BA Cynllunio ar gyfer Perfformio: Sut i Ymgeisio

BA Cynllunio ar gyfer Perfformio: Sut i Ymgeisio

I gael mynediad i gwrs BA (Anrh) Cynllunio ar gyfer Perfformio, sy’n dechrau ym mis Medi 2023, mae’n rhaid i chi wneud cais drwy UCAS Undergraduate. Mae yna ffi untro o £22.50 i ddefnyddio UCAS Undergraduate (neu £27 os ydych yn gwneud cais am fwy nag un cwrs, coleg neu brifysgol).

Os ydych mewn ysgol neu goleg yn y DU, byddwch yn cael ‘gair cod’ gan eich athro neu eich cynghorydd gyrfaoedd er mwyn cofrestru gydag UCAS. Os ydych yn ymgeisydd annibynnol, neu os ydych yn byw y tu allan i’r DU, gallwch wneud cais drwy UCAS Undergraduate.

Cod Sefydliad UCAS Undergraduate ar gyfer Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yw R86 a Chod y Cwrs ar gyfer BA (Anrh) Cynllunio ar gyfer Perfformio yw W460.

Rydym yn argymell eich bod yn rhoi sylw penodol i’r wybodaeth yr ydych yn ei darparu yn eich datganiad personol ar eich ffurflen gais, er mwyn rhoi darlun mor glir â phosibl i ni o’ch profiad perthnasol a’ch rhesymau dros wneud cais

 

Dyddiadau ar gyfer Gwneud Cais

Ceisiadau’n agor 3 Mai 2022
Ceisiadau’n cau 25 Ionawr 2023 am 18:00 (amser y DU) 

 

Y Broses Ymgeisio

Ar ôl i chi gyflwyno’ch cais drwy UCAS Undergraduate, byddwn yn eich gwahodd i gyflwyno portffolio o’ch gwaith drwy Acceptd (byddwch yn derbyn rhagor o wybodaeth am Acceptd ar ôl i ni dderbyn eich cais).

Mae’n rhaid i’ch portffolio gynnwys eich gwaith eich hun a gwaith rydych chi am i’r panel ei weld tra’n ystyried eich cais. Gall hyn fod yn unrhyw beth o baentiadau, lluniau, brasluniau, cerfluniau, gwisgoedd, modelau, bocsys model, ffotograffau ac ati. Mae’r panel yn disgwyl gweld tystiolaeth o gynlluniau a lluniau sy’n gysylltiedig â’r theatr yn y portffolio. Rydym yn argymell nad ydych chi’n golygu’r gwaith rydych chi’n ei gynnwys yn eich portffolio. Mae gennym ni ddiddordeb mewn gweld eich holl waith gan gynnwys darnau rydych chi’n eu hystyried yn dda a’r rhai nad ydynt cystal.

Bydd ein tiwtoriaid Dylunio ar gyfer Perfformio yn ystyried eich cais UCAS a’r portffolio gyda’i gilydd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu gwahodd i gyfweliad ar-lein ar Zoom. Bydd gwahoddiadau i gyfweliadau yn cael eu gwneud drwy Acceptd.

Bydd tiwtoriaid yn ystyried y cyfweliad, y cais UCAS a’r portffolio cyn penderfynu a fydd cynnig i astudio yn cael ei wneud.

 

Cymorth a Chyngor gan UCAS Israddedig

Os oes angen help arnoch gyda’ch cais, gallwch gysylltu â Thîm UCAS Israddedig drwy ffonio 0371 468 0 468 (os ydych yn y DU) neu +44 330 3330 230 (os ydych y tu allan i’r DU).