Datganiad Hygyrchedd

Datganiad Hygyrchedd

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn gymwys i wefan Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn www.rwcmd.ac.uk.

Rheolir y wefan hon gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Rydym am weld cymaint o bobl â phosib yn defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu gwneud y canlynol:

  • Nesáu hyd at 300% heb i’r testun orlifo oddi ar y sgrin.
  • Addasu uchder llinell a bylchau testun gan ddefnyddio ategion porwr.
  • Llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig.
  • Neidio i gynnwys pob tudalen.
  • Gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin.

Rydym hefyd yn gweithio i sicrhau bod testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall.

 

Pa mor hygyrch yw’r wefan hon

Rydym yn gwybod nad yw pob rhan o’r wefan hon yn gwbl hygyrch, ac rydym yn gwneud ein gorau i ddatrys y problemau hyn:

  • Nid oes gan rai delweddau destun amgen.
  • Nid yw dogfennau y gellir eu lawrlwytho, gan gynnwys y rhai ar ffurf PDF, yn gwbl hygyrch.
  • Nid oes gan y mwyafrif o fideos gapsiynau.
  • Mae strwythur y penawdau ar rai tudalennau yn anghywir.
  • Mae rhai o’n tudalennau’n cynnwys deunydd o system docynnau ar-lein a ddarperir gan gyflenwr allanol. Rydym yn ymwybodol o broblemau hygyrchedd gyda’r system hon.

 

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon

Rydym yn awyddus bob amser i wella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn ymwybodol o unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru yma neu os na fyddwch o’r farn ein bod yn bodloni gofynion o ran hygyrchedd, cysylltwch â webmaster@rwcmd.ac.uk.

Wrth gysylltu â ni, darparwch:

  • Cyfeiriad gwe’r dudalen lle daethoch o hyd i’r broblem.
  • Disgrifiad o’r broblem (ac a oedd hyn ar ddyfais symudol neu gyfrifiadur).
  • Enw ac, os yn bosibl, fersiwn y porwr gwe sy’n cael ei ddefnyddio.
  • Manylion unrhyw dechnoleg gynorthwyol sy’n cael ei defnyddio (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin).

 

Gweithdrefn gorfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os ydych yn anhapus â’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).

 

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

 

Statws cydymffurfio

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1, yn sgil yr hyn nad yw’n cydymffurfio â nhw sydd wedi’u rhestru isod.

 

Cynnwys anhygyrch

Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.

 

Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd

Nid yw rhai agweddau’r wefan hon yn cydymffurfio â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1, fel y dangosir isod.

 

Problemau gyda thestun

  • Mae gan rai tudalennau strwythurau pennawd anghywir (WCAG 1.3.1).
  • Efallai na fydd testun disgrifiadol mewn rhai dolenni yn addysgiadol nac yn disgrifio cyrchfan y ddolen yn ddigonol (WCAG 2.4.4).

 

Problemau gyda delweddau

  • Nid oes gan rai delweddau sydd angen disgrifiad unrhyw destun amgen neu mae ganddynt destun amgen sydd ddim yn ddigon disgrifiadol (WCAG 1.1.1).

 

Problemau gyda thablau

  • Nid oes gan rai tablau unrhyw benawdau (WCAG 1.3.1).
  • Ni ellir gweld rhai tablau llydan ar sgriniau bach (WCAG 1.4.10).

 

Problemau gyda sain a fideo

  • Nid oes gan rai fideos gapsiynau (WCAG 1.2.2).
  • Ni ellir oedi fideos cefndir (WCAG 2.2.2).

 

Problemau gyda PDFs a dogfennau eraill

  • Nid yw rhai dogfennau PDF a Word yn cwrdd â safonau hygyrchedd – efallai na fyddant wedi eu marcio fel eu bod yn hygyrch i raglen ddarllen sgrin, ac efallai na fydd modd eu llywio trwy ddefnyddio penawdau (WCAG 4.1.2).

 

Problemau gyda llywio gan ddefnyddio bysellfwrdd

  • Gall orielau lluniau fod yn anodd eu llywio gan ddefnyddio bysellfwrdd (WCAG 2.1.1).

 

Problemau gyda chynnwys wedi’i fewnosod

  • Mae tudalennau’n cynnwys elfennau iframe sydd ddim yn cynnwys priodoledd teitl sy’n nodi’r ffrâm (WCAG 2.4.1).

 

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 20 Medi 2020. Cafodd ei ddiweddaru diwethaf ar 20 Medi 2020.

Cafodd y wefan hon ei phrofi diwethaf ym mis Medi 2020. Cynhaliwyd y prawf gan staff yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Fe wnaethon ni brofi sampl gynrychioliadol o dudalennau’r wefan.