Amserlenni’r Cwrs
Bydd pob blwyddyn academaidd yn rhedeg o fis Medi hyd fis Gorffennaf ac fe’i rhennir yn dri thymor: hydref (12 wythnos), gwanwyn (12 wythnos) a haf (11 wythnos). Cyhoeddir amserlenni ar ddechrau pob tymor.
Yr oriau addysgu craidd yw Llun-Gwener 9am-6pm.
Addysgu a Dysgu
Fel arfer bydd 20-24 o fyfyrwyr ym mhob grŵp blwyddyn a dim mwy na 10 o fyfyrwyr yn y rhan fwyaf o ddosbarthiadau.
Mae’r hyfforddiant wedi’i fodelu ar batrymau arfer proffesiynol ac mae gofyn i chi fabwysiadau arferion gweithio sy’n adlewyrchu’n agos rhai’r theatr broffesiynol a’i diwydiannau cysylltiedig.
Bydd tîm craidd o staff sefydledig a phrofiadol yn cyflwyno dosbarthiadau ymarferol, gweithdai, tiwtorialau ac yn goruchwylio’r stiwdio, gyda mewnbwn sylweddol gan ystod ehangach o ymarferwyr proffesiynol profiadol. Goruchwylir cynyrchiadau a phrosiectau gan gynllunwyr ac ymarferwyr cynllunio o fewn y diwydiant, a bydd myfyrwyr yn elwa gan brofiad o weithio ochr yn ochr â chyfarwyddwyr theatr proffesiynol.
Y tu allan i oriau addysgu bydd disgwyl i chi wneud gwaith ymchwil annibynnol a datblygu eich arfer yn y stiwdio.
Mae gan Lyfrgell CBCDC dros 50,000 o eitemau sy’n cynnwys llyfrau, cylchgronau, papurau newydd a deunyddiau clyweledol. Mae’n gartref i gasgliad mwyaf y DU o setiau drama yn Saesneg y gellir eu benthyca. Hefyd yn y Llyfrgell gellir cael mynediad at adnoddau ar-lein, gan gynnwys cronfeydd data o destunau drama a recordiadau o gynyrchiadau theatr Prydeinig a rhaglenni dogfen tu ôl i’r llenni.
Gall y Coleg gynnig cyngor proffesiynol a chyfrinachol ac ystod o gefnogaeth ymarferol er mwyn sicrhau y gall myfyrwyr ddechrau eu hastudiaethau yn CBCDC, gwneud cynnydd drwy eu cwrs, a graddio’n llwyddiannus.
Mae’r Coleg yn cyflogi Cynghorydd Lles Meddwl, a cheir mynediad am ddim at wasanaeth cwnsela cyfrinachol. Gall Cynghorydd Anabledd y Coleg ddarparu cymorth i fyfyrwyr i wneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl, trefnu asesiadau anghenion a datblygu Cynlluniau Cefnogi Unigol, a allai gynnwys cefnogaeth tiwtorial arbenigol ychwanegol ar gyfer myfyrwyr sydd ag anawsterau dysgu penodol neu anghenion ychwanegol.
Asesiad ac Adborth
Asesir y mwyafrif o’r modiwlau yn barhaus. Mae’r meini prawf ar gyfer asesu yn adlewyrchu arferion gweithio yr amgylchedd cynllunio ar gyfer perfformio proffesiynol, a’r sgiliau sydd eu hangen gan ei ymarferwyr. Efallai y bydd asesiad yn rhoi ystyriaeth i waith prosiect grŵp ac unigol; datblygiad ymchwil a chynlluniau rhagarweiniol; cynlluniau set a gwisgoedd terfynol; cynnyrch terfynol; cyflwyniadau llafar ac ysgrifenedig. Dylid ystyried asesiadau fel rhan o’r broses ddysgu ac nid fel rhywbeth sy’n tarfu arni.
Mae asesiad Sgiliau Technegol wedi’i seilio ar y meini prawf canlynol:
- prydlondeb; hunanddisgyblaeth; presenoldeb cyson a rheolaidd
- parodrwydd i gydweithredu; cymhelliant; ymrwymiad; canolbwyntio a chymhwysiad
- y gallu i gynnig a derbyn beirniadaeth
- hyblygrwydd dychymyg pan ddeuir ar draws problemau ac wrth ddatrys problemau
Asesir Prosiectau, Astudiaeth Arbenigol a Modiwlau Cynhyrchu ar sail:
- lefel dealltwriaeth y myfyriwr o natur a chyd-destun darn o destun, cerddoriaeth, dawns ac ati
- yr arloesedd a’r gwreiddioldeb yn y broses gynllunio a gwireddu
- trylwyrdeb ac effeithiolrwydd yr ymchwil a’r broses wireddu
- y gallu i gyfathrebu a chydweithredu’n effeithiol
Asesir Astudiaethau Hanesyddol a Chyd-destunol ar sail cyflwyniadau seminar yn ogystal â gwaith ysgrifenedig sy’n cynnwys traethodau, adroddiadau myfyrio a thraethawd hir (8,000 o eiriau) yn y drydedd flwyddyn.
Bydd myfyrwyr blwyddyn olaf hefyd yn cyflwyno arddangosfa fawr o’u gwaith yn nhymor yr haf. Gall hyn fod yn werth hyd at 50% o’ch marciau ar gyfer eich gradd.
Bydd myfyrwyr yn derbyn y canlyniad dosbarth gradd gorau o un o’r ddwy system ddosbarthu ganlynol:
Dull 1: Cyfrifo cyfartaledd y marciau o’r 60 credyd gorau ar Lefel 5 a’r 120 credyd ar Lefel 6. Cymerir y 60 credyd ar Lefel 5 o’r modiwlau 20 credyd.
Dull 2: Cyfrifo cyfartaledd y marciau o’r 120 credyd Lefel 6.
- Er mwyn cael gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf, rhaid i fyfyrwyr gael cyfartaledd o 69.5% neu uwch
- Er mwyn cael gradd Anrhydedd Ail Dosbarth Uwch, rhaid i fyfyrwyr gael cyfartaledd o 59.5% neu uwch
- Er mwyn cael gradd Anrhydedd Ail Dosbarth Is, rhaid i fyfyrwyr gael cyfartaledd o 49.5% neu uwch
- Er mwyn cael gradd Anrhydedd Trydydd Dosbarth, rhaid i fyfyrwyr gael cyfartaledd o 39.5% neu uwch
Mae dyfarniadau gadael amgen ar gael i fyfyrwyr sy’n methu cwblhau lefel astudiaeth.
Dylech ystyried eich deialog parhaus gyda thiwtoriaid yn ystod dosbarthiadau, prosiectau a chynyrchiadau i fod yn rhan hollbwysig o’r adborth yr ydych yn ei dderbyn drwy gydol y cwrs, a’r cyngor a fydd fwyaf defnyddiol i chi yn eich bywyd gweithiol yn y dyfodol.
Gallwch ddisgwyl derbyn adborth ffurfiol, naill ai’n ysgrifenedig neu ar lafar, o fewn 20 diwrnod i ddiwrnod olaf prosiect neu gynhyrchiad.
Cyhoeddir trawsgrifiadau academaidd ffurfiol ar ddiwedd pob blwyddyn academaidd.
Mae copi o’r rheolau a’r rheoliadau ar gyfer y cwrs hwn ar gael.