Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yw Conservatoire Cenedlaethol Cymru. Mae’n cyfrannu at hunaniaeth ddiwylliannol Caerdydd a Chymru gyfan, ac mae’n denu rhai o’r myfyrwyr mwyaf talentog o bob rhan o’r byd.
Rydym yn darparu hyfforddiant ymarferol a seiliedig ar berfformiad arbenigol ac yn cystadlu ochr yn ochr â grŵp rhyngwladol o gonservatoires a cholegau celfyddydol arbenigol am y myfyrwyr gorau ledled y byd, gan alluogi myfyrwyr i fynd i fyd cerddoriaeth, theatr a phroffesiynau cysylltiedig a dylanwadu arnynt.
Llais Artistig
Mae’r Coleg yn addysgu rhai o’r myfyrwyr mwyaf talentog o bob rhan o’r byd, gyda’r nod o roi iddynt nid yn unig y sgiliau technegol a’r grefft sydd eu hangen arnynt i lwyddo ar lefelau uchaf y proffesiwn, ond hefyd eu cynorthwyo i ddatblygu ei ‘llais’ artistig eu hunain.
Amrywiaeth Creadigol
Mae calendr digwyddiadau’r Coleg yn llawn o dros 400 o berfformiadau cyhoeddus bob blwyddyn, yn cynnwys cyngherddau cerddorfaol, datganiadau, drama, opera a theatr gerdd. Mae amrywiaeth creadigol y Coleg yn sicrhau amgylchedd ysgogol a phrofiad eang i fyfyrwyr pob disgyblaeth.
Gwthio Ffiniau
Mae gan ein hathrawon ymroddedig gyfoeth o brofiad proffesiynol a phrofiad yn y diwydiant ac mae’r Coleg yn cydweithio gyda nifer o sefydliadau celfyddydol uchel eu proffil, yn cynnwys Opera Cenedlaethol Cymru, BBC NOW, artistiaid a chyfarwyddwyr ar ymweliad, er mwyn sicrhau bod natur alwedigaethol unigryw ein rhaglen hyfforddiant yn adlewyrchu arfer ac amodau presennol y byd proffesiynol.
Mae’r Coleg yn gwthio ffiniau yn gyson gyda rhaglenni astudio arloesol a chyffrous wedi eu teilwra i ofynion y diwydiannau celfyddydau a chreadigol cyfoes. Byddwn bob amser yn canolbwyntio ar y dyfodol ac rydym yn falch dros ben o dalent rhagorol ein myfyrwyr.
Cipolwg ar Flwyddyn
Allwn ni fesur y gwahaniaeth rydyn ni'n ei wneud? Yn sicr, does gennym ni ddim darlun llawn eto, ond rydyn ni ar daith a byddwn yn parhau i rannu ein cynnydd gyda chi.