Proffiliau Graddedigion Cynllunio

Proffiliau Graddedigion Cynllunio

Cindy Lin

Cindy Lin

Enillodd Cindy Lin radd MA mewn Cynllunio Theatr (Cynllunio ar gyfer Perfformio erbyn hyn). Llwyddodd i gyrraedd rownd derfynol y wobr fwyaf clodfawr y DU am gynllunio llwyfan, y Linbury Prize yn 2015; cyrhaeddodd y rhestr fer yn y British Council Ukraine Prize gyda Les Kurbas Theatre yn 2015, a derbyniodd fwrsari’r Royal Opera House yn 2017. Yn wreiddiol o dde Califfornia, mae Cindy’n creu ei dyluniadau gwych ei hun ac wedi cynorthwyo nifer o ddylunwyr llwyfan blaenllaw, yn cynnwys y dylunydd arobryn rhyngwladol, Jon Bausor (Bat Out of Hell), Naomi Dawson (The Tin Drum Kneehigh), Tom Scutt (Jesus Christ Superstar) – enillydd Gwobr Olivier am yr Adfywiad Gorau o Sioe Gerdd yn 2017, Vicky Mortimer (The Plough and the Stars), a Boris Kudlicka (Otello). Dewiswyd Cindy i gymryd rhan yn ‘The Old Vic 12’ hefyd, grŵp o artistiaid datblygol sy’n barod i gymryd y cam nesaf yn eu gyrfaoedd. Bydd yn ddylunydd setiau a gwisgoedd ar gynyrchiadau yn 2021.

 

James North

James North

Ers cwblhau ei radd israddedig mewn Cynllunio Theatr (Cynllunio ar gyfer Perfformio erbyn hyn) yn y Coleg, mae James wedi gweithio ar amrywiaeth o sioeau teledu yn cynnwys Doctor Who (Cyfarwyddwr Celf Cynorthwyol/Dylunydd Cyswllt), Torchwood (Dylunydd Graffeg/Cyfarwyddwr Celf Goruchwyliol), Line of Duty (Cyfarwyddwr Celf Goruchwyliol), His Dark Materials (Cyfarwyddwr Celf Goruchwyliol) ac A Discovery of Witches (Dylunydd Cynhyrchu). Arweiniodd ei waith ar His Dark Materials at enwebiad am Wobr BAFTA Cymru yn y categori Dylunio Cynhyrchu yn 2019. Daeth yn Gymrawd Anrhydeddus y Coleg yn 2017.

 

Max Humphries

Max Humphries

Fel Pypedwr ac Ymarferydd Theatr, mae Max wedi cynhyrchu gwaith ar gyfer y Royal National Theatre, Royal Opera House, Royal Ballet, Bristol Old Vic a’r Lyric Hammersmith. Mae hefyd wedi gweithio fel Prif Ddyluniwr Pypedau i Cirque du Soleil ac yn Bypedwr Preswyl yn Farnham Maltings.

 

Rhys Jarman

Rhys Jarman

Mae Rhys yn gynllunydd yn y byd opera, teledu a theatr ac wedi gweithio ar gynyrchiadau i’r Royal Opera House, Opera Cenedlaethol Cymru, y BBC a’r Edinburgh Fringe Festival. Enillodd y wobr am y Cynllun Llwyfan Gorau yn y Shanghai Modern Drama Valley yn 2016.

 

Rose Revitt

Rose Revitt

Llun © Manuel Wagner

Mae Rose yn gynllunydd ym meysydd theatr, opera, dawns a gosodwaith ac mae’n arbenigo mewn setiau a gwisgoedd. Ers cwblhau ei gradd Meistr yn y Coleg yn 2019 mae Rose wedi ennill gwobr y Dylunydd Gorau yn y Stage Debut Awards 2020 am ei gwaith ar setiau a gwisgoedd Dr Korczak’s Example yn y Leeds Playhouse.

 

Ruby Pugh

Ruby Pugh

Llun © Jack Offord

Mae Ruby yn gynllunydd ac yn ymarferydd theatr cydweithredol, sy’n gweithio ym myd y theatr, ffilmiau, gwyliau a digwyddiadau. Enillodd Wobr P&C Carne am raddio gyda’r marciau uchaf yn ei blwyddyn ar gwrs BA Cynllunio Theatr (Cynllunio ar gyfer Perfformio erbyn hyn). Hi yw Cyfarwyddwr Artistig Twisted Theatre, criw amrywiol o artistiaid perfformio, sy’n creu profiadau rhyngweithio sy’n trochi mewn gwyliau a digwyddiadau yn cynnwys Love Saves the Day a Boomtown Festival. Hi oedd un o Lynwyr Pypedau Dinosaur World yn 2017, a Cyfarwyddwr Celf yr Extinction Rebellion Festival, Motion Bristol, 2019. Mae gan Ruby brosiect ysblennydd yn digwydd hefyd, fel Cynllunydd ar gyfer Coventry Moves, y digwyddiad eithriadol a thrawiadol sydd wedi’i gynllunio ar gyfer agor blwyddyn Coventry fel Dinas Ddiwylliant y DU yn 2021​.

 

Tom Scutt

Tom Scutt

Ers graddio o’r Coleg Cerdd a Drama mae Tom wedi gweithio llawer ar draws y meysydd theatr, opera, dawns, arddangosfeydd a cherddoriaeth fyw fel cyfarwyddwr, dylunydd golygfeydd a gwisgoedd. Mae’n gweithio’n rheolaidd mewn lleoliadau yn cynnwys y National Theatre, Royal Court, Donmar Warehouse, Almeida ac i’r ENO. Cafodd ei enwebu am wobr Tony am ei waith ar Broadway. Yn y diwydiant cerddoriaeth mae wedi cydweithio gyda Christine and the Queens, The Pet Shop Boys a Sam Smith. Mae’n Gymrawd Anrhydeddus o’r Coleg ac yn Artist Cyswllt yn y Donmar Warehouse ac yn artist preswyl yn Somerset House Studios.

 

Tupac Martir

Tupac Martir

Mae Tupac wedi gweithio llawer fel artist, dylunydd gweledol a chyfarwyddwr creadigol mewn amrywiaeth o ddiwydiannau’n cynnwys cerddoriaeth a ffasiwn. Sefydlodd Satore Studio – stiwdio greadigol amlddisgyblaeth ryngwladol. Mae wedi gweithio gydag Alexander McQueen ac wedi cwblhau prosiectau i gleientiaid yn cynnwys Elton John, Ralph Lauren, BMW a’r British Museum.