Amserlenni’r Cwrs
Bydd pob blwyddyn academaidd yn rhedeg o fis Medi hyd fis Gorffennaf ac fe’i rhennir yn dri thymor: hydref (12 wythnos), gwanwyn (12 wythnos) a haf (11 wythnos). Cyhoeddir amserlenni ar ddechrau pob tymor.
Dylai myfyrwyr ddisgwyl hyd at 40 awr o oriau cyswllt yr wythnos. Yr oriau dysgu craidd yw Llun-Gwener 9am-6pm yn y flwyddyn gyntaf a’r ail flwyddyn a 9am-7pm yn y drydedd flwyddyn.
Yn ystod rihyrsals ar gyfer perfformiadau cyhoeddus yn y drydedd flwyddyn, ac yn arbennig yn ystod wythnosau perfformio cynyrchiadau, fe fydd galwadau ychwanegol gyda’r hwyr ac ar benwythnosau. Bydd dalenni galwadau yn cael eu darparu’n ddyddiol gan y tîm Rheoli Llwyfan.
Addysgu a Dysgu
Yn nodweddiadol mae 20-24 o fyfyrwyr ym mhob grŵp blwyddyn a dim mwy na 12 o fyfyrwyr yn y rhan fwyaf o’r dosbarthiadau.
Mae natur gydweithredol yr amgylchedd gwaith yn gofyn am lefelau cyson o egni proffesiynol, cymhelliant a chyfraniad i’r broses grŵp neu rihyrsal, yn ogystal â sensitifrwydd i waith myfyrwyr eraill. Mae presenoldeb a phrydlondeb yn ofynnol, yn unol â safonau a disgwyliadau proffesiynol.
Mae’r broses weithio yn ei gwneud hi’n ofynnol i fyfyrwyr ddatblygu stamina ac ymestyn eu sgiliau corfforol. Mae hefyd yn rhoi gofynion emosiynol, yn herio arferion cyfforddus ac yn hybu myfyrwyr i archwilio eu hadnoddau eu hunain fel actorion, yn cynnwys y profiadau personol y maent yn eu defnyddio.
Drwy gydol eich hyfforddiant byddwch yn cael arweiniad gan dîm staff craidd sefydledig, gyda mewnbwn sylweddol gan ystod ehangach o ymarferwyr proffesiynol profiadol, yn cynnwys cyfarwyddwyr ar ymweliad.
Y tu allan i oriau cyswllt bydd disgwyl i chi ehangu eich dysgu a datblygu eich arfer creadigol drwy ddarllen yn eang, gwneud gwaith ymchwil personol a mynychu ystod eang o berfformiadau theatraidd.
Mae gan Lyfrgell CBCDC dros 50,000 o eitemau sy’n cynnwys llyfrau, cylchgronau, papurau newydd a deunyddiau clyweledol. Mae’n gartref i gasgliad mwyaf y DU o setiau drama yn Saesneg y gellir eu benthyca. Hefyd yn y Llyfrgell gellir cael mynediad at adnoddau ar-lein, gan gynnwys cronfeydd data o destunau drama a recordiadau o gynyrchiadau theatr Prydeinig a rhaglenni dogfen tu ôl i’r llenni.
Gall y Coleg gynnig cyngor proffesiynol a chyfrinachol ac ystod o gefnogaeth ymarferol er mwyn sicrhau y gall myfyrwyr ddechrau eu hastudiaethau yn CBCDC, gwneud cynnydd drwy eu cwrs, a graddio’n llwyddiannus.
Mae’r Coleg yn cyflogi Cynghorydd Lles Meddwl, a cheir mynediad am ddim at wasanaeth cwnsela cyfrinachol. Gall Cynghorydd Anabledd y Coleg ddarparu cymorth i fyfyrwyr i wneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl, trefnu asesiadau anghenion a datblygu Cynlluniau Cefnogi Unigol, a allai gynnwys cefnogaeth tiwtorial arbenigol ychwanegol ar gyfer myfyrwyr sydd ag anawsterau dysgu penodol neu anghenion ychwanegol.
Asesiad ac Adborth
Mae asesiad yn barhaus a bydd eich marc ar gyfer pob modiwl yn rhoi ystyriaeth i’ch ymddygiad, cynnydd, cyfraniad mewn dosbarthiadau, rihyrsals, perfformiadau a gwaith prosiect.
Nid yw’r graddau a ddyfernir ar gyfer modiwlau Lefel 4 yn cyfrif tuag at ddosbarth eich gradd, ond mae’n rhaid i chi basio pob modiwl Lefel 4 cyn symud i Lefel 5. Yn yr un modd, mae’n rhaid i chi basio pob modiwl Lefel 5 cyn symud i Lefel 6.
Bydd myfyrwyr yn derbyn y canlyniad dosbarth gradd gorau o un o’r ddwy system ddosbarthu ganlynol:
Dull 1: Cyfrifo cyfartaledd y marciau o’r 60 credyd gorau ar Lefel 5 a’r 120 credyd ar Lefel 6. Cymerir y 60 credyd ar Lefel 5 o’r modiwlau 20 credyd.
Dull 2: Cyfrifo cyfartaledd y marciau o’r 120 credyd Lefel 6.
- Er mwyn cael gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf, rhaid i fyfyrwyr gael cyfartaledd o 69.5% neu uwch
- Er mwyn cael gradd Anrhydedd Ail Dosbarth Uwch, rhaid i fyfyrwyr gael cyfartaledd o 59.5% neu uwch
- Er mwyn cael gradd Anrhydedd Ail Dosbarth Is, rhaid i fyfyrwyr gael cyfartaledd o 49.5% neu uwch
- Er mwyn cael gradd Anrhydedd Trydydd Dosbarth, rhaid i fyfyrwyr gael cyfartaledd o 39.5% neu uwch
Mae dyfarniadau gadael amgen ar gael i fyfyrwyr sy’n methu cwblhau lefel astudiaeth.
Dylech ystyried eich deialog parhaus gyda thiwtoriaid yn ystod dosbarthiadau, prosiectau a chynyrchiadau i fod yn rhan hollbwysig o’r adborth yr ydych yn ei dderbyn drwy gydol y cwrs, a’r cyngor a fydd fwyaf defnyddiol i chi yn eich bywyd gweithiol yn y dyfodol.
Gallwch ddisgwyl derbyn adborth ffurfiol, naill ai’n ysgrifenedig neu ar lafar, o fewn 20 diwrnod i ddiwrnod olaf prosiect neu gynhyrchiad.
Cyhoeddir trawsgrifiadau academaidd ffurfiol ar ddiwedd pob blwyddyn academaidd.
Mae copi o’r rheolau a’r rheoliadau ar gyfer y cwrs hwn ar gael.