Gofod i Bawb

Gofod i Bawb

Mae CBCDC yn ofod i bawb – mae cynwysoldeb yn werth craidd ac rydym yn parchu ein gilydd. Mae hyn yn hollbwysig i’n rhagoriaeth.

 

“Casgliad o wyth amcan trosfwaol ar gyfer 2020-25 yw ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol ac fe’i cefnogir gan gynllun gweithredu blynyddol. Ochr yn ochr â hyn, ac wedi’i gysylltu’n uniongyrchol iddo, rydym wedi trosi’r amcanion yn Gynllun Gwrth-hiliaeth sy’n nodi’r camau y byddwn yn eu cymryd eleni ac yn y dyfodol i greu’r math o brofiad Coleg cynhwysol yr ydym i gyd am ei rannu.

Mae hwn yn dangos sut y caiff cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant eu hyrwyddo ar gyfer nodwedd warchodedig hil. Mae’r holl nodweddion gwarchodedig wedi’u cynnwys yn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol a’r cynllun gweithredu blynyddol.

Fel y dywedodd ein Hathro Cadair Rhyngwladol ar gyfer Amrywiaeth, Uzo Iwobi, mor wych yn lansiad Hanes Pobl Dduon Cymru 365, mai taith rydym yn ei chyd-gerdded yw hon. Gwyddom nad ydym wedi cyrraedd eto ond rydym yn gwrando ac yn dysgu wrth i ni fynd ac mae’n wych i gael cefnogaeth ar draws y Coleg er mwyn helpu i gael popeth yn iawn. Mae’n daith heriol, ond mae dysgu gyda’n gilydd yn werthfawr iawn ar nifer o lefelau. Diolch i bawb sy’n gweithio gyda ni ar hyn.”

Yr Athro Helena Gaunt, Prifathro

 

“Pan ddangoswn ein hunain ar ein gorau cyfoethogir y Coleg hwn. Rwy’n annog pawb i fod yn rhan o’r ateb ac nid rhan o’r broblem.

Allwn ni ddim gwadu’r gorffennol oherwydd byddai gwneud hynny yn annilysu poen cymaint o bobl. Ond mewn cydnabyddiaeth o hynny, gyda’u cefnogaeth, byddwn yn datblygu i ddod yn well Coleg. Mae gennym ddywediad yn Affrica, ‘Os ydych chi eisiau mynd yn gyflym, ewch ar eich pen eich hun. Os ydych eisiau mynd yn bell, ewch gyda’ch gilydd’.

Rydw i wrth fy modd ein bod, fel Coleg, i gyd yn mynd gyda’n gilydd.”

Yr Athro Uzo Iwobi CBE, Is-Lywydd CBCDC

 

 


Amcanion Cydraddoldeb Strategol CBCDC (PDF)

 

strategic equality plan welsh
Cynllun Cydraddoldeb Strategol: Ein Cynnydd (PDF)

 


Cynllun Gwrth Hiliaeth CBCDC (PDF)

 


Datganiad Parch CBCDC (PDF)