Helena Gaunt
Prifathro Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
Astudiodd Linda yn y Royal Northern College of Music ac yn y National Opera Studio. Ar ôl bwrw ei phrentisiaeth yn y Glyndebourne Festival, daeth yn brif soprano yn y Royal Opera House.
Dilynodd Linda yrfa lawrydd ym myd opera am dros 35 mlynedd, gan ganu amrywiaeth o rannau yn cynnwys Susanna, Drusilla, Oscar, Zerbinetta, Pamina, Adele, Gretel a Flora (The Knot Garden). Yn ystod ei gyrfa, bu’n canu mewn cyngherddau, datganiadau ac opera, yn bennaf yn y DU a ledled Ewrop.
Yn 2004 y gwnaeth Linda gyfarwyddo am y tro cyntaf: Hamlet gan Shakespeare yn adfeilion Abaty Llandudoch. Gan symud i fyw yn Seland Newydd, cyfarwyddodd Linda nifer o gynyrchiadau ar gyfer Opera Factory, Southern Opera a New Zealand Opera. Roedd ei huchafbwyntiau’n cynnwys The Magic Flute, L'Heure Espagnole, Suor Angelica, Albert Herring, Die Fledermaus, Messiah a Carmina Burana. Roedd hefyd yn dysgu Llais ym Mhrifysgol Auckland, gan ddatblygu eu cyrsiau Sgiliau Theatr ac Opera.
Gan symud i Seattle, gwnaeth Linda ysgrifennu a chyfarwyddo darnau pastiche operatig yn ogystal â pharatoi ei llyfr, Opera Lives. Dychwelodd i Gymru gyda golwg newydd ar dechneg lleisiol, ar ôl gweithio gydag Eric Parce ac ar hyn o bryd gyda Linda Esther Gray.
Mae Linda wedi ymroi i ddatblygu artistiaid ifanc, yn ogystal â chefnogi cantorion sydd wedi ennill eu plwyf. Fe’i comisiynwyd gan National Opera Studio i ymchwilio i adsefydlu canol gyrfa ar ôl wynebu anawsterau, ac yn sgil hyn mae’n arwain SingersResound, rhwydwaith o gymorth ar gyfer cantorion clasurol.
Amcan Linda yw annog lles lleisiol, corfforol a meddyliol, a hwyluso tirwedd lle gall canwr fynegi ei hun mewn ffordd ddilys.