Bydd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn lansio cwrs BA (Anrh) Actio newydd a blaengar ym mis Medi 2023.
Mae’r cwrs newydd yn adeiladu ar gryfderau a llwyddiannau’r cwrs BA presennol. Fe’i datblygwyd gan y Cyfarwyddwr Perfformio, Jonathan Munby, ac uwch aelodau staff actio, gyda mewnbwn sylweddol gan y myfyrwyr presennol, graddedigion diweddar, staff CBCDC a phartneriaid proffesiynol.
Trosolwg o’r Cwrs
Drwy hyfforddiant ymarferol dwys a seiliedig ar berfformio, mae’r cwrs hwn yn eich galluogi i ddatblygu’r sgiliau, y wybodaeth a’r profiad sydd eu hangen i gynnal gyrfa ym maes theatr broffesiynol a’i diwydiannau cysylltiedig. Mae’r hyfforddiant yn datblygu adnoddau corfforol y myfyrwyr – llais a symud – gan eu galluogi i ymateb i’r ystod eang o alwadau a wneir ar yr actor modern. Yn hytrach na chadw at un athroniaeth benodol o hyfforddiant actor, mae’r cwrs yn ceisio cyflwyno nifer o ddylanwadau gwahanol i’ch gwaith, gan eich annog i allu gwneud dewisiadau gwybodus ynglŷn â gwahanol ddulliau.
Mae modiwlau’r flwyddyn gyntaf yn cyflwyno arfer rihyrsal proffesiynol ac yn archwilio dulliau sylfaenol ar gyfer actio drwy ddosbarthiadau dyddiol a rihyrsals. Byddwch yn cael cyflwyniad trylwyr i waith llais a thestun, sgiliau symud a chanu. Byddwch hefyd yn dechrau ymchwilio arferion a galwadau penodol y diwydiant ffilm a theledu. Drwy Ymarfer Myfyriol byddwch yn datblygu pecyn cymorth er mwyn goroesi fel actor yn y diwydiant.
Drwy fodiwlau’r ail flwyddyn byddwch yn archwilio gwaith acenion a thafodiaith, yn datblygu eich repertoire caneuon unigol, archwilio theatr gorfforol ac yn dysgu cyfres o ddilyniannau dawns. Bydd prosiectau seiliedig ar berfformio yn cyflwyno byd ac iaith Shakespeare, dulliau ar gyfer comedi, theatr gerdd ac actio ar gyfer y radio. Bydd hyfforddiant pellach mewn actio ar gyfer y sgrin yn dod i uchafbwynt drwy gwblhau ffilmiau byr. Bydd prosiect cydweithio yn rhoi’r cyfle i chi weithio gyda cherddorion a chreu darn o theatr sy’n ennyn diddordeb y gymuned.
Yn y drydedd flwyddyn cewch gyfle i gymhathu, datblygu ac integreiddio’r sgiliau sydd wedi’u caffael yn ystod y ddwy flynedd gyntaf, drwy rihyrsal a pherfformio cyfres o ddramâu hyd llawn mewn amgylchiadau gwaith proffesiynol, fel rhan o Gwmni Richard Burton. Bydd pob myfyriwr yn dilyn pum modiwl perfformio olynol gan weithio mewn gwahanol rolau, arddulliau ac mewn gwahanol leoliadau. Bydd un o’r perfformiadau’n rhan o dymor NEWYDD CBCDC. Byddwch yn gweithio gydag awdur, dramodydd a chyfarwyddwr proffesiynol ar ddrama wedi’i chomisiynu. Bydd myfyrwyr yn archwilio ac yn gweithio ar y ddrama yn ystod y flwyddyn cyn dechrau ar bum wythnos o ymarfer dwys pan fydd y darn yn cael ei ymarfer a’i lwyfannu. Bydd perfformiadau NEWYDD yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd cyn teithio i leoliad yn Llundain.
Mae’r modiwl hunan-arwain newydd hwn yn eich cyflwyno i’r broses o ddyfeisio a chreu eich gwaith eich hun. Yn y flwyddyn gyntaf a’r ail, byddwch yn cael cyfle i berfformio’ch gwaith fel rhan o ŵyl fewnol. Yn y flwyddyn olaf, gallwch barhau i ddatblygu’ch gwaith a’i wireddu yn gynhyrchiad llwyfan llawn a fydd yn rhedeg ochr yn ochr â’r tymor NEWYDD (ar gael i bedwar myfyriwr).
Drwy gydol y cwrs byddwch yn cymryd rhan mewn cyfres o ddosbarthiadau ymarferol a seminarau sydd wedi’u bwriadu i’ch cyfeirio at fyd actio proffesiynol a chynnig strategaethau ar gyfer dod o hyd i waith, gyda phwyslais penodol ar dechneg clyweliad.
Yn ystod y drydedd flwyddyn byddwch yn perfformio mewn Stondin Actorion yng Nghaerdydd a Llundain gerbron cynulleidfa wadd o weithwyr proffesiynol y diwydiant, yn cynnwys asiantau a chyfarwyddwyr actio. Mae myfyrwyr Gogledd America yn cymryd rhan mewn arddangosiad yn Efrog Newydd hefyd.
Gofynion Mynediad
Mae gofynion mynediad arferol yn cynnwys cymwysterau lefelau A, BTEC neu gyfatebol, er y gallai ymgeiswyr sydd â lefel ragorol o allu ymarferol gael eu derbyn heb gymwysterau ffurfiol. Mae cymwysterau cyfatebol yn cynnwys WBQ, Scottish Highers, Diploma/Tystysgrif Cenedlaethol BTEC, Bagloriaeth Rhyngwladol, GNVQ Uwch, AVCE neu Ddiploma Uwch (Lefel 3) a chymwysterau rhyngwladol cydnabyddedig.
Dewisir myfyrwyr drwy broses clyweliad.
Ymgeiswyr Rhyngwladol
Mae’n ofynnol i ymgeiswyr rhyngwladol nad yw Saesneg yn iaith gyntaf iddynt ddangos lefel o ruglder sy’n briodol ar gyfer hyfforddiant actor proffesiynol. Asesir hyn yn ystod y clyweliad.
Ffioedd Dysgu ar gyfer 2023-2024
Hyd y Cwrs | Myfyrwyr o’r DU, Gweriniaeth Iwerddon, Ynysoedd y Sianel, ac Ynys Manaw | Myfyrwyr Tramor |
---|---|---|
3 blynedd llawn amser | £9,000 * | £25,240 ** |
* Gosodir ffioedd dysgu israddedig ar gyfer myfyrwyr o’r Deyrnas Unedig gan Lywodraeth Cymru. Cânt eu hadolygu’n flynyddol a gallent godi yn y dyfodol.
** Mae ffioedd dysgu israddedig ar gyfer myfyrwyr tramor yn amodol ar gynnydd blynyddol.
Gwybodaeth bellach am y cyllid sydd ar gael tuag at gost ffioedd dysgu.
-
Costau Eraill
Mae costau teithio o fewn Caerdydd yn fychan, gan fod y neuaddau preswyl, y rhan fwyaf o’r ardaloedd preswyl a chanol y ddinas o fewn taith 10-15 munud ar droed i’r campws.
Bydd rhywfaint o ddysgu yn digwydd yn ein Stiwdios Llanisien, daith fer o’r campws ar fws. Mae tocyn wythnosol o Fws Caerdydd yn £15 a gall myfyrwyr 16-21 oed wneud cais am docyn sy’n gostwng hyn i £9.60 (prisiau yn gywir ym mis Hydref 2019).
Bydd angen i chi brynu eich sgriptiau eich hun, sydd ar gael o Swyddfa Gwasanaethau Academaidd CBCDC am bris cymorthdaledig. Dylech ganiatáu tua £100 ar gyfer hyn dros y tair blynedd.
Mae dyfais recordio ddigidol (megis ffôn clyfar) sydd â meicroffon o ansawdd da yn hollbwysig ar gyfer dosbarthiadau llais a chanu.
Mae aelodaeth o gyfeiriadur Spotlight yn hanfodol a bydd angen i chi dalu am gost hyn (£95 ydyw ar hyn o bryd).
Bydd angen i chi gael lluniau pen ac ysgwydd proffesiynol wedi’u tynnu erbyn dechrau’r drydedd flwyddyn. Mae’r rhain yn amrywio o ran pris yn dibynnu ar y ffotograffydd, ond dylech ganiatáu hyd at £300.
Mae’r Coleg yn cymorthdalu’n rhannol y gost o deithio i Lundain ar gyfer y Stondin Actorion, er y bydd angen i chi dalu rhywfaint o’ch costau teithio a llety.
Bydd angen i fyfyrwyr o America sy’n mynychu stondin actio Efrog Newydd dalu eu costau teithio i Efrog Newydd yn ogystal â llety a chynhaliaeth.
Anogir myfyrwyr i fynychu cymaint o berfformiadau’r Coleg â phosibl a gallant gael tocynnau am ddim ar gyfer sioeau Cwmni Richard Burton. Ar gyfer perfformiadau eraill, mae myfyrwyr yn gymwys am docynnau gyda disgownt.
Efallai y byddwch yn dymuno ymuno ag Undeb yr Actorion Ecwiti a bydd angen i chi dalu costau hyn. Y tâl ymaelodi ar hyn o bryd yw £18.25 a’r tanysgrifiad blynyddol yw £8.25.
Efallai y bydd angen i fyfyrwyr y mae gofyn iddynt ail-sefyll arholiadau dalu ffi ail-sefyll.