BA Actio: Sut i Ymgeisio

BA Actio: Sut i Ymgeisio

I gael mynediad i gwrs BA (Anrh) Actio, mae’n rhaid i chi wneud cais drwy UCAS Conservatoires. Mae’r gwasanaeth hwn yn eich galluogi i wneud cais i fwy nag un conservatoire a chadw golwg ar hynt a helynt eich cais ar-lein. Mae yna ffi untro o £27 i’w dalu i ddefnyddio UCAS Conservatoires.

I gychwyn cais newydd, ewch i UCAS Conservatoires: Ymgeisio a Thracio.

Cod Sefydliad UCAS Conservatoires ar gyfer Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yw R59 a Chod y Cwrs ar gyfer BA (Anrh) Actio yw 200F.

  • Wrth wneud cais, gofynnir i chi ddewis prif arbenigedd/disgyblaeth, dewiswch berfformiad drama ar gyfer BA (Anrh) Actio.
  • Yn eich cais, gofynnir i chi am fanylion eich canolwr ‘ymarferol/cerddoriaeth’. Llythyr geirda yw hwn, wedi’i ysgrifennu gan eich athro/darlithydd drama, pennaeth adran, neu unrhyw unigolyn priodol arall a all wneud sylwadau ar eich galluoedd perfformio ar actio.
  • Rydym yn argymell eich bod yn rhoi sylw penodol i’r wybodaeth yr ydych yn ei darparu yn eich datganiad personol ar eich ffurflen gais, er mwyn rhoi darlun mor glir â phosibl i ni o’ch profiad perthnasol a’ch rhesymau dros wneud cais.

 

Dyddiadau ar gyfer Gwneud Cais

Ceisiadau’n agor 15 Gorffennaf 2022
Ceisiadau’n cau 25 Ionawr 2023 am 18:00 (amser y DU)

 

Nodwch nad ydym yn cynnig mynediad gohiriedig i’r cwrs BA (Anrh) Actio – os hoffech gychwyn y cwrs yn 2024, mae’n rhaid i chi wneud cais y flwyddyn nesaf.

 

Ffioedd Clyweliadau

Mae yna ffi clyweliad o £35 ar gyfer y gost o drefnu a darparu clyweliadau.

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu mynediad i hyfforddiant ar gyfer y myfyrwyr mwyaf talentog, waeth beth fo’u cefndir neu eu sefyllfa ariannol. Nod ein polisi hepgor ffioedd yw cynorthwyo ymgeiswyr y gall eu hamgylchiadau ariannol eu rhwystro rhag cael clyweliad.

 

Canllawiau ar gyfer Clyweliadau

Ewch i’n tudalen canllawiau clyweliad i gael manylion y broses glyweliad ar gyfer y cwrs hwn.

 

Cymorth a Chyngor gan UCAS Conservatoires

Os oes angen help arnoch gyda’ch cais, gallwch gysylltu â Thîm UCAS Conservatoires drwy ffonio 0371 468 0 470 (os ydych yn y DU) neu +44 330 3330 232 (os ydych y tu allan i’r DU).