Beth yw Cynllunio ar gyfer Perfformio?
Mae CBCDC yn arwain y byd ym maes hyfforddi cynllunwyr ar gyfer perfformio. Mae ein hadran Cynllunio yn cynnig hyfforddiant trochol, ymarferol ac ‘addas ar gyfer y dyfodol’ i fyfyrwyr sydd eisiau gweithio ar draws y diwydiannau theatr, digwyddiadau, ffilm a theledu.
Mae Cynllunio ar gyfer Perfformio (a elwir hefyd yn Senograffeg) yn eich hyfforddi i greu amgylcheddau llwyfan a pherfformio ar gyfer Theatr, Ffilm a Theledu (ac yn cynnwys Cynllunio Golygfeydd, Cynllunio a Chreu Gwisgoedd, Cynllunio Digidol a Chynllunio Pypedwaith).
Ydych chi’n frwd dros gelf a chynllunio? Hoffech chi weithio ym maes theatr, ffilm, teledu neu ddigwyddiadau?
Dangoswch i ni sut rydych chi’n defnyddio eich dwylo i wneud pethau a rhannwch enghreifftiau o’r hyn rydych yn mwynhau ei wneud yn greadigol. Mae gweld eich datblygiad artistig yn ddiddorol i ni ac rydym yn eich annog i fyfyrio’n feirniadol ar eich gwaith a dangos i ni beth weithiodd a beth na weithiodd.
Rydym wedi ymrwymo i fynd i’r afael â thangynrychiolaeth yn y diwydiant ac am adeiladu cymuned greadigol amrywiol sydd wedi’i chyfoethogi gan amryw o safbwyntiau. Rydym felly yn annog ceisiadau o bob cefndir i astudio yn ein hamgylchedd cefnogol a meithringar.
‘Mae’r berthynas â’r diwydiant yn sylfaenol i’r cwrs. Rydym yn gwrando’n barhaus ar ba sgiliau maen nhw’n disgwyl i ni eu darparu i’n myfyrwyr ac, oherwydd hynny, mae gennym berthynas wych gyda nhw. Rydym wedi sicrhau cyflogaeth ar draws meysydd ffilm, teledu a theatr ar ôl graddio dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.’
Sean Crowley, Director of Drama and Collaborative Performance Practice
Ble ydych chi’n gweld eich hun yn gweithio yn y diwydiant?
Mae ein myfyrwyr yn diffinio eu llwybr eu hunain a gallant brofi pob agwedd ar Gynllunio ar gyfer Perfformio gan gynnwys gwneud modelau, pypedwaith, gwisgoedd, sain, goleuo a chynllunio cysyniadol cyn penderfynu beth i arbenigo ynddo. Chi sy’n dewis yr hyn yr hoffech fod, ac rydym yn eich helpu i ddarganfod y daith honno ar hyd eich bywyd proffesiynol drwy deilwra’r cwrs i chi. Byddwch yn cael eich addysgu gan ymarferwyr gwobrwyedig.
Mae’r sgiliau a ddysgwch yma yn hynod atyniadol i gyflogwyr. Mae’r sector creadigol yn aml yn dod atom i weithio gyda’n graddedigion y mae galw mawr amdanynt ac adlewyrchir hyn yn ein cyfradd cyflogaeth graddedigion uchel ar draws meysydd ffilm, teledu a theatr.
Pam astudio Cynllunio ar gyfer Perfformio yn CBCDC?
-
Rydym yn arweinydd byd o ran hyfforddi cynllunwyr ar gyfer perfformio gan gynhyrchu graddedigion sy’n sydd wedi ennill gwobrau Golden Globe, Tony a BAFTA.
-
Mae ein graddedigion yn cael eu hanrhydeddu’n rheolaidd yng Ngwobr fawreddog Linbury am Gynllunio Llwyfan a chânt gyfle i weithio gyda rhai o gwmnïau theatr, opera a dawns mwyaf blaenllaw’r DU ac arddangos eu gwaith yn y Theatr Genedlaethol.
-
Rydym yn cynnig hyfforddiant trochol, ymarferol ac ‘addas ar gyfer y dyfodol’ ac rydym wedi meithrin perthynas gref â chwmnïau celfyddydol mawr y DU ym meysydd ffilm, teledu a theatr.
-
Mae credydau ffilm a theledu myfyrwyr a graddedigion diweddar yn cynnwys Willow, Havoc, His Dark Materials, Sex Education, Winter King ymhlith eraill
-
Gallwn gynnig cyfleoedd ar gyfer cyfnodau ar leoliad gyda mannau mawreddog megis y Tŷ Opera Brenhinol, y National Theatre, Theatr y Sherman a’r Royal Shakespeare Company ymhlith eraill.
-
Mae ein cwmni cynhyrchu mewnol, Cwmni Richard Burton, yn cynhyrchu tua 24 o gynyrchiadau’r flwyddyn sy’n cynnig cyfleoedd cydweithredol traws-gyrsiol i’n myfyrwyr.
-
Mae ein myfyrwyr cynllunio yn creu eu gwaith cynllunio ar gyfer perfformiadau cyhoeddus, gan weithio â chyfarwyddwyr, actorion, cantorion cerddorion a rheolwyr llwyfan. Mae’r perfformiadau’n amrywio o ddramâu clasurol, dramâu a gomisiynwyd yn arbennig, sioeau cerdd prif lwyfan, operâu ar raddfa fawr ac, yn unigryw ar gyfer y cwrs cynllunio, pypedwaith safle-benodol.
-
Rydym yn cynnig sgyrsiau ac ymweliadau rheolaidd gan ymarferwyr rhyngwladol blaenllaw megis Cymrodyr CBCDC Pamela Howard a Paule Constable
-
Mae gennym gymhareb uchel o staff i fyfyrwyr gyda llawer o hyfforddiant a mentora un-i-un pwrpasol ar gael i’n myfyrwyr.
Arddangosfa Balance
Bob blwyddyn, mae ein graddedigion Cynllunio ar gyfer Perfformio yn cymryd rhan yn arddangosfa Balance yng Nghaerdydd ac yn Llundain. Mae’r arddangosfa yn ddathliad o waith myfyrwyr ar draws pob maes cynllunio, ar draws holl gynyrchiadau’r Coleg. Gallwch weld gwaith graddedigion eleni.
-
Dysgu mwy am CBCDC
- Mae ein sefydliad amlddiwylliannol ffyniannus yn croesawu 800 o fyfyrwyr o dros 40 o wledydd. Byddwch yn hyfforddi ochr yn ochr ag offerynwyr, actorion, cantorion, cyfansoddwyr a chynllunwyr ar gyfer perfformio eraill ac yn gweithio gyda hwy ar brosiectau drwy gydol y flwyddyn.
- Mae cydweithio yn rhan enfawr o’r hyn a wnawn, gan eich galluogi i drochi mewn profiadau newydd gydag ystod eang o ddisgyblaethau a sgiliau o bob adran o’r Coleg. Mae ein cwmni REPCo unigryw a arweinir gan fyfyrwyr yn annog myfyrwyr i gydweithio i fod yn feiddgar, yn llawn dychymyg ac yn entrepreneuraidd.
- Mae ein partneriaethau â diwydiant yn rhoi profiadau dysgu gwell yn y byd go iawn gyda sefydliadau celfyddydol a cherddorion proffesiynol blaenllaw, a hefyd yn cynnig cyfleoedd i chi ddatblygu eich rhwydweithiau proffesiynol ar gyfer y dyfodol.
- Mae CBCDC yn ganolfan gelfyddydau brysur sy’n llwyfannu 500 o berfformiadau’r flwyddyn (llawer ohonynt am ddim) sy’n gyfuniad o artistiaid o’r radd flaenaf a gwaith myfyrwyr, yn aml ochr yn ochr. Mae digwyddiadau mawr rheolaidd yn CBCDC yn cynnwys Cerddor Ifanc y Flwyddyn y BBC, BBC Canwr y Byd Caerdydd a digwyddiadau annibynnol fel Cyngres Telynau’r Byd ym mis Gorffennaf 2022.
- Y Coleg yw’r conservatoire cyntaf yn y DU i gyflawni lefel safon aur o sicrwydd ansawdd ar draws meysydd Cerddoriaeth, Drama a Dan 18 yn adolygiad Gwella Ansawdd Cerddoriaeth rhyngwladol diweddar MusiQuE. Gwnaeth agwedd y Coleg o ran profiad myfyrwyr unigol, cydweithio amlddisgyblaethol ac uchelgais cyffredinol argraff arbennig ar yr adolygwyr, a nododd fod CBCDC yn enghraifft ddisglair o arfer gorau ar draws conservatoires Ewrop, ac yn adlewyrchu pobl eithriadol a chymuned unigryw’r Coleg.
- Fel yr unig gonservatoire Steinway cyfan yn y byd mae gan y Coleg bellach fflyd o bianos o’r radd flaenaf, ac mae pob piano acwstig yn y Coleg yn un Steinway.
- Credwn yn sylfaenol yng ngrym cerddoriaeth i drawsnewid a chyfoethogi cymdeithas, gan ddatblygu sgiliau addysgu, hyfforddi a chyd-greu prosiectau i greu cerddorion y dyfodol a fydd yn gwneud argraff fel perfformwyr, athrawon a galluogwyr o fewn y gymuned ehangach. Mae cwestiynau sylfaenol - ‘Sut gallwn siapio diwydiant y dyfodol’, ‘Sut gallwn ddefnyddio celfyddyd i wneud gwahaniaeth’ – yn ein helpu i gynhyrchu cerddorion sy’n wirioneddol berthnasol i’r byd yr unfed ganrif ar hugain.
- Byddwch yn ymarfer, yn astudio ac yn perfformio mewn lleoliad hyfryd a llawn ysbrydoliaeth sy’n ffinio â Pharc Bute, sef un o fannau gwyrdd mwyaf y ddinas. Mae gennym neuadd gerddoriaeth siambr gydag acwsteg hynod, cyntedd a man perfformio gwydrog, Theatr Richard Burton, yn ogystal â stiwdios a mannau rihyrsal o’r radd flaenaf.
- Mae ein campws yng nghanol Caerdydd, Dinas Gerddoriaeth gyntaf y DU, a phrifddinas gartrefol a llewyrchus Cymru, sydd ond dwy awr ar y trên i ganol Llundain.
- Cafodd Caerdydd ei henwi’n ddinas fwyaf cost-effeithiol yn y DU ar gyfer myfyrwyr, yn ôl Mynegai Byw Myfyrwyr NatWest 2022.
Cofrestrwch i Dderbyn Diweddariadau
I dderbyn rhagor o wybodaeth am astudio gyda ni, cofrestrwch isod.
Anfonir e-bost atoch yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Gwiriwch eich ffolder sbam / sothach os nad yw’r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau.