Trosolwg o’r Cwrs
Mae profiad ymarferol a lleoliadau gwaith gyda rhai o enwau mwyaf y diwydiant yn rhan ganolog o’ch hyfforddiant.
Gyda’n hyfforddiant arbenigol ym maes cynllunio setiau a gwisgoedd, byddwch yn dysgu’r holl sgiliau ymarferol a phroffesiynol sydd eu hangen arnoch i gael gyrfa yn gweithio ym maes digwyddiadau, teledu, theatr neu ffilm.
Mae’n dechrau gyda chyflwyniad i ddulliau a thechnegau cynllunio – fel lluniadu technegol, defnyddio meddalwedd cynllunio, creu gwisgoedd a gwneud propiau. Bydd cyfres o brosiectau astudio cysyniadol ac arbenigol wedyn yn eich galluogi i ddefnyddio eich sgiliau ac archwilio eich hunaniaeth artistig heb gyfyngiadau ymarferol.
Dan arweiniad eich tiwtoriaid, byddwch yn nodi cryfderau a diddordebau penodol i’w datblygu drwy ddosbarthiadau sgiliau uwch a gwaith seiliedig ar berfformio.
Fel myfyriwr yma, byddwch yn ymgolli yn yr awyrgylch creadigol sy’n nodweddiadol o’n hamgylchedd dysgu conservatoire. Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â myfyrwyr cerddoriaeth a drama mewn rhai o bron i’r 30 digwyddiad a gynhelir yn y Coleg bob blwyddyn.
Byddwch hefyd yn cael lleoliadau gwaith gyda’n sefydliadau partner, sy’n rhai o’r enwau mwyaf eu bri yn y diwydiant, gan gynnwys y BBC, Badwolf Studios, Cos Props, y Tŷ Opera Brenhinol a’r National Theatre.
Daw eich cwrs i ben gyda myfyrwyr yn trefnu i arddangos gwaith ymarferol a gwaith prosiect pawb; gwaith sydd wedi’i gasglu a’i fireinio dros y tair blynedd. Bydd hwn yn cael ei arddangos yng Nghaerdydd ac ar South Bank yn Llundain, lle ceir ymweliadau gan ddarpar gyflogwyr o stiwdios a theatrau mawr.
Pam astudio’r cwrs hwn?
-
Byddwch yn cael dealltwriaeth ddofn o theori ac ymarfer cynllunio sy’n gysylltiedig â pherfformio er mwyn eich paratoi ar gyfer gyrfa mewn theatr, ffilm neu deledu. Mae’n cynnwys amrywiaeth eang o sgiliau ymarferol, gan gynnwys lluniadu technegol, CAD, SketchUp, gwneud modelau, torri patrymau, creu gwisgoedd, gwneud hetiau, teilwriaeth, celf golygfeydd a gwneud propiau.
-
Mae ein rhestr drawiadol o diwtoriaid yn cynnwys ymarferwyr ac artistiaid creadigol o amrywiaeth o ddisgyblaethau – sy’n cynnig mentoriaeth a chyfleoedd rhwydweithio yn ogystal ag addysg o’r radd flaenaf i chi.
-
Rydym wedi ffurfio partneriaethau cryf â rhai o enwau mwyaf y diwydiant, fel y BBC, Badwolf Studios, Cos Props, y Tŷ Opera Brenhinol a’r National Theatre, a byddwch yn cael cyfleoedd i gymryd rhan mewn lleoliadau gwaith gyda nhw yn ystod eich cyfnod yma.
-
Gallwch deilwra eich astudiaeth i gyd-fynd â’ch diddordebau a’ch uchelgais o ran gyrfa – a does dim rhaid i chi benderfynu ar arbenigedd tan eich blwyddyn olaf.
-
Mae ein dosbarthiadau yn fach, felly byddwch yn cael llawer o gefnogaeth unigol gan eich tiwtoriaid.
-
Mae profiad ymarferol yn hanfodol i’r hyfforddiant. O’r wythnos gyntaf ymlaen, byddwch yn dechrau datblygu prosiectau ymarferol, gan ganolbwyntio ar wisgoedd, propiau a phypedwaith cydweithredol. Yn nes ymlaen yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn gweithio’n unigol ac fel rhan o dîm i greu digwyddiad ‘gwisg fel perfformiad’ ar y cyd â myfyrwyr rheoli llwyfan.
-
Fel rhan o’ch cwrs, byddwch hefyd yn cynllunio set a gwisgoedd ar gyfer testun clasurol mewn theatr draddodiadol, gan weithio gyda thiwtor yn rôl cyfarwyddwr, gyda staff ychwanegol yn rhoi arweiniad ymarferol.
-
Byddwch hefyd yn archwilio technegau pypedwaith, gan eich paratoi ar gyfer lleoliadau posibl mewn cynyrchiadau mawr sy’n benodol i safle a gynhelir bob haf gan yr adran Cynllunio ar gyfer Perfformio.
-
Bob blwyddyn, mae’r Coleg yn cynhyrchu mwy na 26 o gynyrchiadau theatr gan gynnwys theatr gerdd ac opera. Yn eich ail flwyddyn, gallwch weithio ar y cynyrchiadau hyn mewn rolau fel cynorthwyydd cynllunio, artist golygfeydd, gwneuthurwr propiau, goruchwyliwr neu wneuthurwr gwisgoedd, yn dibynnu ar eich maes arbenigedd. Yn ystod eich blwyddyn olaf, mae rolau posibl yn cynnwys rôl uwch neu gynllunydd yn y tîm gwireddu.
-
Bob blwyddyn, mae rhwng 20 a 30 o ymarferwyr blaenllaw yn ymweld â’r Coleg i gynnal dosbarthiadau meistr gyda’n myfyrwyr, gan roi cipolwg heb ei ail i chi ar y diwydiant.
-
Byddwch yn datblygu eich sgiliau ymchwil drwy ddarlithoedd, seminarau a theithiau maes gan ganolbwyntio ar ddatblygiadau pwysig yn hanes theatr, celf, pensaernïaeth, cynllunio a gwisgoedd.
-
Yn ogystal â’ch hyfforddiant ymarferol, byddwch hefyd yn dysgu sut mae creu eich gwefan broffesiynol eich hun – sy’n hanfodol i gynllunwyr sy’n gweithio yn y diwydiant heddiw.
Gofynion Mynediad
Fel arfer, yr isafswm o ran cymwysterau ar gyfer mynediad yw lefel A neu gymhwyster cyfatebol mewn celf a dylunio. Mae cymwysterau cyfatebol yn cynnwys WBQ, Scottish Highers, Diploma/Tystysgrif Genedlaethol BTEC, Bagloriaeth Ryngwladol, GNVQ Uwch, AVCE neu Ddiploma Uwch (Lefel 3), neu gymwysterau rhyngwladol cydnabyddedig.
Fodd bynnag, bydd unrhyw amodau gofynnol a gynhwysir gyda chynnig lle wedi'u seilio ar geisiadau unigol, cyfweliadau a chyflwyniadau portffolio. Efallai y bydd y Coleg yn ystyried ceisiadau gan bobl sydd heb gymwysterau ffurfiol os oes ganddynt lefel eithriadol o allu ymarferol a phortffolio addas.
Rydym yn argymell bod ymgeiswyr yn cwblhau Cwrs Sylfaen Celf a Dylunio cyn cael mynediad.
Ymgeiswyr Rhyngwladol
Bydd angen i ymgeiswyr rhyngwladol nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddangos bod eu gallu Saesneg yn cwrdd â gofynion sylfaenol y Coleg. Cyfeiriwch at ein tudalen Gofynion Iaith Saesneg i gael manylion profion iaith Saesneg derbyniol a’r sgorau gofynnol.
Ffioedd Dysgu ar gyfer 2023-2024 (2024-2025 TBC)
Hyd y Cwrs | Myfyrwyr o’r DU, Gweriniaeth Iwerddon, Ynysoedd y Sianel, ac Ynys Manaw | Myfyrwyr Tramor |
---|---|---|
3 blynedd llawn amser | £9,000 * | £23,860 ** |
* Gosodir ffioedd dysgu israddedig ar gyfer myfyrwyr o’r Deyrnas Unedig gan Lywodraeth Cymru. Cânt eu hadolygu’n flynyddol a gallent godi yn y dyfodol.
** Mae ffioedd dysgu israddedig ar gyfer myfyrwyr tramor yn amodol ar gynnydd blynyddol.
Gwybodaeth bellach am y cyllid sydd ar gael tuag at gost ffioedd dysgu.
-
Costau Eraill
Mae costau teithio o fewn Caerdydd yn fychan, gan fod y neuaddau preswyl, y rhan fwyaf o’r ardaloedd preswyl a chanol y ddinas o fewn taith 10-15 munud ar droed i’r campws.
Bydd rhywfaint o ddysgu yn digwydd yn ein Stiwdios Llanisien, daith fer o’r campws ar fws. Mae tocyn wythnosol o Fws Caerdydd yn £14.50 a gall myfyrwyr 16-21 oed wneud cais am docyn sy’n gostwng hyn i £9.40 (prisiau yn gywir ym mis Tachwedd 2022).
Bydd angen pecyn offer hanfodol arnoch sy’n cynnwys yr eitemau canlynol er mwyn dechrau ar y cwrs, ar gael i'w brynu gan y Coleg am bris a negodwyd yn arbennig o £75, sef 50% o'r pris manwerthu arferol.
Pecyn cymorth allweddol
- Set Cyllyll Graffeg Swann-Morton (Carn Rhif 3 a Llafnau 10a)
- Set o 12 pensil braslunio artist – graddfeydd 2H i 8B
- Gesso Winsor & Newton 500ml
- Llyfr braslunio sbiral clawr caled A3
- Set o Diwbiau 75ml Acrylig System 3 Daler-Rowney (8 lliw)
- Set Dyfrlliw Winsor & Newton
- Inciau lluniadu artist – set o 4
- Brwshys dibenion cyffredinol 1”, 2”, a 3”
- Set o 10 o brwsh artist cymysg crwn bach a gwastad
- Pren mesur graddfa fetrig (trionglog) gyda graddfeydd penodol *
- Sgwaryn addasadwy *
- Sgwaryn 45 gradd
- Blwch offer cloadwy 20 modfedd neu fwy
- Set cwmpawd *
- Set o 4 ‘fine-liners’ (du): 0.1, 0.3, 0.5, 0.7
- Onglydd
- Sgwâr-T plastig 45cm *
- Pren mesur metel fflat 30cm
- Siswrn 6”
- Siswrn ffabrig 9”
- Gwniadur
- Pren mesur plastig clir 18”
- Tâp mesur – lliain
- Mat torri A2
- Tâp mesur dur ôl-dynadwy 5m
- Cyllell grefft ‘Snap-off’
- Gefail bigfain fach
- Torrwr gwifrau bach
Bydd angen i chi hefyd brynu eich esgidiau diogelwch blaen dur eich hun. Ni chaiff myfyrwyr fynd i mewn i’r gweithdai heb esgidiau diogelwch.
Mae defnydd gliniadur neu dabled i gefnogi eich astudiaethau cynllunio ac academaidd yn rhan hollbwysig o’ch dysgu. Er bod y Coleg yn darparu cyfrifiaduron at gyfer addysgu, a gellir eu defnyddio drwy’r dydd, fe fydd angen cyfrifiadur arnoch weithiau pan fyddwch yn gweithio o adref. Dylai’r cyfrifiadur fod â’r manylebau canlynol:
- Prosesydd Intel Core i5
- RAM 8GB
- Gyriant caled 500GB
- Cerdyn graffeg Radeon NVIDIA neu AMD gyda 2GB o RAM pwrpasol
Mae'r Coleg yn darparu mynediad i fyfyrwyr at ystod eang o feddalwedd ar gyfrifiaduron coleg a chyda thrwyddedau ar gyfer cyfrifiaduron personol y myfyrwyr fesul prosiect. Fodd bynnag, dylai myfyrwyr danysgrifio i Adobe Premiere Suite gan y bydd pob myfyriwr yn defnyddio'r feddalwedd a ddarperir drwy'r Adobe Creative Cloud.
Anogir myfyrwyr i fynychu cymaint o berfformiadau’r Coleg â phosibl a gallant gael tocynnau am ddim ar gyfer sioeau Cwmni Richard Burton. Ar gyfer perfformiadau eraill, mae myfyrwyr yn gymwys am docynnau gyda disgownt.
Bydd myfyrwyr sy’n trefnu lleoliadau proffesiynol allanol mewn cydweithrediad a’r arweinwyr cwrs yn gyfrifol am unrhyw gostau a geir.
Mae’r Coleg yn talu am gostau teithio i Lundain ac yn ôl ar gyfer yr arddangosfa derfynol a hefyd am 50% o’r costau llety. Mae gofyn i’r myfyrwyr dalu’r 50% sy’n weddill – sydd ar hyn o bryd yn £100. Darperir brecwast ond y myfyrwyr fydd yn talu am unrhyw fwyd a diod arall.
Ar gyfer y stondin arddangos, bydd gofyn i chi dalu costau unrhyw offer technegol ychwanegol sydd ei angen, mewn ymgynghoriad â’r rheolwr technegol. Chi hefyd fydd yn talu am ddeunydd pacio ar gyfer eich arddangosyn, yn ogystal â ffioedd lletya gwe, argraffu, cardiau busnes a chrysau t y criw.
Bydd angen cyflwyno traethodau hir ar ffurf copi caled a chyfrifoldeb y myfyriwr fydd talu am gostau argraffu a rhwymo’r gwaith.
Efallai y bydd angen i fyfyrwyr y mae gofyn iddynt ail-sefyll arholiadau dalu ffi ail-sefyll.
Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2021: Cynllunio Ar Gyfer Perfformio CBCDC
- Yr addysgu ar fy nghwrs: 100%
- Cyfleoedd dysgu: 100%
- Asesu ac adborth: 95.83%
- Cymorth academaidd: 98.15%
- Trefniadaeth a rheolaeth: 96.30%
- Adnoddau dysgu: 92.59%
- Cymuned ddysgu: 97.22
- Llais y Myfyrwyr: 92.59
- Boddhad cyffredinol: 100