BA (Anrh) Rheoli Llwyfan a Theatr Dechnegol

BA (Anrh) Rheoli Llwyfan a Theatr Dechnegol

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r rhaglen arbenigol hon yn cynnig hyfforddiant ymarferol i chi mewn rheoli llwyfan, crefft llwyfan, theatr dechnegol, cynhyrchu digwyddiadau a rheoli digwyddiadau. 

Mae’n rhoi cyfleoedd i chi gael profiad ymarferol o amrywiaeth o rolau cynhyrchu mewn amgylchedd gweithio sy’n adlewyrchu cyn agosed â phosibl amgylchedd theatr broffesiynol a’i diwydiannau cysylltiedig.  

Byddwch yn dechrau drwy ddysgu’r holl sgiliau craidd sydd eu hangen arnoch i weithio ar gynyrchiadau. Mae hyfforddiant rheoli llwyfan - sy’n ymwneud â threfnu a chydlynu perfformiad byw - yn cynnwys cyfres o sesiynau ymarferol. Bydd y rhain yn eich helpu i ddysgu a deall mwy am rolau rheolwr llwyfan cynorthwyol ac is-reolwr llwyfan ac mae’n cynnwys prosiectau creu a chanfod propiau.  

Bydd eich sesiynau crefft llwyfan yn archwilio’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i farcio ystafelloedd a llwyfannau ymarfer, adeiladu a gosod golygfeydd sylfaenol a gweithio peiriannau llwyfan fel systemau hedfan gwrthbwysau a rhaffau. Byddwch hefyd yn cael gwybodaeth dechnegol am systemau goleuo, sain, fideo a thrydanol. Mae hyfforddiant iechyd a diogelwch yn rhan greiddiol o’r cwrs cyfan hefyd.  

Ond defnyddio eich sgiliau mewn amrywiaeth o brofiadau go iawn yw sylfaen eich hyfforddiant.  Drwy gydol eich cwrs, byddwch yn cymryd rhan mewn 11 lleoliad cynhyrchu - gyda Chwmni Richard Burton, ein cwmni theatr mewnol, yn bennaf. Fodd bynnag, gallai tri o’r rhain fod gyda chwmnïau cynhyrchu theatr proffesiynol yn y DU.  

Byddwch yn cael cyfle i arbenigo, a dilyn llwybrau gyrfa sy’n cyd-fynd â’ch diddordebau a’ch uchelgais, er mwyn i chi fod yn barod i ymateb i anghenion diwydiant amrywiol sy’n newid yn gyson.  

 

 

Pam astudio’r cwrs hwn?  

  • Byddwch yn cael gwybodaeth am y byd go iawn a fydd yn eich paratoi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol. Bydd sesiynau damcaniaethol, ymarferol ac academaidd yn ategu eich gwaith ar gynyrchiadau, er mwyn i chi ennill amrywiaeth fwy cynhwysfawr o sgiliau a phrofiadau. 

  • Pan fyddwch wedi dysgu’r sgiliau craidd sy’n ymwneud ag amrywiaeth o rolau cynhyrchu, byddwch yn cael cyfle i arbenigo, er mwyn i’ch hyfforddiant gyd-fynd â’ch diddordebau a’ch uchelgais o ran gyrfa.  

  • Bydd staff o bob cwr o'r diwydiant ac amryw o weithwyr proffesiynol a chyflogwyr gwadd yn eich hyfforddi. Byddant yn cynnig cyfleoedd rhwydweithio i chi yn ogystal ag addysg o'r radd flaenaf.  

  • Pan fyddwch wedi graddio, gallwch ddilyn gyrfa mewn amryw o feysydd - fel rheoli ffilm, teledu, theatr a digwyddiadau, neu rolau mwy technegol ac yn y maes cynllunio, fel goleuo, sain neu fideo. Mae rhai o’n graddedigion wedi mynd ymlaen i hyfforddiant sy’n ymwneud â’r diwydiant a gwaith ymchwil a datblygu yn y maes gweithgynhyrchu. 

  • Byddwch yn cymryd rhan mewn lleoliad cynhyrchu yn ystod eich tymor cyntaf - prosiect grŵp lle byddwch yn cynhyrchu digwyddiad â thema yn y Coleg i bob myfyriwr. Bydd pob lleoliad arall yn cynnig mwy a mwy o gyfrifoldeb i chi, ac yn eich trydedd flwyddyn, byddwch yn uwch aelod o'r tîm cynhyrchu, yn ysgwyddo llawer o gyfrifoldeb dros y perfformiadau terfynol. 

  • Mae lleoliadau gwaith allanol yn rhan bwysig o'r rhaglen hon hefyd, sy’n caniatáu i chi ddatblygu eich crefft yn rhai o leoliadau a sefydliadau blaenllaw y DU. 

  • Nid oes yr un cwrs arall yn cynnig cynifer â thri lleoliad allanol - ac mae’n bosibl y cewch gynnig pedwerydd lleoliad hefyd. Yn aml, bydd eich myfyrwyr yn cael lleoliadau gyda’r National Theatre, y Royal Shakespeare Company, Opera Cenedlaethol Cymru, y Royal Court a Glastonbury. 

  • Cewch y cyfle i wneud prosiectau goleuo a sain, cynllunio taith ryngwladol a datblygu sgiliau mewn defnyddio systemau hedfan awtomataidd mwy datblygedig. 

  • Mae cydweithio yn rhan o bob gweithgaredd. Byddwch yn cymysgu â myfyrwyr o grwpiau blwyddyn eraill yn yr adran, yn ogystal â’r actorion, y cynllunwyr a’r cerddorion o bob rhan o'r Coleg, sy’n golygu profiad cwmni theatr go iawn. Drwy weithio mewn tîm, byddwch hefyd yn datblygu dealltwriaeth ac empathi tuag at feysydd ymarfer eraill yn y celfyddydau creadigol. 

  • Byddwch yn cael dosbarthiadau sy’n canolbwyntio ar fod yn broffesiynol, rheoli a pharatoi ar gyfer gyrfa yn y diwydiant. Yn ogystal â datblygu eich gwybodaeth am reoli digwyddiadau, bydd astudiaethau cyfathrebu hefyd yn archwilio materion pwysig fel cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. 

  • Bydd gwersi cyfathrebu academaidd a phroffesiynol yn eich galluogi i fod yn ymarferydd yn y byd adloniant, o gyflwyno eich gwaith - a chi eich hun - rheoli eich cyllidebau a’ch llwybr gyrfa, delio â sefyllfaoedd personél cymhleth ac anodd a chynllunio digwyddiadau ar raddfa fawr.   
     

Gofynion Mynediad

Dewisir ymgeiswyr ar gyfer cyfweliad ar sail y wybodaeth a ddarperir yn eu cais UCAS. 

Mae cymwysterau cyfatebol yn cynnwys WBQ, Scottish Highers, Diploma/Tystysgrif Genedlaethol BTEC, Bagloriaeth Ryngwladol, GNVQ Uwch, AVCE neu Ddiploma Uwch (Lefel 3), neu gymwysterau rhyngwladol cydnabyddedig. 

Fodd bynnag, bydd unrhyw amodau gofynnol a gynhwysir gyda chynnig lle wedi’u seilio ar geisiadau unigol a chyfweliadau. Efallai y bydd disgwyl i ymgeiswyr gael o leiaf raddau BBC mewn Safon Uwch a DDM mewn cyrsiau BTEC, neu gyfatebol, cyn dechrau. 

Efallai y bydd y Coleg yn ystyried ceisiadau gan bobl sydd heb gymwysterau ffurfiol os oes ganddynt lefel eithriadol o allu ymarferol a phrofiad. 

 

Ymgeiswyr Rhyngwladol

Bydd angen i ymgeiswyr rhyngwladol nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddangos bod eu gallu Saesneg yn cwrdd â gofynion sylfaenol y Coleg. Cyfeiriwch at ein tudalen Gofynion Iaith Saesneg i gael manylion profion iaith Saesneg derbyniol a’r sgorau gofynnol.

 

Ffioedd Dysgu ar gyfer 2023-2024 (2024-2025 TBC)

Hyd y Cwrs Myfyrwyr o’r DU, Gweriniaeth Iwerddon, Ynysoedd y Sianel, ac Ynys Manaw Myfyrwyr Tramor
3 blynedd llawn amser £9,000 * £23,860 ** 

* Gosodir ffioedd dysgu israddedig ar gyfer myfyrwyr o’r Deyrnas Unedig gan Lywodraeth Cymru. Cânt eu hadolygu’n flynyddol a gallent godi yn y dyfodol.

** Mae ffioedd dysgu israddedig ar gyfer myfyrwyr tramor yn amodol ar gynnydd blynyddol.

Gwybodaeth bellach am y cyllid sydd ar gael tuag at gost ffioedd dysgu.

  • Costau Eraill

    Mae costau teithio o fewn Caerdydd yn fychan, gan fod y neuaddau preswyl, y rhan fwyaf o’r ardaloedd preswyl a chanol y ddinas o fewn taith 10-15 munud ar droed i’r campws. 

    Bydd rhywfaint o ddysgu yn digwydd yn ein Stiwdios Llanisien; taith fer o’r campws ar fws. Mae tocyn wythnosol Bws Caerdydd yn £15 a gall myfyrwyr 16-21 oed wneud cais am docyn sy’n gostwng hyn i £9.60 (prisiau yn gywir ym mis Hydref 2019). 

    Bydd angen pecyn offer hanfodol arnoch sy’n cynnwys yr eitemau canlynol er mwyn dechrau ar y cwrs: 

    • Pren mesur graddfa (1:25 metrig trionglog) 

    • Menig rigio 

    • Tâp mesur 30m 

    • ‘Multi tool’ (Leatherman neu gyfatebol) 

    • ‘Podger’ (17mm/19mm) / Sbaner Cwad (13mm/17mm/19mm/21mm) 

    • Fflach lamp/lamp pen 

    Bydd angen i chi hefyd brynu eich esgidiau diogelwch blaen dur eich hun. Ni chaiff myfyrwyr fynd i mewn i’r gweithdai heb esgidiau diogelwch. 

    Bydd angen i fyfyrwyr gael eu dillad ‘du smart’ (crys/top llewys hir, trowsus ac esgidiau) eu hunain i’w gwisgo yn ystod sioeau. Bydd angen digon arnoch ar gyfer cyfnod y rihyrsals technegol a’r perfformiadau eu hunain (tua dwy wythnos). 

    Mae ffôn symudol yn offer hanfodol ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio yn y diwydiant adloniant. Mae bod â’r gallu i anfon a derbyn negeseuon e-bost yn bwysig dros ben, ac mae ffôn clyfar hefyd yn rhoi mynediad hawdd i chi at system amserlennu ar-lein y Coleg. 

    Bydd myfyrwyr yn ei gweld hi’n ddefnyddiol i gael eu gliniadur eu hunain, sy’n gallu rhedeg Microsoft Office a rhaglenni CAD sylfaenol megis SketchUp. 

    Gall myfyrwyr sy’n trefnu lleoliad profiad gwaith mewn cydweithrediad â’r Arweinwyr Cwrs fel arfer wneud cais am fwrsariaeth er mwyn cynorthwyo gyda’ch costau cysylltiedig â’r lleoliad. Ni fydd y fwrsariaeth yn talu’r holl gostau, a’r myfyrwyr fydd yn gyfrifol am y gweddill. 

    Anogir myfyrwyr i fynychu cynifer o berfformiadau’r Coleg â phosibl a gallant gael tocynnau am ddim ar gyfer sioeau Cwmni Richard Burton. Ar gyfer perfformiadau eraill, mae myfyrwyr yn gymwys am docynnau rhatach. 

    Bydd angen cyflwyno traethodau hir ar ffurf copi caled a chyfrifoldeb y myfyriwr fydd talu am gostau argraffu a rhwymo’r gwaith. 

    Efallai y bydd angen i fyfyrwyr y mae gofyn iddynt ail-sefyll arholiadau dalu ffi ail-sefyll. 

Darllenwch fwy