Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Zoë Smith

Rôl y swydd: Pennaeth Rhaglenni Ôl-raddedig (Cerddoriaeth)

Adran: Cerddoriaeth

Anrhydeddau: MA (Oxon), Tystysgrif Astudiaethau Uwch (RAM), ALCM, SFHEA

Bywgraffiad Byr

Fel cyfeilydd, mae Zoë Smith wedi gweithio’n helaeth ym Mhrydain ac yn rhyngwladol gyda chantorion ac offerynwyr. A hithau wedi graddio o Brifysgol Rhydychen a’r Academi Gerdd Frenhinol, mae wedi perfformio yn llawer o brif leoliadau datganiadau Llundain, yn ogystal ag yn y Schubert-Saal yn Vienna a’r Sala Nezahualcóyotl yn Ninas Mecsico. Derbyniodd wobrau am gyfeilio i ganeuon ac arbenigodd hefyd yn repertoire y ffliwt, gan weithio mewn dosbarthiadau meistr a datganiadau gyda llawer o ffliwtwyr blaenllaw gan gynnwys Sarah Newbold, Alexa Still a’r diweddar Alain Marion a William Bennett, yn ogystal â recordio tri CD i’r ffliwt a’r piano.

Arbenigedd

Ers 1999, bu Zoë yn gweithio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, lle mae bellach yn Bennaeth Rhaglenni Ôl-raddedig (Cerddoriaeth). Fel pianydd, mae wedi perfformio gydag amrywiaeth o artistiaid gwadd nodedig yn y Coleg, gan gynnwys Michael Collins (clarinét), Michael Cox (ffliwt) a Roderick Williams (bariton). Ym mis Gorffennaf 2015, dyfarnwyd iddi Uwch Gymrodoriaeth yr Academi Addysg Uwch.

Mae Zoë ar hyn o bryd yn gweithio mewn partneriaeth â Tŷ Cerdd i ymchwilio i gerddoriaeth offerynnol Cymru yr 20fed ganrif, i geisio codi ymwybyddiaeth o’r repertoire cyfoethog hwn a hybu cerddorion o Gymru a thu hwnt i’w berfformio. Bu’n cydweithio â Tŷ Cerdd ers 2016, gan weithio ar berfformiadau o gerddoriaeth o’i archifau, yn bersonol a chyda myfyrwyr CBCDC. Yn 2019, rhyddhawyd ei CD o gerddoriaeth Gymreig i’r piano, sy’n cynnwys gwaith 13 o gyfansoddwyr o Gymru, gan Tŷ Cerdd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst. Mae’n parhau i ddatblygu prosiectau sy’n ymchwilio i gerddoriaeth o Gymru a’i pherfformio, mewn cydweithrediad agos â Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ei hallbwn diweddaraf yw Cronfa Ddata Allweddau i Adnodd Cerddoriaeth Offerynnol Cenedlaethol Cymru, sy’n rhestru 880 o weithiau o Gymru i allweddellau.

Mae Zoë yn Ymddiriedolwr Ymddiriedolaeth Mervyn Burtch ac roedd yn aelod o Gyngor Artistig yr Academi Opera Ewropeaidd o 2018 i 2020. Cyflwynodd ‘Making connections: using work-based learning to increase the confidence of conservatoire music students’ yng nghynhadledd LATIMPE yr Association of European Conservatoires yn Oslo ym mis Hydref 2018.

Cyflawniadau Nodedig

Mae Zoë yn Arholwr Allanol profiadol, gan weithio gydag Ysgol Gerdd a Drama Guildhall (Guildhall Artist Masters) a’r Royal Marines Music School (BMus). Roedd yn aelod o’r panel yng nghategori’r piano ar gyfer Cerddor Ifanc y Flwyddyn y BBC yn 2015 a 2022, ac yn feirniad yng Ngŵyl Cerddorion Ifanc Abertawe yn 2014, 2017, a 2019, ac mae’n hyfforddwr a beirniad rheolaidd i Gerddorion Ifanc Dyfed.

Dolenni i ymchwil / prosiectau perthnasol

https://welshmusic.rwcmd.ac.uk/

Cartref ar gyfer cyfres gynyddol o adnoddau ar gerddoriaeth offerynnol o Gymru, gan gynnwys Cronfa Ddata Allweddellau

https://www.tycerdd.org/welsh-impressions

CD o gerddoriaeth unawdau piano o Gymru

Proffiliau staff eraill