Rydym yn dal i dderbyn ceisiadau ar gyfer y cyrsiau BMus (Anrh) Cerddoriaeth (ar gyfer y llwybrau lleisiol, offerynnol a chyfansoddi) a BMus (Anrh) Jazz ar gyfer mynediad. Mae lleoedd yn amodol ar argaeledd. Cofiwch gysylltu â’n Tîm Mynediadau cyn cyflwyno cais.
Gyda hyfforddiant o safon fyd-eang ac amrywiaeth eang o gyfleoedd i berfformio, byddwch yn meithrin yr holl sgiliau sydd eu hangen arnoch i ffynnu fel telynor proffesiynol. Mae ein graddedigion yn cynnwys pedwar Telynor Swyddogol i’w Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru ers 2000.
Pam astudio’r delyn yn CBCDC?
- Byddwch yn ymuno ag adran fach glos, gan greu amgylchedd anogol a chefnogol.
- Mae ein rhaglen amrywiol a heriol yn eich paratoi ar gyfer bywyd yn y byd proffesiynol cyfoes, gan ymdrin â phopeth o berfformio fel unawdydd i chwarae mewn ensemble siambr, o waith cerddorfaol i berfformio idiomau poblogaidd neu jazz.
- Mae gwersi un-i-un a dosbarthiadau perfformio wythnosol yn canolbwyntio ar ddatblygu eich techneg, a byddwch yn dysgu repertoire eang o weithiau unawdol, gan gynnwys concerti nodedig a darnau siambr.
- Mae cyfleoedd i berfformio yn cynnwys datganiadau cyhoeddus, a allai fod gyda cherddorfa symffoni, cerddorfa siambr, band chwyth neu gerddorfa opera y Coleg.
- Mae ein hathrawon rheolaidd yn cynnwys Meinir Heulyn a Valerie Aldrich-Smith sy’n rhoi sylw i repertoire operatig a cherddorfaol ac Amanda Whiting sy’n cynnal dosbarthiadau jazz a threfnu cyson.
- Ymhlith yr artistiaid gwadd mae’r telynor arbrofol Rhodri Davies sy’n canolbwyntio ar gerddoriaeth gyfoes.
- Gallwch hefyd gymryd rhan mewn dosbarthiadau meistr a gwylio datganiadau a roddir gan unawdwyr o fri rhyngwladol sy’n ymweld â’r Coleg bob blwyddyn, megis Isabelle Perrin, Alexander Boldachev, Sylvain Blassel, Anneleen Lenaerts, Florence Sitruk, Chantal Mathieu a Maria Luisa Rayan.
- Rhoddir cyfle i fyfyrwyr sy’n cymhwyso gael clyweliad ar gyfer cynlluniau lleoliad proffesiynol gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru, gan weithio ochr yn ochr â cherddorion cerddorfaol o’r radd flaenaf.
- Mae gennym ystod eang o delynau y gallwch eu defnyddio ar gyfer ymarfer, perfformio ac asesiadau, gan gynnwys telynau cyngerdd, telyn lled-fawr, un delyn Erard Grecian, dwy delyn deires Gymreig a sawl Clarsach.
Cwrs sydd â hanes Brenhinol
Astudiodd Alis Huws, y Delynores Frenhinol bresennol ac a raddiodd yn ddiweddar o CBCDC, yma fel myfyriwr gradd a gradd meistr. Mae hyn yn parhau â thraddodiad hir o delynorion brenhinol sydd â chysylltiadau â’r Coleg: Catrin Finch, Cymrawd sydd â gradd o’r Coleg a chyfarwyddwr artistig Cyngres Telynau’r Byd 2022, oedd y delynores gyntaf i gael ei phenodi i’r rôl.
Bu Hannah Stone, un o raddedigion y Coleg, yn y rôl o 2011, ac astudiodd rhagflaenydd Alis, Anne Denholm, yng Nghonservatoire Iau CBCDC.
Cyfleoedd y tu allan i’r Coleg
Gan mai’r delyn yw offeryn cenedlaethol Cymru mae galw mawr am ein myfyrwyr. Mae perfformiadau unawdol yn y gorffennol wedi cynnwys digwyddiadau ar gyfer Llywodraeth Cymru yn y Senedd ac yn 10 Stryd Downing. Gofynnir yn aml hefyd i ensemble telynau’r Coleg berfformio mewn digwyddiadau mewn lleoliadau megis Neuadd Dewi Sant ac ar gyfer ymweliadau Brenhinol â’r Coleg.
Gallwch hefyd wneud cais am gyfleoedd lleoliad gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC neu Gerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru, sy’n rhedeg cynlluniau ochr-yn-ochr, gan roi cyfleoedd i chi gael eich mentora gan gerddorion proffesiynol a chael profiad perfformio.
Arweinir gan y delynores Kathryn Rees
Mae Kathryn yn frwd dros archwilio potensial amrywiol y delyn, gan dynnu ar ei gwreiddiau traddodiadol/clasurol ond hefyd edrych ar ei phosibiliadau cyfoes.
Mae wedi bod yn diwtor yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ers pedair blynedd ar ddeg, gan arbenigo mewn techneg y delyn. Mae ei chynfyfyrwyr a’i myfyrwyr presennol wedi cael llwyddiant mawr mewn cystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol.
Ar ôl graddio o Goleg Cerdd Brenhinol y Gogledd, astudiodd Kathryn ei gradd Meistr mewn Perfformio Telyn a Llenyddiaeth yn Ysgol Gerdd Eastman, Rochester, Efrog Newydd. Cwblhaodd ei hastudiaethau ar Ysgoloriaeth Llysgenhadol Rhyngwladol y Rotari. Ar ôl tymor fel Prif Delynor yng Ngŵyl Opera Heidelberg, bu Kathryn yn gweithio fel telynores gerddorfaol lawrydd yn nhalaith Efrog Newydd a bu’n addysgu fel Uwch Hyfforddwr Telyn yn Academi Celfyddydau Interlochen ym Michigan.
Mae Kathryn wedi mwynhau gyrfa berfformio amrywiol, yn cyflwyno datganiadau yng Nghanada, UDA, yr Emiradau Arabaidd Unedig a Qatar ac yn gweithio’n llawrydd yn gerddorfaol yma yng Nghymru, yn fwyaf nodedig gyda Sinffonia Cymru.
-
Dysgu mwy am CBCDC
- Mae ein sefydliad amlddiwylliannol ffyniannus yn croesawu 800 o fyfyrwyr o dros 40 o wledydd. Byddwch yn hyfforddi ochr yn ochr ag offerynwyr, actorion, cantorion, cyfansoddwyr a chynllunwyr ar gyfer perfformio eraill ac yn gweithio gyda hwy ar brosiectau drwy gydol y flwyddyn.
- Mae cydweithio yn rhan enfawr o’r hyn a wnawn, gan eich galluogi i drochi mewn profiadau newydd gydag ystod eang o ddisgyblaethau a sgiliau o bob adran o’r Coleg. Mae ein cwmni REPCo unigryw a arweinir gan fyfyrwyr yn annog myfyrwyr i gydweithio i fod yn feiddgar, yn llawn dychymyg ac yn entrepreneuraidd.
- Mae ein partneriaethau â diwydiant yn rhoi profiadau dysgu gwell yn y byd go iawn gyda sefydliadau celfyddydol a cherddorion proffesiynol blaenllaw, a hefyd yn cynnig cyfleoedd i chi ddatblygu eich rhwydweithiau proffesiynol ar gyfer y dyfodol.
- Mae CBCDC yn ganolfan gelfyddydau brysur sy’n llwyfannu 500 o berfformiadau’r flwyddyn (llawer ohonynt am ddim) sy’n gyfuniad o artistiaid o’r radd flaenaf a gwaith myfyrwyr, yn aml ochr yn ochr. Mae digwyddiadau mawr rheolaidd yn CBCDC yn cynnwys Cerddor Ifanc y Flwyddyn y BBC, BBC Canwr y Byd Caerdydd a digwyddiadau annibynnol fel Cyngres Telynau’r Byd ym mis Gorffennaf 2022.
- Y Coleg yw’r conservatoire cyntaf yn y DU i gyflawni lefel safon aur o sicrwydd ansawdd ar draws meysydd Cerddoriaeth, Drama a Dan 18 yn adolygiad Gwella Ansawdd Cerddoriaeth rhyngwladol diweddar MusiQuE. Gwnaeth agwedd y Coleg o ran profiad myfyrwyr unigol, cydweithio amlddisgyblaethol ac uchelgais cyffredinol argraff arbennig ar yr adolygwyr, a nododd fod CBCDC yn enghraifft ddisglair o arfer gorau ar draws conservatoires Ewrop, ac yn adlewyrchu pobl eithriadol a chymuned unigryw’r Coleg.
- Fel yr unig gonservatoire Steinway cyfan yn y byd mae gan y Coleg bellach fflyd o bianos o’r radd flaenaf, ac mae pob piano acwstig yn y Coleg yn un Steinway.
- Credwn yn sylfaenol yng ngrym cerddoriaeth i drawsnewid a chyfoethogi cymdeithas, gan ddatblygu sgiliau addysgu, hyfforddi a chyd-greu prosiectau i greu cerddorion y dyfodol a fydd yn gwneud argraff fel perfformwyr, athrawon a galluogwyr o fewn y gymuned ehangach. Mae cwestiynau sylfaenol - ‘Sut gallwn siapio diwydiant y dyfodol’, ‘Sut gallwn ddefnyddio celfyddyd i wneud gwahaniaeth’ – yn ein helpu i gynhyrchu cerddorion sy’n wirioneddol berthnasol i’r byd yr unfed ganrif ar hugain.
- Byddwch yn ymarfer, yn astudio ac yn perfformio mewn lleoliad hyfryd a llawn ysbrydoliaeth sy’n ffinio â Pharc Bute, sef un o fannau gwyrdd mwyaf y ddinas. Mae gennym neuadd gerddoriaeth siambr gydag acwsteg hynod, cyntedd a man perfformio gwydrog, Theatr Richard Burton, yn ogystal â stiwdios a mannau rihyrsal o’r radd flaenaf.
- Mae ein campws yng nghanol Caerdydd, Dinas Gerddoriaeth gyntaf y DU, a phrifddinas gartrefol a llewyrchus Cymru, sydd ond dwy awr ar y trên i ganol Llundain.
- Cafodd Caerdydd ei henwi’n ddinas fwyaf cost-effeithiol yn y DU ar gyfer myfyrwyr, yn ôl Mynegai Byw Myfyrwyr NatWest 2022.
Cofrestrwch i Dderbyn Diweddariadau
I dderbyn rhagor o wybodaeth am astudio gyda ni, cofrestrwch isod.
Anfonir e-bost atoch yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Gwiriwch eich ffolder sbam / sothach os nad yw’r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau.