Rydym yn dal i dderbyn ceisiadau ar gyfer y cyrsiau BMus (Anrh) Cerddoriaeth (ar gyfer y llwybrau lleisiol, offerynnol a chyfansoddi) a BMus (Anrh) Jazz ar gyfer mynediad. Mae lleoedd yn amodol ar argaeledd. Cofiwch gysylltu â’n Tîm Mynediadau cyn cyflwyno cais.
Hyfforddwch dan arweiniad cerddorion proffesiynol nodedig o brif gerddorfeydd y DU – i gyd mewn amgylchedd cefnogol sy’n meithrin eich creadigrwydd, eich arloesedd a’ch gallu o ran cydweithredu i’ch helpu i ddod y cerddor gorau y gallwch fod.
Pam astudio chwythbrennau yn CBCDC?
- Byddwch yn cael ystod eang o brofiad fel unawdydd, cerddor siambr a chwaraewr cerddorfaol drwy wersi offerynnol un-i-un, a hyfforddiant mewn grwpiau bach, gyda digon o gyfleoedd i berfformio.
- Gallwch astudio mwy nag un offeryn chwythbrennau: os ydych am ehangu eich arbenigedd rydym yn cynnig llwybr aml-offeryn.
- Cydweithio ac arloesi – rydym yn hyfforddi cerddorion i fod yn greadigol, yn ddyfeisgar ac yn hyblyg.
- Mae ein ffocws ar gyflogadwyedd: yn eich dosbarthiadau perfformio wedi’u teilwra, byddwch yn perfformio i’ch cyfoedion mewn amgylchedd gofalgar a chroesawgar – waeth beth yw eich cam presennol o ran datblygiad cerddorol. Ar gyfer aml-offerynwyr, mae dosbarth dyblu ac ensemble yn rhoi’r cyfle i chwarae ar unrhyw un o’ch offerynnau ochr yn ochr â’ch cyfoedion.
- Byddwch hefyd yn cael dosbarthiadau perfformio adrannol rheolaidd gyda chyfeilyddion proffesiynol dan arweiniad y pennaeth perfformio chwythbrennau, y clarinetydd o fri Robert Plane. Bydd y dosbarthiadau hyn yn cynnig cyfleoedd rheolaidd i chwarae i’ch cyd-fyfyrwyr a chael adborth adeiladol gan eich tiwtor arbenigol a’ch cyd-fyfyrwyr.
- Mae gennym bartneriaeth agos gyda Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ac mae llawer o’r cerddorion proffesiynol sy’n dysgu yma yn dod o adran chwythbrennau’r ddwy gerddorfa genedlaethol. Mae staff eraill yn cynnwys cyn-aelodau neu aelodau presennol o brif gerddorfeydd o bob rhan o’r DU.
- Mae perfformio’n rhan enfawr o’ch amser yma: gallwch gymryd rhan gyda’n nifer o gerddorfeydd Coleg, sy’n amrywio o gerddorfa symffoni lawn i gerddorfeydd siambr, cerddoriaeth ysgafn, opera, cyfoes, baróc a chwyth. Mae yna hefyd gôr sacsoffon a dau ensemble siambr chwythbrennau mawr, sy’n chwarae’n rheolaidd mewn lleoliadau ledled Cymru a Lloegr.
- Mae rhai o unawdwyr ac athrawon chwythbrennau gorau’r byd yn rhoi dosbarthiadau meistr a datganiadau fel rhan o’n tymor cyngherddau yn ein prif leoliad cyngherddau, Neuadd Dora Stoutzker. Mae ymwelwyr diweddar yn cynnwys clarinetydd Orchestre National de France Carlos Ferreira, yr oböydd Ruth Bolister a’r arbenigwr baroc Paul Goodwin, y baswnydd o Ddenmarc Nikolaj Vestmar, y ffliwtydd gwych o Grmru a phrif ffliwtydd Cerddorfa Frenhinol Concertgebouw Emily Beynon, yn ogystal â’r sacoffonydd Huw Wiggin ynghyd â’i dri gyd-chwaraewr o Bedwarawd Sacssoffon Ferio.
- Mae cydweithredu yn rhan enfawr o’r hyn a wnawn. Mae myfyrwyr yn datblygu eu dychymyg a’u setiau sgiliau unigryw, yn ogystal â’u cyflogadwyedd, drwy gydweithio dan arweiniad staff a myfyrwyr ar draws genres ac adrannau – jazz, gwerin, cyfansoddi, theatr gerddorol, opera, cynllunio a drama.
Llwybr aml-offeryn: arbenigedd mewn mwy nag un offeryn chwythbrennau
Ar gyfer myfyrwyr sydd eisiau ehangu eu harbenigedd rydym yn cynnig llwybr aml-offeryn sy’n cwmpasu popeth o theatr gerddorol i’r clasurol a phop.
O dan arweiniad deinamig yr arbenigwyr aml-offeryn Neil Crossley a Sally MacTaggart, byddwch yn cofleidio pob math o gerddoriaeth ac yn datblygu ehangder o wybodaeth a fydd yn rhoi’r hyder i chi chwarae unrhyw beth a osodir ar y stondin o’ch blaen. Byddwch yn meithrin y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i fod yn aml-offerynnwr amryddawn a chyflogadwy yn y diwydiant cerddoriaeth heddiw.
Ar y llwybr aml-offerynnwr, gallwch hefyd weithio gydag unrhyw un o’n harbenigwyr o'r adran chwythbrennau, ac mae llawer yn dewis cael gwersi gyda thiwtoriaid o'n hadran jazz sy’n ffynnu.
- Mae ein myfyrwyr chwythbrennau cerddorfaol yn derbyn hyfforddiant cerddorfaol a dosbarthiadau repertoire.
- Mae gennym gyfleusterau o’r radd flaenaf ar gyfer gwneud cyrs dwbl. Gall ein myfyrwyr obo a basŵn ddefnyddio ein hystafell gwneud cyrs o’r radd flaenaf, gofod gweithdy sy’n cynnwys yr holl offer a chyfarpar diweddaraf. Rydym yn cynnig gwersi am ddim mewn gwneud cyrs obo a basŵn.
Arweinir gan berfformiwr o fri sydd ag 20 mlynedd o brofiad cerddorfaol
Mae Robert Plane, pennaeth perfformio chwythbrennau, yn gerddor gwobrwyedig a fu’n brif glarinét Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC am 20 mlynedd.
Mae ei yrfa hynod amrywiol wedi cwmpasu popeth o berfformio mewn cyngherddau symffoni yn y DU, UDA, De America, Tsieina ac Ewrop i berfformio fel unawdydd concerto ym Mhroms y BBC, a bod y clarinetydd unigol ar y trac sain i ffilm Disney Maleficent a chwarae cyfansoddiadau gan Steve Reich gyda Jonny Greenwood o Radiohead.
-
Dysgu mwy am CBCDC
- Mae ein sefydliad amlddiwylliannol ffyniannus yn croesawu 800 o fyfyrwyr o dros 40 o wledydd. Byddwch yn hyfforddi ochr yn ochr ag offerynwyr, actorion, cantorion, cyfansoddwyr a chynllunwyr ar gyfer perfformio eraill ac yn gweithio gyda hwy ar brosiectau drwy gydol y flwyddyn.
- Mae cydweithio yn rhan enfawr o’r hyn a wnawn, gan eich galluogi i drochi mewn profiadau newydd gydag ystod eang o ddisgyblaethau a sgiliau o bob adran o’r Coleg. Mae ein cwmni REPCo unigryw a arweinir gan fyfyrwyr yn annog myfyrwyr i gydweithio i fod yn feiddgar, yn llawn dychymyg ac yn entrepreneuraidd.
- Mae ein partneriaethau â diwydiant yn rhoi profiadau dysgu gwell yn y byd go iawn gyda sefydliadau celfyddydol a cherddorion proffesiynol blaenllaw, a hefyd yn cynnig cyfleoedd i chi ddatblygu eich rhwydweithiau proffesiynol ar gyfer y dyfodol.
- Mae CBCDC yn ganolfan gelfyddydau brysur sy’n llwyfannu 500 o berfformiadau’r flwyddyn (llawer ohonynt am ddim) sy’n gyfuniad o artistiaid o’r radd flaenaf a gwaith myfyrwyr, yn aml ochr yn ochr. Mae digwyddiadau mawr rheolaidd yn CBCDC yn cynnwys Cerddor Ifanc y Flwyddyn y BBC, BBC Canwr y Byd Caerdydd a digwyddiadau annibynnol fel Cyngres Telynau’r Byd ym mis Gorffennaf 2022.
- Y Coleg yw’r conservatoire cyntaf yn y DU i gyflawni lefel safon aur o sicrwydd ansawdd ar draws meysydd Cerddoriaeth, Drama a Dan 18 yn adolygiad Gwella Ansawdd Cerddoriaeth rhyngwladol diweddar MusiQuE. Gwnaeth agwedd y Coleg o ran profiad myfyrwyr unigol, cydweithio amlddisgyblaethol ac uchelgais cyffredinol argraff arbennig ar yr adolygwyr, a nododd fod CBCDC yn enghraifft ddisglair o arfer gorau ar draws conservatoires Ewrop, ac yn adlewyrchu pobl eithriadol a chymuned unigryw’r Coleg.
- Fel yr unig gonservatoire Steinway cyfan yn y byd mae gan y Coleg bellach fflyd o bianos o’r radd flaenaf, ac mae pob piano acwstig yn y Coleg yn un Steinway.
- Credwn yn sylfaenol yng ngrym cerddoriaeth i drawsnewid a chyfoethogi cymdeithas, gan ddatblygu sgiliau addysgu, hyfforddi a chyd-greu prosiectau i greu cerddorion y dyfodol a fydd yn gwneud argraff fel perfformwyr, athrawon a galluogwyr o fewn y gymuned ehangach. Mae cwestiynau sylfaenol - ‘Sut gallwn siapio diwydiant y dyfodol’, ‘Sut gallwn ddefnyddio celfyddyd i wneud gwahaniaeth’ – yn ein helpu i gynhyrchu cerddorion sy’n wirioneddol berthnasol i’r byd yr unfed ganrif ar hugain.
- Byddwch yn ymarfer, yn astudio ac yn perfformio mewn lleoliad hyfryd a llawn ysbrydoliaeth sy’n ffinio â Pharc Bute, sef un o fannau gwyrdd mwyaf y ddinas. Mae gennym neuadd gerddoriaeth siambr gydag acwsteg hynod, cyntedd a man perfformio gwydrog, Theatr Richard Burton, yn ogystal â stiwdios a mannau rihyrsal o’r radd flaenaf.
- Mae ein campws yng nghanol Caerdydd, Dinas Gerddoriaeth gyntaf y DU, a phrifddinas gartrefol a llewyrchus Cymru, sydd ond dwy awr ar y trên i ganol Llundain.
- Cafodd Caerdydd ei henwi’n ddinas fwyaf cost-effeithiol yn y DU ar gyfer myfyrwyr, yn ôl Mynegai Byw Myfyrwyr NatWest 2022.
Cofrestrwch i Dderbyn Diweddariadau
I dderbyn rhagor o wybodaeth am astudio gyda ni, cofrestrwch isod.
Anfonir e-bost atoch yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Gwiriwch eich ffolder sbam / sothach os nad yw’r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau.