif am o leiaf un rhan o dair o gredydau’r flwyddyn olaf, a gallant gyfrif am hyd at ddwy ran o dair ohonynt. Mae asesiad y modiwlau hyn wedi’i seilio’n bennaf ar berfformio, gydag elfennau cyflwyniad rhaglen a hunanwerthuso beirniadol.
Mae modiwlau Llwybr Proffesiynol wedi’u seilio ar brosiect ac yn cwmpasu ystod o ddewisiadau gyda gogwydd gyrfaol, seiliedig ar sgiliau a diddordeb arbennig. Mae modiwl Prosiect Terfynol 40 credyd yn brosiect byd real allanol uchelgeisiol, sydd ar gael yn y meysydd gweithgaredd canlynol: Perfformiad Unawdol, Perfformiad Cydweithredol, Arfer fel Ymchwil, Dyfeisio Creadigol, Cyfarwyddyd Cerddorol, Sgiliau Addysgu, Cerddoriaeth Gymunedol/Arfer Cyfranogol, Prosiect Digidol, Prosiect Seiliedig ar Ddiwydiant a Phrosiect Cyfnewid Rhyngwladol.
Mae modiwlau dewisol ychwanegol yn cynnwys Prosiectau Ymchwil, Prosiectau Trawsgrifio, Datganiad-Ddarlith/Sgwrs Cyn Perfformiad, Portffolios Creadigol yn ogystal ag eraill yn ymwneud ag ysgrifennu ar gyfer cerddoriaeth, rheolaeth yn y celfyddydau ac entrepreneuriaeth greadigol.
Gofynion Mynediad
Mae CBCDC wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd mynediad cyfartal i ymgeiswyr dawnus a chryf eu cymhelliant o bob cefndir.
Rydym yn disgwyl i ymgeiswyr ddangos gallu technegol rhagorol a dull cerddorol/ymwybodol o arddull ar gyfer perfformo jazz, gan gynnwys byrfyfyrio.
Mae Cerddoriaeth Safon Uwch yn ddymunol, ond nid yn hanfodol. Fodd bynnag, rydym yn ei gwneud hi’n ofynnol gael o leiaf gwybodaeth theori cerddoriaeth ar lefel Gradd 5 (ABRSM neu Trinity College London).
Gwneir dewisiadau ar gyfer y cwrs Jazz BMus (Anrhydedd) Jazz fel arfer ar sail y broses ganlynol:
- Clyweliad Prif Astudiaeth: Gan gynnwys profion sain y glust a darllen ar yr olwg gyntaf
- Cyfweliad a sesiwn ymarferol: Cynhelir y rhain wedi’r clyweliad gyda’r Pennaeth Astudiaeth a/neu uwch aelod arall o staff, gan roi cyfle i drafod ac archwilio diddordebau cerddorol, uchelgais a pharodrwydd ar gyfer astudio ar lefel conservatoire. Efallai y bydd hefyd sesiwn ymarferol un i un fer er mwyn gwerthuso sut mae’r ymgeisydd yn ymateb i adborth a chyfarwyddyd.
- Prawf dawn gerddorol ar-lein: Prawf diagnostig i ganfod lefelau profiad a gwybodaeth o agweddau craidd ar ddawn gerddorol o ran theori.
Fel arfer bydd disgwyl i ymgeiswyr sy’n llwyddiannus mewn clyweliad/cyfweliad gael o leiaf dau gymhwyster Safon Uwch (graddau A-E) neu gyfwerth.
Mae cymwysterau cyfwerth yn cynnwys:
- Un cymhwyster Safon Uwch (graddau A-E) a 2 gymhwyster UG (graddau A-D)
- 3 Highers yr Alban (graddau A-D)
- 5 Highers Iwerddon (un ar H3 a phedair ar o leiaf H5)
- Diploma/Tystysgrif Cenedlaethol BTEC (Lefel 3)
- Bagloriaeth Cymru
- Bagloriaeth Ryngwladol (o leiaf 24 o bwyntiau, gyda 3 ar lefel Uwch)
- GNVQ Uwch (Lefel 3)
- Cymwysterau rhyngwladol cyfwerth eraill (cysylltwch â’r adran Mynediadau i drafod manylion penodol)
Ym mhob achos, mae’r safonau gofynnol a atodir wrth unrhyw gynnig lle yn seiliedig ar geisiadau/clyweliadau unigol.
-
Gofynion Mynediad nad sy’n Safonol
Mae cynwysoldeb yn sylfaenol i’n llwyddiant ac rydym yn ceisio rhagor o amrywiaeth ym mhob agwedd ar ein cwrs, ac o fewn ein carfan. Rydym yn cynnig gwahoddiad agored ac yn croesawu ymgeiswyr o unrhyw gefndir sy’n bodloni’r gofynion mynediad neu sy’n gallu dangos gallu cyfatebol o ran sgiliau, dawn a photensial i ymgymryd â galwadau’r rhaglen BMus. Mae’r Coleg yn ystyried pob cais yn unigol, achos wrth achos. Adolygir pob mynediad sydd ddim yn rhai safonol gan y Bwrdd Arholi, Arweinydd Rhaglen BMus, Cyfarwyddwr Cerddoriaeth a’r Pennaeth Astudiaeth perthnasol.
Yr un yw’r broses ag ydyw ar gyfer ymgeiswyr safonol. Rhaid i’r rheini sy’n bodloni’r gofynion mynediad Prif Astudiaeth ond sydd heb y cymwysterau academaidd gofynnol ddangos tystiolaeth o’u gwybodaeth gerddorol gyffredinol a galluoedd academaidd. Bydd manylion y dystiolaeth sydd ei hangen yn cael eu nodi gan y Coleg ar sail unigol a bydd fel arfer yn cynnwys cyfuniad o’r canlynol:
- Tystiolaeth o ddawn gerddorol a sgiliau a gwybodaeth am theori cerddoriaeth sy’n gydnaws â mynediad i’r Rhaglen BMus (e.e. tystysgrifau arholiad theori cerddoriaeth neu wedi cwblhau cwrs cychwynnol Harmoni a Theori ar-lein y Coleg)
- Sampl o waith ysgrifenedig (e.e. traethawd, darn o ysgrifennu creadigol, neu blog)
- Sampl o waith nodiant (e.e. cyfansoddiad neu drawsgrifiad)
- Tystiolaeth o brofiadau artistig neu gerddorol blaenorol (e.e. rhaglenni cyngerdd, recordiadau sain neu fideo, beirniadaeth cystadleuaeth)
Ymgeiswyr Rhyngwladol
Bydd angen i ymgeiswyr rhyngwladol nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddangos bod eu gallu Saesneg yn cwrdd â gofynion sylfaenol y Coleg. Cyfeiriwch at ein tudalen Gofynion Iaith Saesneg i gael manylion profion iaith Saesneg derbyniol a’r sgorau gofynnol.
Ffioedd Dysgu ar gyfer 2023-2024
Hyd y Cwrs | Myfyrwyr o’r DU, Gweriniaeth Iwerddon, Ynysoedd y Sianel, ac Ynys Manaw | Myfyrwyr Tramor |
---|---|---|
4 blynedd llawn amser | £9,000 * | £23,860 ** |
* Gosodir ffioedd dysgu israddedig ar gyfer myfyrwyr o’r Deyrnas Unedig gan Lywodraeth Cymru. Cânt eu hadolygu’n flynyddol a gallent godi yn y dyfodol.
** Mae ffioedd dysgu israddedig ar gyfer myfyrwyr tramor yn amodol ar gynnydd blynyddol.
Gwybodaeth bellach am y cyllid sydd ar gael tuag at gost ffioedd dysgu.