Trosolwg o’r Cwrs
Mae’r rhaglen BA (Anrh) Theatr Gerddorol wedi’i chynllunio i’ch darparu â set o sgiliau technegol cynhwysfawr, datblygedig iawn a chwbl integredig a fydd yn eich galluogi i addasu i’r cyfleoedd amrywiol ac ystod eang o alwadau a geir yn y diwydiant theatr gerddorol presennol sy’n ehangu’n gyflym. Bydd y rhaglen hefyd yn cynnwys modiwlau penodol i archwilio’r broses greadigol sy’n rhan o ddatblygu gwaith newydd, er mwyn ymestyn ymhellach eich potensial proffesiynol.
Cynhelir dosbarthiadau ymarferol a gweithdai sy’n canolbwyntio ar ganu, llais, llefaru a thestun drwy gydol y ddwy flynedd gyntaf, wedi’u cefnogi gan diwtorialau unigol. Mae dosbarthiadau dawns yn ymdrin â repertoire a thechneg jazz gan gynnwys arddulliau stryd a masnachol yn ogystal â bale a thap, Lladin ac arddull neuadd ddawns.
Bydd dosbarthiadau actio yn y tymor cyntaf yn eich arwain drwy archwiliadau ymarferol o ddulliau ar gyfer perfformio byrfyfyr, gweithio gyda thestunau, datblygu cymeriad ac adeiladu perthynas drwy’r broses rihyrsio. Mae dwy elfen i fodiwl Actio yr ail flwyddyn sy’n canolbwyntio ar a) dulliau ar gyfer gwaith Shakespeare a thestunau uwch eraill a b) ymchwiliad i arferion a galwadau penodol y diwydiant ffilm a theledu.
Mae cyfres o brosiectau seiliedig ar berfformio yn rhedeg drwy gydol y ddwy flynedd gyntaf gan ddarparu cyfleoedd ar gyfer archwiliad parhaus o’r broses integredig a chreadigol sy’n gysylltiedig â rihyrsio a chynhyrchu gweithiau newydd a chyfarwydd.
Mae ‘Prosiect Pontio’ yn y drydedd flwyddyn yn eich gosod mewn amgylchedd rihyrsio proffesiynol yn gweithio ochr yn ochr â rheolwyr llwyfan, cynllunwyr goleuo a sain ar gyfer cyfres fer o berfformiadau o olygfeydd, neu waith talfyredig, ar gyfer cynulleidfa wadd.
Yn y flwyddyn olaf byddwch yn cymryd rhan mewn rihyrsals a pherfformiadau cyhoeddus o ddau gynhyrchiad olynol wedi’u llwyfannu’n llawn gan weithio mewn amgylchiadau proffesiynol fel rhan o Gwmni Richard Burton y Coleg.
Bydd seminarau rheolaidd a gynhelir drwy gydol y cwrs yn rhoi mewnwelediadau i chi o’r cyd-destun proffesiynol, gan nodi datblygiadau allweddol o fewn y diwydiant a chynnig strategaethau ar gyfer dod o hyd i waith, gyda phwyslais penodol ar dechneg clyweliad.
Tuag at ddiwedd y drydedd flwyddyn, byddwch yn perfformio mewn Stondinau Theatr Gerddorol yng Nghaerdydd, Llundain ac Efrog Newydd (myfyrwyr UDA yn unig) i gynulleidfa wadd o weithwyr proffesiynol y diwydiant a fydd yn cynnwys asiantau a chyfarwyddwyr castio.
Gofynion Mynediad
Ymhlith y gofynion mynediad arferol mae cymwysterau lefelau A, BTEC neu gymwysterau cyfatebol, yn cynnwys WBQ, Scottish Highers, Diploma/Tystysgrif BTEC Cenedlaethol, Bagloriaeth Ryngwladol, GNVQ Uwch, AVCE neu Ddiploma Uwch (Lefel 3), neu gymwysterau rhyngwladol cydnabyddedig. Fodd bynnag, efallai y derbynnir ymgeiswyr sydd â lefel eithriadol o allu ymarferol heb unrhyw gymwysterau ffurfiol.
Dewisir ar sail proses gylweliad.
Ymgeiswyr Rhyngwladol
Bydd angen i ymgeiswyr rhyngwladol nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddangos bod eu gallu Saesneg yn cwrdd â gofynion sylfaenol y Coleg. Cyfeiriwch at ein tudalen Gofynion Iaith Saesneg i gael manylion profion iaith Saesneg derbyniol a’r sgorau gofynnol.
Ffioedd Dysgu ar gyfer 2023-2024
Hyd y Cwrs | Myfyrwyr o’r DU, Gweriniaeth Iwerddon, Ynysoedd y Sianel, ac Ynys Manaw | Myfyrwyr Tramor |
---|---|---|
3 blynedd llawn amser | £9,000 * | £23,860 ** |
* Gosodir ffioedd dysgu israddedig ar gyfer myfyrwyr o’r Deyrnas Unedig gan Lywodraeth Cymru. Cânt eu hadolygu’n flynyddol a gallent godi yn y dyfodol.
** Mae ffioedd dysgu israddedig ar gyfer myfyrwyr tramor yn amodol ar gynnydd blynyddol.
Gwybodaeth bellach am y cyllid sydd ar gael tuag at gost ffioedd dysgu.
-
Costau Eraill
Mae costau teithio o fewn Caerdydd yn fychan, gan fod y neuaddau preswyl, y rhan fwyaf o’r ardaloedd preswyl a chanol y ddinas o fewn taith 10-15 munud ar droed i’r campws.
Bydd rhywfaint o ddysgu yn digwydd yn ein Stiwdios Llanisien, daith fer o’r campws ar fws. Mae tocyn wythnosol o Fws Caerdydd yn £15 a gall myfyrwyr 16-21 oed wneud cais am docyn sy’n gostwng hyn i £9.60 (prisiau yn gywir ym mis Hydref 2019).
Bydd angen i chi brynu eich sgriptiau a dalenni cerddoriaeth eich hun, sydd ar gael o Swyddfa Gwasanaethau Academaidd CBCDC am bris gostyngedig. Dylech ganiatáu tua £50 y flwyddyn ar gyfer hyn.
Mae dyfais recordio ddigidol (megis ffôn clyfar) sydd â meicroffon o ansawdd da yn hollbwysig ar gyfer dosbarthiadau llais a chanu.
Mae aelodaeth o gyfeiriadur Spotlight yn hanfodol a bydd angen i chi dalu am gost hyn (£95 ydyw ar hyn o bryd).
Bydd angen i chi gael lluniau pen ac ysgwydd proffesiynol wedi’u tynnu erbyn dechrau’r drydedd flwyddyn. Mae’r rhain yn amrywio o ran pris yn dibynnu ar y ffotograffydd, ond dylech ganiatáu hyd at £300.
Ceir cymhorthdal rhannol gan y Coleg er mwyn teithio i Lundain ar gyfer perfformiadau a’r Stondin Theatr Gerddorol er y bydd angen i chi dalu am ran o’ch teithio a’ch costau llety.
Bydd angen i fyfyrwyr o America sy’n mynychu stondin actio Efrog Newydd dalu eu costau teithio i Efrog Newydd yn ogystal â llety a chynhaliaeth.
Anogir myfyrwyr i fynychu cymaint o berfformiadau’r Coleg â phosibl a gallant gael tocynnau am ddim ar gyfer sioeau Cwmni Richard Burton. Ar gyfer perfformiadau eraill, mae myfyrwyr yn gymwys am docynnau gyda disgownt.
Efallai y byddwch yn dymuno ymuno ag Undeb yr Actorion Ecwiti a bydd angen i chi dalu costau hyn. Y tâl ymaelodi ar hyn o bryd yw £18.25 a’r tanysgrifiad blynyddol yw £8.25.
Efallai y bydd angen i fyfyrwyr y mae gofyn iddynt ail-sefyll arholiadau dalu ffi ail-sefyll.