Rydym yn dal i dderbyn ceisiadau ar gyfer y cyrsiau BMus (Anrh) Cerddoriaeth (ar gyfer y llwybrau lleisiol, offerynnol a chyfansoddi) a BMus (Anrh) Jazz ar gyfer mynediad. Mae lleoedd yn amodol ar argaeledd. Cofiwch gysylltu â’n Tîm Mynediadau cyn cyflwyno cais.
Cewch brofiad hyfforddiant dihafal, ynghyd â chyfleoedd perfformio a chydweithio gyda’ch cydfyfyrwyr a rhai o gerddorion pres gorau’r byd.
Pam astudio pres yn CBCDC?
- Byddwch yn herio eich hun drwy ehangu eich golwg ar y byd pres. Byddwch yn cymryd rhan mewn llu o gyfleoedd rihyrsio a pherfformio - cyngherddau yn amrywio o gerddoriaeth ddawns y dadeni a chwaraeir ar sackbuts a chorneti i gyfansoddiadau avant-garde gan ddefnyddio technegau cyfoes.
- Cewch gyfle i brofi unrhyw beth a phopeth – boed hynny’n jazz, cerddoriaeth gynnar, therapi cerddoriaeth, allgymorth, trefnu, arwain a llawer mwy. Rydym yma i’ch helpu i wneud penderfyniadau gwybodus a’ch paratoi ar gyfer gyrfa gerddorol ar ôl i chi raddio.
- Byddwch yn cael eich haddysgu gan gerddorion blaenllaw a ddaw yn bennaf o ddwy gerddorfa broffesiynol Caerdydd, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ac Opera Cenedlaethol Cymru
- Cewch gyfle i gael clyweliad ar gyfer cynlluniau lleoliad – ar lefel BMus ac MMus – ar gyfer y ddwy gerddorfa broffesiynol uchod (gyda rhai o’n myfyrwyr yn cael eu galw i chwarae pan nad yw eu chwaraewyr rheolaidd ar gael, rhywbeth rydym yn ei gefnogi’n llwyr)
- Cewch gyfleoedd i gyfranogi mewn rhaglen brysur o ddosbarthiadau meistr a roddir gan berfformwyr ac ensembles rhyngwladol blaenllaw. Yn y gorffennol rydym wedi croesawu Ben Goldscheider a Katy Woolley ar y corn Ffrengig, Peter Moore ar y trombôn, Reginald Chapman ar y trombôn bas, Ben Thomson a Sergio Carolino ar y tiwba a Bones Apart, y pedwarawd trombôn o fenywod yn unig.
- Mae cydweithio yn allweddol i’ch hyfforddiant ac yn elfen arbennig o’n holl raglenni. Cewch nifer fawr o gyfleoedd i weithio gyda cherddorion eraill ar eich cwrs, drwy’r adran gerddoriaeth yn gyfan ac ar draws y Coleg hefyd. Felly, gallwch arddangos eich gwaith yn ein cyfres gyhoeddus brysur o opera, cyngherddau cerddorfaol, theatr gerddorol a drama gwobrwyedig.
Dealltwriaeth gadarn mewn amrywiaeth o feysydd
Er mwyn eich paratoi ar gyfer gyrfa gyfoethog ac amrywiol, byddwch yn cael llu o gyfleoedd i ennill profiad mewn amrywiaeth eang o feysydd, gan gynnwys:
- perfformio unawdol
- cerddoriaeth siambr
- chwarae cerddorfaol
- perfformio hanesyddol
- band pres
- addysgu
- trefnu
- jazz
- perfformio mewn cyd-destunau masnachol
- rhaglenni lleoliad gyda cherddorfeydd cenedlaethol
Byddwch hefyd yn cael cyfle i gael cyfweliad am leoliad gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru.
Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â phrif chwaraewyr mewn dwy o brif gerddorfeydd proffesiynol y DU ac yn derbyn hyfforddiant ar repertoire cerddorfaol hanfodol. Yn y blynyddoedd diwethaf mae nifer o fyfyrwyr CBCDC wedi sicrhau gwaith llawrydd proffesiynol a chyfnodau prawf cerddorfaol yn ystod eu hastudiaethau yma.
Athrawon o fri a cherddorion sy’n perfformio
Mae ein tîm o 24 o athrawon pres yn arbenigo ar y trymped, corn ffrengig, trombôn tenor, trombôn bas a thiwba – ac mae llawer ohonynt wedi gweithio i Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru.
Y chwaraewr ewffoniwm o fri David Childs yw ein tiwtor gwadd rhyngwladol, gan ddenu myfyrwyr o bedwar ban byd, tra bod ei dad, Dr Robert Childs, yn cydlynu ein holl weithgareddau band pres.
Arweinir gan drombonydd sydd â degawdau o brofiad proffesiynol
Trombonydd yw Roger Argente, Pennaeth Perfformio Pres. Mae wedi treulio’r rhan fwyaf o’i yrfa yn byw ac yn gweithio yn Llundain, lle bu’n aelod o’r Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol am 27 o flynyddoedd. Cyn hynny, treuliodd bron i ddegawd fel aelod o Gerddorfa Symffoni Bournemouth.
Mae wedi teithio ledled y byd, gan chwarae’r gweithiau cerddorfaol gorau yn y neuaddau cyngerdd gorau, ochr yn ochr ag arweinwyr ac unawdwyr gorau’r byd.
Mae hefyd wedi gweithio’n helaeth i’r diwydiant recordio – gan berfformio i gyfansoddwyr fel John Williams, Hans Zimmer a John Barry – ar ffilmiau fel Gladiator, Harry Potter, Lord of the Rings, Inception a’r fasnachfraint 007.
Yn 2005, ffurfiodd grŵp pres a phrosiect addysg o’r enw Superbrass. Mae’r grŵp wedi mynd ymlaen i weithio gyda Music for Youth, Proms y BBC, Canolfan Southbank, Neuadd Frenhinol Albert, yn ogystal â chanolfannau cerddoriaeth, ysgolion, colegau a bandiau pres ledled y DU.
-
Dysgu mwy am CBCDC
- Mae ein sefydliad amlddiwylliannol ffyniannus yn croesawu 800 o fyfyrwyr o dros 40 o wledydd. Byddwch yn hyfforddi ochr yn ochr ag offerynwyr, actorion, cantorion, cyfansoddwyr a chynllunwyr ar gyfer perfformio eraill ac yn gweithio gyda hwy ar brosiectau drwy gydol y flwyddyn.
- Mae cydweithio yn rhan enfawr o’r hyn a wnawn, gan eich galluogi i drochi mewn profiadau newydd gydag ystod eang o ddisgyblaethau a sgiliau o bob adran o’r Coleg. Mae ein cwmni REPCo unigryw a arweinir gan fyfyrwyr yn annog myfyrwyr i gydweithio i fod yn feiddgar, yn llawn dychymyg ac yn entrepreneuraidd.
- Mae ein partneriaethau â diwydiant yn rhoi profiadau dysgu gwell yn y byd go iawn gyda sefydliadau celfyddydol a cherddorion proffesiynol blaenllaw, a hefyd yn cynnig cyfleoedd i chi ddatblygu eich rhwydweithiau proffesiynol ar gyfer y dyfodol.
- Mae CBCDC yn ganolfan gelfyddydau brysur sy’n llwyfannu 500 o berfformiadau’r flwyddyn (llawer ohonynt am ddim) sy’n gyfuniad o artistiaid o’r radd flaenaf a gwaith myfyrwyr, yn aml ochr yn ochr. Mae digwyddiadau mawr rheolaidd yn CBCDC yn cynnwys Cerddor Ifanc y Flwyddyn y BBC, BBC Canwr y Byd Caerdydd a digwyddiadau annibynnol fel Cyngres Telynau’r Byd ym mis Gorffennaf 2022.
- Y Coleg yw’r conservatoire cyntaf yn y DU i gyflawni lefel safon aur o sicrwydd ansawdd ar draws meysydd Cerddoriaeth, Drama a Dan 18 yn adolygiad Gwella Ansawdd Cerddoriaeth rhyngwladol diweddar MusiQuE. Gwnaeth agwedd y Coleg o ran profiad myfyrwyr unigol, cydweithio amlddisgyblaethol ac uchelgais cyffredinol argraff arbennig ar yr adolygwyr, a nododd fod CBCDC yn enghraifft ddisglair o arfer gorau ar draws conservatoires Ewrop, ac yn adlewyrchu pobl eithriadol a chymuned unigryw’r Coleg.
- Fel yr unig gonservatoire Steinway cyfan yn y byd mae gan y Coleg bellach fflyd o bianos o’r radd flaenaf, ac mae pob piano acwstig yn y Coleg yn un Steinway.
- Credwn yn sylfaenol yng ngrym cerddoriaeth i drawsnewid a chyfoethogi cymdeithas, gan ddatblygu sgiliau addysgu, hyfforddi a chyd-greu prosiectau i greu cerddorion y dyfodol a fydd yn gwneud argraff fel perfformwyr, athrawon a galluogwyr o fewn y gymuned ehangach. Mae cwestiynau sylfaenol - ‘Sut gallwn siapio diwydiant y dyfodol’, ‘Sut gallwn ddefnyddio celfyddyd i wneud gwahaniaeth’ – yn ein helpu i gynhyrchu cerddorion sy’n wirioneddol berthnasol i’r byd yr unfed ganrif ar hugain.
- Byddwch yn ymarfer, yn astudio ac yn perfformio mewn lleoliad hyfryd a llawn ysbrydoliaeth sy’n ffinio â Pharc Bute, sef un o fannau gwyrdd mwyaf y ddinas. Mae gennym neuadd gerddoriaeth siambr gydag acwsteg hynod, cyntedd a man perfformio gwydrog, Theatr Richard Burton, yn ogystal â stiwdios a mannau rihyrsal o’r radd flaenaf.
- Mae ein campws yng nghanol Caerdydd, Dinas Gerddoriaeth gyntaf y DU, a phrifddinas gartrefol a llewyrchus Cymru, sydd ond dwy awr ar y trên i ganol Llundain.
- Cafodd Caerdydd ei henwi’n ddinas fwyaf cost-effeithiol yn y DU ar gyfer myfyrwyr, yn ôl Mynegai Byw Myfyrwyr NatWest 2022.
Cofrestrwch i Dderbyn Diweddariadau
I dderbyn rhagor o wybodaeth am astudio gyda ni, cofrestrwch isod.
Anfonir e-bost atoch yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Gwiriwch eich ffolder sbam / sothach os nad yw’r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau.